Celf yn yr Eidal (1500-1700) Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yma mae cyfres o weithiau o gyfnod ‘Y Dadeni’.

Mae’n anodd cyfleu’n syml beth yw union ystyr ‘Y Dadeni’. Rhan hanfodol ohono yw’r modd yr oedd artistiaid ac ysgolheigion yn cyfuno traddodiadau Cristnogol â thraddodiadau hen Wlad Groeg a Rhufain.

Cododd y term ‘dadeni’ o’r weithred o ailddarganfod gwerthoedd clasurol.

Ysbrydolodd y diwylliant newydd hwn gyfnod o greadigrwydd artistig mawr. Persbectif oedd un datblygiad allweddol o ran arddull ac athroniaeth. Roedd hyn yn golygu tynnu llinellau a fyddai’n uno mewn un pwynt sefydlog, gan dwyllo’r llygad i feddwl bod dyfnder i wyneb gwastad y darlun.

Arweiniodd syniadau dyneiddiol at bwyslais ar sensitifrwydd a realiti profiadau, hyd yn oed wrth ymdrin â delweddau crefyddol.

Dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg oedd uchafbwynt y Dadeni yn yr Eidal, a bu hefyd yn gyfnod o ryfela ac o helbulon gwleidyddol. Diolch i gyfuniad o gyffro gwleidyddol a dynameg ddiwylliannol crëwyd gweithiau celf rhyfeddol

‘Yn eich t tra bendigedig, ganed y celfyddydau o’r newydd, a thrwy eich hynafiaid mae’r byd wedi adfer y gweithiau celf prydferthaf’ (Giorgio Vasari yn cyfarch Cosimo de Medici, 1555).

» Nôl i Celf

[delwedd: Virgin and Child, Cima da Congegliano]

CONGEGLIANO, Cima da (1459 - 1517)
Virgin and Child
oil on board
c. 1500
purchased, 1977
NMW A 240

[delwedd: Map oriel 1]

Lleoliad:

Oriel 2
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.