Cynhanes Cynnar: Projectau a Chyhoeddiadau

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu'r Adran yn ymchwilio i aneddiadau'r cyfnod Paleolithig yng Nghymru drwy gyfrwng gwaith y cyn Geidwad Archaeoleg, sef Dr Stephen Aldhouse-Green, gyda chymorth Miss Elizabeth Walker, Rheolwr y Casgliadau. Mae'r gwaith hwn hefyd wedi golygu ailasesu llawer iawn o ddeunydd o waith cloddio yn y gorffennol, gan gynnwys deunydd o safle enwof Ogof Paviland, Gyr ac Ogof Coygan.

Ogof Pontnewydd
Ymchwil Ogof Pontnewydd

Bu gwaith cloddio newydd mewn nifer o ogofâu yng Nghymru, gan gynnwys Pontnewydd, Cefn, Hoyles Mouth a Little Hoyle. Yma bu archaeolegwyr yn casglu deunydd newydd dan amodau gwyddonol modern. Yn sgîl y gwaith, darganfuwyd dannedd yn perthyn i rywun oedd yn byw tua 250,000 o flynyddoedd CC - y bobl gyntaf yng Nghymru.

Yn dilyn y gwaith hwn cyhoeddwyd nifer o erthyglau academaidd a monograff, a bwriedir cyhoeddi rhagor o waith. Yr un pryd cyhoeddwyd cyflwyniad poblogaidd i'r cyfnod hwn yng Nghymru, sef 'Helwyr Oes yr Iâ'. Roedd elfennau o ddiwylliant Paleolithig a Neolithig Cymru yn cael eu cynrychioli yn yr arddangosfa "Celfyddyd, Defod a Marwolaeth", a chafwyd cyhoeddiad i gyd-fynd â'r arddangosfa.

Mae'r Adran hefyd wedi paratoi catalog o'i chasgliadau Mesolithig a Neolithig (Catalogue of the Mesolithic and Neolithic collections at the National Museum of Wales, ISBN 0 7200 0516 7), bydd y cyntaf mewn cyfres o gatalogau newydd

Dr Steve Burrow, Cynhanesydd Cynnar

Projectau ymchwil: Yr Adran Archaeoleg a Niwmismateg

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.