Rydych chi yn:  >   >   > 

Rheoli'r Casgliadau

Curadur: Carolyn Charles BA

Mae gan yr Adran Ddiwydiant gasgliad o tua 297,700 o eitemau, gan gynnwys gwrthrychau tri dimensiwn, dogfennau, ffotograffau, llyfrau, gwaith celf, ffilmiau a recordiau sain. Mae dau aelod o staff llawn amser yn gyfrifol am reoli'r casgliadau yn yr Adran a'u prif gyfrifoldebau yw sicrhau atebolrwydd yr Amgueddfa am ei chasgliadau wrth iddynt gael eu derbyn i'r Adran drwy Amgueddfa Lechi Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r casgliadau sy'n dod yn uniongyrchol i'r Ganolfan Gasgliadau. Felly, gellir crynhoi eu prif ddyletswyddau fel a ganlyn: sicrhau perchnogaeth gyfreithiol derbynion posibl; cofnodi gwrthrychau newydd a dderbynnir gan yr Adran; ailgofnodi'r casgliadau; cynnal a chadw cofnodion lleoliad; a gweinyddu benthyciadau i mewn ac allan o'r Adran.

Ym 1996 dechreuodd yr Adran Ddiwydiant osod dogfeniad ei chasgliad ar gyfrifiadur, a hyd yma, gyda chymorth Cynorthwy-ydd CMS, mae dros 76,000 o eitemau'r Adran Ddiwydiant ar System Rheoli Casgliadau Amgueddfa Cymru.

Mae'r Adran wedi dechrau'r gwaith o fewnbynnu ei chasgliad ffotograffig cyfeiriol ac erbyn hyn mae 50,000 o gofnodion ar y bas data.

Gweler y manylion cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rheoli'r casgliadau.

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.