Casgliadau a Mynediad

Curadur: Carolyn Charles BA

Mae gan yr Adran Ddiwydiant a Thrafnidiaeth gasgliad o tua 280,000 o eitemau, gan gynnwys gwrthrychau tri dimensiwn, dogfennau, ffotograffau, llyfrau, gwaith celf, ffilmiau a recordiau sain. Mae staff llawn amser yn gyfrifol am reoli'r casgliadau a mynediad yn yr Adran a'u prif gyfrifoldebau yw sicrhau atebolrwydd yr Amgueddfa am ei chasgliadau wrth iddynt gael eu derbyn i'r adran drwy Amgueddfa Lechi Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a'r casgliadau sy'n dod yn uniongyrchol i'r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol. Felly, gellir crynhoi eu prif ddyletswyddau fel a ganlyn: sicrhau perchnogaeth gyfreithiol derbynion posibl; cofnodi gwrthrychau newydd a dderbynnir; ailgofnodi'r casgliadau; cynnal a chadw cofnodion lleoliad; a gweinyddu benthyciadau i mewn ac allan.

Gweler y manylion cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rheoli'r casgliadau.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.