Llyfrgell Gyfeiriadurol

Mae Llyfrgell Gyfeiriadurol yr Adran Ddiwydiant yn cynnwys dros 20,000 o lyfrau a chyfnodolion sydd at wasanaeth staff yr Amgueddfa wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau ymchwil, curadurol a chadwraethol mewn perthynas â chasgliad yr Amgueddfa dan eu gofal, a hefyd ddehongli hanes diwydiannol, trafnidiaeth a morwrol Cymru.

Yn ogystal â chasgliad cynrychioliadol o gyfrolau yn ymdrin â hanes diwydiannau, ceir yn y Llyfrgell hefyd weithiau technegol a chyfarwyddiadol am y diwydiannau hyn. Mae'r Llyfrgell yn cynnwys set gyflawn o Gofrestri Lloyds o 1836 hyd y presennol (mae gennym ambell gyfrol yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1764 a 1832) a chyfres o gyfrolau ar y llongddrylliadau a gofnodwyd o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Mae gennym hefyd set gyflawn o'r Annual List of Mines (HMSO) o'r 1850au hyd y presennol. Mae gan y Llyfrgell setiau cynhwysfawr o gyfnodolion pwysig sydd mewn bodolaeth, gan gynnwys HM Inspectors of Mines Reports, yn ogystal â bron 8,000 o gyfrolau a phamffledi rhwymedig yn gysylltiedig â'r diwydiant glo. Ar hyn o bryd tanysgrifiwn i dros ddeugain o gyfnodolion cyfoes.


Oriau agor ac amodau defnyddio

Mae'r Llyfrgell Gyfeiriadurol ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm. Mae ar gau bob penwythnos a gwyliau cyhoeddus. Gan mai Llyfrgell Gyfeiriadurol ydyw, ni ellir benthyca'r llyfrau er mae modd rhoi'r llyfrau ar fenthyg i lyfrgelloedd eraill drwy'r gwasanaeth benthyg rhynglyfrgellol.

Os hoffech ddefnyddio'r Llyfrgell gallwch wneud hynny drwy drefniant ymlaen llaw; dylid cysylltu â'r Curadur sy'n gyfrifol am y rhan honno o'r Llyfrgell yr ydych am ei defnyddio.

Gweler y manylion cyswllt ar gyfer y llyfrgell.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.