Rydych chi yn:  >   >   > 

Deinosoriaid ar Droed

Deinosoriaid ar Droed

Esblygodd y deinosoriaid cyntaf 230 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a buont farw yn sydyn 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Am 165 miliwn o flynyddoedd y rhain oedd prif anifeiliaid tir ein planed. Yn ogystal ag astudio eu sgerbydau, gallwn ddysgu cryn dipyn am fywydeg ac ymddygiad deinosoriaid o'u holion troed ffosiledig.

Gelwir un cam yn 'ôl' (track), a nifer o gamau a wnaed gan anifail wrth symud yn 'drywydd' (trackway). Mae'r rhain yn dangos i ni ai creadur deudroed neu bedairtroed oedd, a oedd yn cerdded neu yn rhedeg, ei faint, ei bwysau, ei oed, a hyd yn oed a oedd yn teithio mewn haid neu ar ei ben ei hunan. Cerddai'r mwyafrif o ddeinosoriaid deudroed, gan gynnwys y Tyranosoriaid, ar fysedd eu traed ac fe'u cynlluniwyd i fod yn gyflym ac yn ystwyth. Er bod y deinosoriaid pedairtroed, fel y Braciosoriaid, gan amlaf yn fawr ac yn drwm roeddent hwy hefyd yn cerdded ar fysedd eu traed. Roedd hyd yn oed y sawropodiaid enfawr yn cerdded ar flaenau bysedd eu traed blaen, a gan amlaf, dim ond ychydig yn fflat-wadn oedd eu traed ôl.

 

Deinosoriaid ar Droed

Roedd y mwyafrif o'r deinosoriaid yn cerdded un ai ar ddwy goes neu bedair, ond defnyddiai rhai y ddau ddull o symud, fel y gwna'r tsimpansî heddiw. Roedd lled trywydd deinosoriaid deudroed yn gul o achos eu hosgo unionsyth, ac roedd yn lletach gyda deinosoriaid pedairtroed er mwyn rhoi sefydlogrwydd iddynt. Fodd bynnag, wrth i'r ddau fath o greadur gyflymu, tyfai lled eu trywydd yn gulach. Gellir cyfrifo cyflymder symudiad anifail ar sail hyd ei gamau, ac mae cynnydd yn hyd camau anifail yn awgrymu newid yn ei gyflymder.

Roedd gan y mwyafrif o ddeinosoriaid deudroed hyd coes neu uchder clun oddeutu pedair gwaith hyd eu cam. Mae'r cyfrifiad hwn hefyd yn berthnasol i gyfrifo maint deinosoriaid pedairtroed, ond yn yr achos hwn, hyd y traed cefn yn unig a fesurir. Gyda'r creaduriaid pedairtroed hyn, gellir cyfrifo hyd y corff trwy fesur y pellter rhwng pwynt canol y traed cefn a phwynt canol y traed blaen, sydd yn cyfateb i'r pellter rhwng y glun a'r ysgwydd. Yn y ddau achos, unwaith y ceir cadarnhad o'r meintiau hyn, fe'u cymherir gyda sgerbydau er mwyn amcangyfrif hyd llawn yr anifail.

Deinosoriaid ar Droed

Canfuwyd olion deinosoriaid ym mhob rhan o'r byd. Darganfyddwyd sawl un yn ddiweddar yn Affrica, De a Gogledd America, Asia, Ewrop ac Awstralia. Ym Mhrydain, canfuwyd y rhan fwyaf o'r olion yn Dorset, Swydd Efrog, ar Ynys Wyth, ac yn ne Cymru. Yng nghreigiau Ffrainc y cafwyd yr olion hynaf y gwyddom amdanynt - rhai 225 miliwn o flynyddoedd oed o'r cyfnod Triasig canol. Camau tri bys yw'r rhain, tebyg i aderyn, a wnaed gan ddeinosor deudroed gweddol fychan. Darganfuwyd nifer o olion ymlusgiaid yn yr un man, gan ddangos mai ymlusgiaid a dra-arglwyddiaethai yng nghyfnod cynnar y deinosoriaid. Fodd bynnag, erbyn y cyfnod Jurasig cynnar, 190 miliwn o flynyddoedd yn ôl, y deinosoriaid oedd y prif anifeiliaid ar y tir, ac mewn llawer o fannau, olion deinosoriaid yn unig sydd i'w gweld. Un rheswm am eu llwyddiant yw'r ffaith i'w hystwythder a'u deallusrwydd esblygu. Roedd newidiadau yn strwythur cymalau'r glun, y penglin a'r ffêr yn eu galluogi i sefyll yn unionsyth yn hytrach nag ymledu fel yr ymlusgiaid a'r amffibiaid cynharach.

 

Deinosoriaid ar Droed

Mae'r olion hefyd yn egluro nifer o bethau ynglŷn ag arferion byw y deinosoriaid. Gwyddom am olion llusgo a wnaethpwyd gan gynffonnau anifeiliaid o olion ymlusgiaid tebyg i fadfallod ac amffibiaid â choesau byrion, ond nid yw olion deinosoriaid yn dangos hyn, sy'n dangos bod deinosoriaid yn dal eu cynffonnau uwchlaw'r ddaear. Mae rhai sgerbydau deinosoriaid yn dangos esgyrn wedi eu niweidio ac anafiadau wedi gwella, a gall olion hefyd ddangos prawf o anafiadau. Mae olion yn Utah, UDA yn dangos deinosor gydag anaf i fys ei droed ac ar yr olion mae camau hir a byrion bob yn ail, sy'n awgrymu fod yr anifail yn gloff.

A oedd deinosoriaid yn greaduriaid cymdeithasol, neu oedden nhw'n hoffi bod ar eu pennau'u hunain? Mae tystiolaeth o'r olion yn awgrymu'r ddau. Mae'r dystiolaeth o sawl lleoliad ym mhob rhan o'r byd, gydag olion amryfal greaduriaid, yn awgrymu fod rhai deinosoriaid yn gymdeithasol. Mae enghreifftiau da o Afon Purgatoire yn UDA lle y cedwid pump o olion gyfochr â'i gilydd a wnaethpwyd gan grwp o frontosoriaid yn symud ar hyd hen draethlin, ac yn Ne Korea, ceir olion deunaw o adardroedogion yn teithio gyda'i gilydd.

Ni wnaethpwyd holl olion y creaduriaid sy'n teithio mewn grwpiau gan greaduriaid o'r un oed. Mewn creigiau o'r cyfnod Cretasig yn Ransh Davenport, Texas, canfuwyd tri-ar-hugain o olion brontosoriaid gyfochr â'i gilydd, yn cynnwys creaduriaid hen ac ifanc. Llwyddodd gwyddonwyr felly i ddadansoddi lleoliad a symudiad yr haid yn gyfan, gan ddangos pedwar neu bum creadur yn teithio ochr yn ochr, gyda'r creaduriaid mwyaf yn arwain, a'r rhai iau yn dilyn.

 

Deinosoriaid ar Droed

>Mae rhai o'r olion yn anferth, ac yn dangos tystiolaeth am gannoedd o ddeinosoriaid. Yng Ngholorado mae'r trywydd di-dor mwyaf yng Ngogledd America, ar un esgair galchfaen sy'n dangos dros 1300 o olion. Mae'r olion i'w gweld mewn o leiaf bedair haen o galchfaen a charreg glai a ddyddodwyd mewn llyn bas yn ystod y cyfnod Jurasig, gan brofi i'r deinosoriaid ymweld â'r llyn tros gyfnod hir. Fodd bynnag, mae hyd yn oed y safle hwn yn fach o'i gymharu â'r safloedd anferth ('megatracksites'). Mae un safle yn Utah, UDA yn ymestyn dros 1000 o filltiroedd sgwâr a gall fod yno dros filwn o olion, tra bo sawl safle hyd at 100,000 milltir sgwâr o ran maint, a gall fod dros gan bilwn o olion yno.

Mae rhai safloedd gydag olion traed yn awgrymu dosraniad y deinosoriaid. Mae dau safle o'r un oed yng ngorllewin yr Unol Daleithiau yn cynnwys gwahanol gymunedau mewn rhanbarthau gwahanol, gydag igwanodoniaid yn Colorado a sawropodiau yn Texas.

Cafwyd olion creaduriaid eraill, gan gynnwys olion adar, gydag olion rhai deinosoriaid. Er eu bod yn debyg o ran siâp, yn gyffredinol maen nhw'n llai ac mae'r gofod rhwng bysedd y traed yn llawer lletach. Diddorol yw nodi, pan ddarganfuwyd olion deinosoriaid am y tro cyntaf, y tybid mai olion adar oeddent oherwydd y tebygrwydd agos. Ond pam fyddai olion adar i'w gweld gydag olion deinosoriaid? Efallai i'r adar ddilyn y deinosoriaid hyd lannau'r afonydd gan fwydo ar bryfed a mwydod a ddosbarthwyd gan eu perthnasau mwy. Perthnasau? Wel ie, gan fod gwyddonwyr yn credu i adar esblygu o ddeinosoriaid. Mae'r ffosil hynaf o aderyn, yr Archaeopterics, yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Jurasig, ac erbyn y cyfnod Cretasig, mae'r nifer o olion adar yn cynyddu.

de

 

Marathon Oil U.K., Ltd.
Gwobrwywyd Marathon Oil UK Ltd. o dan y Cynllun Gefeillio (Cynllun Nawdd Celfyddydau Treftadaeth Cenedlaethol) am ei gymorth i arddangosfa 'Deinosoriaid ar Droed' Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Mae'r Cynllun Gefeillio yn Gynllun Llywodraeth dan reolaeth ABSA (Cymdeithas Nawdd Busnes i'r Celfyddydau).

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.