Dyfodol Arddangos Celf yng Nghymru 2008

Yn 2007 comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygiad i ystyried y dewisiadau ar gyfer datblygu oriel genedlaethol i Gymru o dan y cytundeb 'Cymru'n Un'. Gofynnwyd i Amgueddfa Cymru arwain y gwaith o benodi ymgynghorwyr i gyflawni'r adolygiad, oedd hefyd yn cynnwys y posibilrwydd o sefydlu canolfan celf gyfoes i Gymru. Roedd y gr?p llywio oedd yn goruchwylio'r penodiad yn cydnabod bod unrhyw gynnig i sefydlu Oriel Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gofyn am ystyried goblygiadau hyn ar ein casgliadau Hanes Natur, felly ehangwyd briff yr ymgynghorwyr er mwyn galluogi iddynt ystyried yr elfen hon hefyd.

Cyflwynwyd yr adroddiadau terfynol i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn Hydref 2008 a chawsant eu trafod gan y Gweinidog Treftadaeth mewn Cyfarfod Llawn yn y Senedd. Mae'r adroddiadau ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.