Casgliadau

[delwedd: Pine Marten]

Dechreuodd y casgliad hwn yn Amgueddfa Dinas Caerdydd a leolid gynt yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Mae tua 200 o'r sbesimenau gwreiddiol, yn bennaf adar wedi'u mowntio ac ysgerbydau, yn dal yn ein meddiant - y cynharaf yn dyddio'n ôl i 1882.

Dros y 80 mlynedd ddiwethaf, tyfodd y Casgliad trwy ychwanegu nifer o fân gasgliadau a llawer iawn o roddion unigol. Casgliad cymharol fychan ydyw o hyd, yn cynnwys tua 12,000 o grwyn cabinet, 8,000 o negyddion gwydr, 7,500 o nytheidiau o wyau adar, 4,000 o baratoadau ysgerbydol a 1,800 o sbesimenau wedi'u mowntio.

Ymhlith y gwrthrychau o bwys arbennig ceir 10 sbesimen cyflawn o anifeiliaid diflanedig: Carfil Mawr alca impennis (ac wy), Colomen Grwydr Ectopistes migratoria (2, mownt a sgerbwd), Dodo Raphus cucculatus (sgerbwd), Huia Heteralocha acutirostris (2 fownt, 2 groen), Thylacine Thylacinus cynocephalus (mownt) ac wy wedi'i ffosileiddio o Aderyn Eliffant Aepyornis maximus. Ac er nad yw'n gyflawn, mae gennym asgwrn coes rhywogaeth anhysbys o Foa.

[delwedd: Platypus]

Mae gennym tua 90 o sbesimenau rhifoledig neu ddyfynedig yn y casgliad, yn bennaf rhywogaethau adar a physgod na welir mohonynt yn aml yn yr Ynysoedd Prydeinig - os digwydd i rywun eu gweld, yna ceir adroddiadau am y digwyddiad mewn amryw o gylchgronau. Mae gennym hefyd nifer o sbesimenau a ddaeth i amlygrwydd yn y papurau newyddion lleol: sgerbwd 'Billy' y morlo, cyrn Carw Coch a sawl aderyn albinaidd neu lewsitig.

Gellir chwilio trwy dwy gronfa ddata ar-lein, y naill yn rhoi gwybodaeth am y casgliad o grwyn adar, a'r llall yn cynnig manylion am gasgliad yr Amgueddfa o anifeiliaid wedi'u mowntio.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.