Casgliadau

Printiadau a lluniadau

Arum

Casgliad gwych o ryw 9000 o brintiadau a lluniadau, o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrliwiau amaturaidd. Mae'n cynnwys gweithiau gan feistri darlunio botanegol fel Ehrer, Redouté a Fitch. Llwyddodd yr arddangosfa Paradwys y Blodau (Hydref 97 - Mawrth 98) i godi proffeil yr eitemau hyn yn sylweddol. Mae'r casgliad wedi'i ddogfennu a'i gadw'n dda a cheir lefel uchel o arbenigedd oddi mewn i'r Adran. Mae catalog cynhwysfawr yn cael ei baratoi. Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn canolbwyntio ar gryfderau'r casgliadau, yn enwedig gwaith gan arlunwragedd botanegol, a hefyd Tablau Botanegol unigryw Bute gan John Miller.

Fformat ffotograffeg canolig

Tua 47,000 o sleidiau 35mm a fformat ffotograffeg canolig. Cryfderau'r casgliad hwn yw fflora ac amgylchedd Cymru, planhigion alpaidd a darluniau botanegol.

Casgliad ffilatelig botanegol.

Dros 23,000 o stampiau, taflenni miniatur, gorchuddion diwrnod cyntaf a maxicards o bedwar ban byd yn dangos ystod eang o blanhigion, ffwng a ffosilau planhigion. Caiff y rhain eu defnyddio mewn arddangosfeydd ac arddangosiadau.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.