Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Blog-blodau

Bylb Bychan
Bylb Bychan

Gallwch ddefnyddio'r blog i:

  • Ofyn cwestiynau i Athro'r Ardd.
  • Rhannu straeon neu ffotograffau diddordol ag ysgolion eraill.
  • Pan fyddwch chi'n anfon neges, bydd Athro'r Ardd yn ei darllen ac yn ei chyhoeddi ar y we.

Er mwyn bod yn we-ddiogel:

  • Ni fyddwn ni'n cyhoeddi enwau unrhyw blant.
  • Wrth adael eich neges, rhowch enw'ch ysgol a byddwn ni'n cyhoeddi eich sylw fel 'disgyblion + enw'r ysgol'.
  • Cofiwch ofyn am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu lun.

SCAN

Mae SCAN yn broject Amgueddfa Cymru sy'n cynorthwyo ysgolion i hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Ionawr 2015

Bwrw eira a dyfnder eira

Postiwyd gan Penny Tomkins ar 16 Ionawr 2015

Shwmae Gyfeillion y Gwanwyn, 

Diolch am anfon cofnodion yr wythnos ddiwethaf. Mae hi’n bendant yn dechrau oeri, ac mae rhai ohonoch chi wedi gweld eira hyd yn oed! Dyma pam dwi am esbonio sut mae meteorolegwyr (gwyddonwyr tywydd) yn mesur eira. 

Mae mesur faint o law sy’n disgyn yn hawdd o’i gymharu â mesur faint o eira sy’n disgyn. Fydd eira ddim yn bihafio! Bydd yn aml yn cael ei chwythu gan y gwynt ac yn lluwchio, sy’n golygu bod yr eira’n ddwfn mewn mannau ond yn llawer llai dafliad carreg i ffwrdd. Oherwydd bod yr eira’n disgyn yn anghyson, bydd y mesuriadau o’r llefydd yma’n anghywir! Dyna pam mae’n rhaid mesur mewn mannau gwastad, agored ymhell o ble fydd eira’n lluwchio. Bydd eira hefyd yn chwarae gemau gyda’r Meteorolegwyr sy’n ceisio ei fesur – bydd yn toddi’n ddŵr, cyn rhewi fel iâ. Felly dyw’r eira sy’n cael ei fesur ddim bob tro yn cyfateb i faint o eira sydd wedi disgyn. Mae eira newydd yn disgyn ar ben hen eira hefyd, ac mae’n anodd dweud faint o eira sydd wedi disgyn o un diwrnod i’r llall. 

Mae’n rhaid i’r meteorolegwyr gofio holl driciau’r eira a meddwl am ffyrdd i ddarganfod faint o eira sydd wedi disgyn. Byddan nhw’n edrych ar gwymp eira (faint o eira sy’n disgyn mewn diwrnod) a dyfnder eira (cyfanswm dyfnder yr eira, hen a newydd). Un ffordd o fesur cwymp eira yw gyda ffon bren. Bydd y meteorolegwr yn gosod y pren mewn lleoliad agored lle na fydd eira’n lluwchio ac yn mesur yr eira bob chwech awr. Drwy glirio’r eira o’r pren ar ôl ei fesur, dim ond eira’r diwrnod hwnnw fydd yn cael ei fesur, a gall y gwyddonydd ddweud faint o eira sydd wedi cwympo ar y diwrnod hwnnw. 

Gallwn ni hefyd fesur eira wedi toddi ar ffurf dŵr. Gallwch chi felly ddefnyddio’ch mesurydd glaw i fesur cwymp eira. Os taw dim ond ychydig o eira sy’n cwympo, bydd yn toddi yn y mesurydd beth bynnag, ond os yw hi’n bwrw’n drwm, ewch â’r mesurydd i mewn ac aros iddo doddi’n ddŵr. Gallwch chi wedyn fesur y dŵr fel rydych chi wedi’i wneud bob wythnos, a’i gofnodi fel glawiad yn eich cofnodion tywydd. 

Os oes eira ar lawr a bod digon o amser i arbrofi, beth am fynd ati i fesur dyfnder yr eira? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw pren mesur (neu pren eira os ydych chi am siarad fel gwyddonydd gwych!). Gwthiwch y pren i’r eira tan ei fod yn cyffwrdd y ddaear a chofnodi pa mor ddwfn yw’r ddaear fesul milimedr. Rhaid i chi fesur o arwyneb gwastad (fel mainc) mewn lle agored lle nad yw’r eira’n lluwchio. Rhaid i chi gofnodi o leiaf tri mesuriad i gyfrifo dyfnder cyfartalog yr eira lleol. Cyfrifwch y cyfartaledd drwy adio’r cofnodion gwahanol a’u rhannu gyda’r nifer o gofnodion. Os ydw i’n cofnodi tri dyfnder o 7cm, 9cm a 6cm, rhaid i fi adio pob rhif (7 + 9 + 6 = 22) cyn rhannu gyda 3 (22 / 3 = 7.33). Dyfnder cyfartalog yr eira felly yw 7.33cm. 

Mae gorsafoedd tywydd fel y Swyddfa Dywydd (MET Office) wedi troi at dechnoleg i ddyfeisio dulliau newydd o fesur dyfnder eira. Edrychwch ar y llun o un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd. Mae nhw’n defnyddio synwyryddion laser i fesur dyfnder yr eira ar yr arwyneb gwastad. Gall meteorolegwyr gasglu data o bob cwr o’r wlad wrth wasgu botwm – llawer haws a mwy dibynadwy nag anfon pobl allan i’r oerfel gyda phren eira! Mae pob un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd i’w gweld ar y map – oes un yn agos atoch chi? 

Llun o Synhwyrydd Dyfnder Eira y Swyddfa Dywydd.

(Wefan y Swyddfa Dywydd)

Map o leoliadau Synwyryddion Dyfnder Eira y Swyddfa Dywydd – oes un yn agos atoch chi?

(Delwedd o wefan y Swyddfa Dywydd)

Os yw hi wedi bwrw eira, cofiwch fesur y cwymp gyda’r mesurydd glaw neu’r dyfnder gyda phren eira a nodi’r canlyniadau fel ‘Sylwadau’ wrth uwchlwytho eich cofnodion wythnosol. Bydd yn ddiddorol cymharu dyfnder yr eira â chwymp yr eira yn y mesurydd glaw! 

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn, 

Athro’r Ardd

Bylbiau Bach yn tyfu!

Postiwyd gan Penny Tomkins ar 9 Ionawr 2015

Blwyddyn Newydd Dda Gyfeillion y Gwanwyn, gobeithio i chi fwynhau’r gwyliau. Sut hwyl sydd ar y cennin Pedr a’r Crocysau? Cyn y Nadolig, ysgrifennodd nifer o ysgolion ata i i ddweud bod y cennin Pedr a’r bylbiau dirgel yn dechrau gwthio drwy’r pridd. Beth yw hanes eich planhigion chi? Cofiwch, wrth anfon eich data, gallwch chi ddweud pa mor dal yw eich planhigion drwy ysgrifennu mwy yn yr adran ‘sylwadau’. Mae C o Ysgol Y Plas wedi gwneud hyn yn dda iawn, gan ddweud wrtha i bod “13 bylb wedi dechrau dangos yn y potiau a 3 yn yr ardd”. Mae’n gyffrous gweld y planhigion cyntaf yn ymddangos bob blwyddyn!
 
Blodeuodd cennin Pedr cyntaf y llynedd ar 10 Chwefror, ond y dyddiad blodeuo cyfartalog oedd 12 Mawrth. Gwyliwch yn ofalus, bydda nhw’n blodeuo toc! Cofiwch fesur taldra’r blodau ar y diwrnod byddan nhw’n agor. Byddwn ni wedyn yn casglu’r holl wybodaeth i roi dyddiad a thaldra cyfartalog. Bydd hyn yn ein helpu i weld patrymau, neu newidiadau dros y blynyddoedd. 

(Llun trwy garedigrwydd Doug Green’s Garden)

Cymalau tyfu cennin Pedr

(Llun trwy garedigrwydd Doug Green’s Garden)

Cofiwch, mae angen goleuni, cynhesrwydd a dŵr ar flodau i dyfu. Y llynedd roedd y tymheredd cyfartalog yn 6.0°, ac ers dechrau’r project yn 2006 dim ond dwy flynedd oedd yn gynhesach. 2013-2014 welodd y glawiad mwyaf o 187mm, ond dim ond 69 awr o heulwen a gawson ni, yr ail leiaf. Canlyniad hyn oedd i’r planhigion flodeuo yn gynharach na 2012-2013, oedd yn llawer oerach a gyda peth llai o law ac oriau heulwen. Sut dywydd ydych chi wedi ei weld? Ydych chi’n credu bydd y planhigion yn blodeuo yn gynt neu yn hwyrach na’r llynedd? 

Rwy’n edrych ymlaen i weld eich data chi yr wythnos hon! 

Rydych chi’n gwneud gwaith gwych Gyfeillion y Gwanwyn. 

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Gynradd Morningside: Roedd hi’n wythnos oer a gwlyb ofnadwy yn Morningside yr wythnos hon! Roedd ychydig o eira ar lawr hefyd ac efallai bod peth wedi toddi yn y mesurydd dŵr.  Athro’r Ardd: Eira! Am hwyl! Rydych chi’n iawn i ddyfalu bod yr eira’n toddi yn y mesurydd. Mae’r tir yn oerach na phlastig y mesurydd, yn enwedig os oedd dŵr glaw yn y mesurydd wrth i’r eira syrthio. Gallwch chi ddefnyddio’r mesurydd i gofnodi faint o eira sy’n disgyn hefyd, a bydda i’n esbonio mwy am hyn yn y blog nesaf.

Ysgol Gynradd Newport: Ar ddydd Iau 2 Rhagfyr dyma ni’n symud y thermomedr oherwydd doedden ni ddim yn gweld digon o amrywiaeth yn y tymheredd roedd e’n ei gofnodi yn y lleoliad hwnnw. Roedd e’n fan eithaf cysgodol. Ar ôl symud y thermomedr dyma ni’n cofnodi tymheredd tipyn is, oedd yn profi ein syniad. Athro’r Ardd: Da iawn am sylwi ar hyn Ysgol Gynradd Newport. Mae’n syndod faint o wahaniaeth mae lleoliad yn ei wneud i’r mesuriadau. Yn ddelfrydol, dylech chi osod y thermomedr mewn ardal agored, gysgodol, i’r gogledd o’r Ysgol ac yn ddigon pell o’r adeilad. Gall heulwen, cysgod rhag y gwynt ac adlewyrchiad gwres o adeiladau ac arwynebau gwahanol achosi cofnodion uwch, anghywir.

Ysgol Gynradd Glyncollen: Diolch am y thermomedr newydd. Rydyn ni’n credu bod un o’r bylbiau yn dechrau tyfu oherwydd bod y tywydd wedi bod yn eithaf mwyn. Byddwn ni’n ei wylio’n ofalus. Yw hyn wedi digwydd mewn unrhyw ysgol arall? Athro’r Ardd: Helo Ysgol Gynradd Glyncollen, rwy’n falch bod y thermomedr newydd wedi cyrraedd yn ddiogel a da iawn am sylwi ar sut mae’r tymheredd yn effeithio ar y planhigion. Rydw i wedi edrych drwy eich cofnodion tywydd a gweld taw dim ond yn ystod wythnosau 49 a 50 y disgynnodd y tymheredd yn eich ardal chi. Bydd y glaw yn fuan wedi plannu, a’r tymheredd mwyn yn bendant wedi helpu’r Bylbiau Bach i dyfu! Mae rhai ysgolion eraill wedi gweld egin cyntaf hefyd, gan gynnwys The Blessed Sacrament Catholic Primary School a Silverdale St. John's CE School.

Bickerstaffe CE Primary School: Rydyn ni wedi sylwi bod rhai cennin Pedr a blannwyd flynyddoedd yn ôl wedi tyfu dail newydd hyd at 150mm. Mae nhw mewn man eithaf cysgodol yn agos i adeiladau’r ysgol, fe dynnwn ni lun a’i anfon atoch chi os gofiwn ni. Mae’r plant yn gofyn os yw’r rhain yn fylbiau gwahanol neu wedi dod o wlad wahanol? Athro’r Ardd: Helo Bickerstaffe CE Primary School. Mae’n wych clywed bod eich planhigion yn dechrau tyfu. Mwy na thebyg taw rhywogaeth wahanol yw eich cennin Pedr chi. Mae sawl math gwahanol ac mae sôn am rai yn blodeuo ym mis Tachwedd hyd yn oed! Anfonwch lun o’r blodau ata i ar ôl iddyn nhw flodeuo ac fe wna i fy ngorau i’w hadnabod i chi.

Ysgol Gynradd Glencoats: Mae Ysgol Gynradd Glencoats yn mwynhau gofalu am ei bylbiau. Bydd yn rhoi lliw hyfryd i’n gardd ecolegol. Diolch am ein dewis i fod yn rhan o’r project. Athro’r Ardd: Diolch am gymryd rhan yn y project Ysgol Gynradd Glencoats. Cofiwch anfon llun o’r ardd ecolegol ar ôl i’r planhigion i gyd flodeuo!

Rhagfyr 2014

Rhybudd Tywydd

Postiwyd gan Penny Tomkins ar 12 Rhagfyr 2014

Helo gyfeillion y gwanwyn!

Nadolig Llawen a diolch i bawb am anfon eich data ata i. Daliwch ati!

Rydyn ni’n adeiladu llun diddorol o’r gwahaniaeth yn y tywydd ar draws y wlad.  Yr wythnos diwethaf cofnododd Ysgol Carnforth North Road yn Lloegr dymheredd isel o 3°C ac Ysgol Mossend yn Bellshill, yn yr Alban, dymheredd uchel o 13°C am yr un diwrnod! Dyna wahaniaeth! Os ydych chi wedi profi tywydd eithafol gallwch chi ddefnyddio’r map i gymharu cofnodion ysgolion eraill ar yr un diwrnod. Rhowch wybod os ydych chi’n darganfod rhywbeth diddorol. 

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld eich cofnodion o’r wythnos ddiwethaf. Roedd Swyddfa Dywydd y DU wedi rhagweld tymheredd is ac eira mewn rhai mannau hyd yn oed. Os ydych chi wedi gweld eira, gofynnwch i’ch athro anfon ffotograff. Efallai y galla i ddangos rhai o’r lluniau ar y blog bylbiau. 

Rhoddwyd rhybudd melyn am wynt, eira a iâ mewn rhai rhannau o’r DU. Mae rhybudd melyn yn golygu bod posibilrwydd o dywydd gwael yn yr ardal honno. Bydd y Swyddfa Dywydd yn ein rhybuddio am dywydd garw er mwyn i ni baratoi. Gall tywydd garw (fel gwynt cryf a iâ) achosi problemau a’i gwneud hi’n anodd teithio. Weithiau bydd ffyrdd, rheilffyrdd a hyd yn oed ysgolion yn cau oherwydd tywydd gwael. 

Mae’r siart lliw yma yn dangos y cod sy’n cael ei ddefnyddio i rybuddio pa mor arw yw’r tywydd.

 

 Dim tywydd garw      Gofalwch            Paratowch         Gweithredwch
 
 
Gwyrdd: dim tywydd garw

Melyn: posibilrwydd o dywydd eithafol, gofalwch

Ambr (oren): posibilrwydd cryf y bydd y tywydd yn effeithio arnoch chi mewn rhyw fodd, paratowch

Coch: disgwyl tywydd eithafol, ar ddiwrnod Rhybudd Coch efallai bydd eich rhieni chi’n gorfod cynllunio teithiau a gweld pa ffyrdd sydd wedi cau.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn defnyddio symbolau i ddangos pa fath o dywydd i’w ddisgwyl. Dyma symbolau yn dangos rhybudd coch am law, rhybudd gwyrdd am wynt ac eira, rhybudd ambr am iâ a rhybudd gwyrdd am niwl. Bydd hin bwrw glaw yn drwm a dylech chi baratoi am iâ. Beth am edrych ar wefan y Swyddfa Dywydd ac edrych ar ragolygon y tywydd yn eich ardal chi?

Symbols to show what weather to expect (via the Met Office website).

Rydych chi’n gwneud gwaith gwych gyfeillion!

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Gynradd Stanford yn y Vale – Llawer o law ar ddydd Llun ond braidd dim am weddill yr wythnos! Mae’r tywydd wedi dechrau oeri go iawn, yn enwedig ar ddydd Mercher ac roedd hi’n rhewi bore ‘ma (dydd Gwener) ac mae’r plant yn dal i obeithio am eira!!! Mae’r plant wedi cyfansoddi cân ar gyfer cofnodi’r tywydd a’r tymheredd – mae nhw’n gantorion gwyddonol. Athro’r Ardd – Helo gantorion gwyddonol, am enw gwych! Rydych chi’n swnio fel criw llawn sbort a dwi’n siŵr bydd canu yn helpu’r planhigion. Allech chi anfon geiriau’r caneuon ata i neu recordiad ohono chi’n canu? Dim chi oed yr unig ysgol i eld dydd Mercher oer, dyma Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Hiraddug yn nodi eu bod rhew yn drwm ar lawr  ar ddydd Mercher.

Ysgol Gynradd Glyncollen – Mae un o’n bylbiau dirgel yn dechrau tyfu hefyd ac rydyn ni i gyd yn ceisio dyfalu pa flodyn yw e.  Rydyn ni’n mwynhau’r project. Diolch Athro’r Ardd. Blwyddyn 4.  Athro’r Ardd – Helo Blwyddyn 4, Rwy’n falch eich bod chi’n mwynhau’r project! Mae’n wych bod eich bylb dirgel chi’n dechrau tyfu hefyd, alwch chi anfon llun ata i? Gadewch i fi wybod pan fydd y blodyn yn agor, allwch chi ddyfalu beth yw e?

Ysgol Gynradd St. Ignatius – Mae llawer o’n planhigion ni wedi marw’n barod! Athro’r Ardd – Helo St. Ignatius, Mae’n ddrwg gen i eich bod chi’n cael trafferth gyda’r bylbiau. Bydda i’n cysylltu i gael mwy o wybodaeth. Os oes unrhyw ysgolion eraill yn cael problemau, cysylltwch â fi hefyd.



Tachwedd 2014

Yw’r gaeaf ar y gorwel?

Postiwyd gan Liam Doyle ar 24 Tachwedd 2014

Eira’n flanced dros rannau mawr o ogledd ddwyrain yr UDA (delwedd y BBC)

Helo gyfeillion y gwanwyn!

Gobeithio eich bod chi i gyd yn mwynhau cofnodi’r data tywydd. Rydych chi’n gwneud gwaith gwych.

Mae hi’n oer iawn y bore ‘ma (dydd Llun 24 Tachwedd). Fe gwympodd y tymheredd yng Nghaerdydd neithiwr i 0°C a dyma ni’n gweld rhew cyntaf y flwyddyn. Roedd hi mor oer â -3°C mewn rhai rhannau o Gymru a Lloegr. Brrr!

Ond roedd hi’n llawer gwaeth mewn rhannau o America yr wythnos hon. Dyma’r tymheredd yn cwympo i -15 °C mewn rhai rhannau o’r gogledd ddwyrain a cwympodd dwy fetr o eira mewn rhai mannau! Dyna beth yw tywydd gaeafol.

Y newyddion da yw bod y rhagolygon ddim yn dangos bod yr eira a’r oerfel am groesi Cefnfor yr Iwerydd i’r DU. Fyddwn ni ddim yn adeiladu dynion eira am sbel eto.

Beth mae’r tywydd oer yn ei olygu i’r bylbiau? Mae nifer o blanhigion yn hoffi gwres ac yn marw os yw hi’n mynd yn rhy oer. Oherwydd ei fod yn gallu lladd eu planhigion, mae nifer o arddwyr yn poeni am rew.

Ond oherwydd ein bod ni wedi plannu’r bylbiau yn y ddaear, byddan nhw’n iawn. Mae’r pridd yn flanced drwchus sy’n cadw’r bylbiau yn glyd a chynnes. Beth am i chi greu llyfryn origami am fywyd bylb, drwy ddilyn y cyfarwyddiadau?

Dylech chi fod yn cofnodi’r tymheredd a’r glawiad bob dydd erbyn hyn. Cofiwch hefyd gofnodi’r canlyniadau ar ein gwefan ar ddiwedd pob wythnos. Mae digonedd o help yno hefyd os ydych chi’n cael trafferth.

Daliwch ati!

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Y Plas – Rydyn ni’n arllwys y dŵr bob dydd ond ar ddydd gwener rydyn ni’n arllwys y dŵr a’i adael dros y penwythnos ac yn cofnodi’r glawiad ar ddydd Llun. Felly ar ddydd Llun mae’r mesur yn cynnwys glaw y penwythnos a dydd Llun. Oddi wrth c. Athro’r Ardd – Perffaith, daliwch ati!

Ysgol Gynradd Goffa Keir Hardie – Dyma ni’n anghofio gwagio’r mesurydd glawiad ar ddydd Mercher felly rydyn ni’n credu taw dyma pam mae’r glawiad mor uchel. Athro’r Ardd – Peidiwch â phoeni, mae’r gwyddonwyr gorau yn gwneud camgymeriadau weithiau. Gallwch chi fod yn glyfar iawn a defnyddio mathemateg i gyfrifo glawiad dydd Iau. Tynnwch gyfanswm dydd Mercher o gyfanswm dydd Iau i weld faint o law a gwympodd ar ddydd Iau.

Ysgol Gynradd Saint Anthony – Rydyn ni’n mwynhau’r project hyd yn hyn. Roedd plannu’r bylbiau yn sbort ac allwn ni ddim aros i’w gweld nhw’n tyfu. Dyma ni’n addurno’n tagiau enw a’u rhoi ar y potiau a ddefnyddio ni i blannu’r bylbiau. R ac L. Rydw i wedi sylwi, hyd yn oed pan fydd llawer o law, bod dim llawer o ddŵr yn y mesurydd glawiad. Athro’r Ardd – Da iawn bawb yn Saint Anthony. Mae’r tagiau yn swnio fel syniad gwych! Beth am ofyn i’ch athro anfon ffotograff ata i? Os nad yw’r mesurydd glaw yn llenwi, gwnewch yn siŵr bod dim byd agos yn atal y glaw rhag cyrraedd y mesurydd.

Ysgol Fethodistaidd Burscough Bridge – Ymddiheuriadau eto bod y data yn hwyr oherwydd niwed i’r offer, ond mae popeth yn gweithio eto nawr. Athro’r Ardd – Helo i bawb yn Burscough Bridge! Peidiwch poeni am fod yn hwyr, gwnewch eich gorau. Mae’n flin gen i bod eich offer wedi torri. Rhowch wybod os oes unrhyw beth alla i ei wneud i helpu.

Ysgol Gynradd Tongwynlais – Rydyn ni wir yn mwynhau mesur y tywydd! Dydyn ni ddim wedi gorfod rhoi dŵr i’r planhigion eto am ei bod hi wedi bwrw cymaint! Athro’r Ardd – Helo Tongwynlais, rwy’n falch eich bod chi’n mwynhau’r project. Un fantais o fyw yng Nghymru yw nad oes angen rhoi dŵr i’ch planhigion yn aml iawn!

Ysgol Gynradd Talybont – Dyma ni’n edrych ar eich map chi i weld ein arsylwadau blaenorol ond mae’n dweud nad oes unrhyw ddata wedi cael ei dderbyn.  Allwch chi gael golwg os gwelwch yn dda a gadael i ni wybod os ydyn ni’n gwneud rhywbeth yn anghywir wrth fewnbynnu’r wybodaeth? Athro’r Ardd – Haia Talybont. Dwi’n credu mod i wedi datrys y broblem, doeddech chi ddim yn gwneud dim yn anghywir! Edrychwch ar y map eto a gadael i fi wybod os oes unrhyw broblemau eraill.

Ysgol Nant Y Coed – Dyma ni’n cael llawer o hwyl, doedd dim llawer o lawiad. Diolch am ddewis ein hysgol ni. Athro’r Ardd – Dwi’n siŵr bydd digon o law i’w gofnodi dros y misoedd nesaf! Diolch am gymryd rhan Nant Y Coed.

Eich cwestiynau, fy atebion

Postiwyd gan Liam Doyle ar 21 Tachwedd 2014

Diolch yn fawr gyfeillion y gwanwyn, oddi wrth Athro’r Ardd a babi bwlb!

Helo gyfeillion gwyrdd!

Ysgol Gynradd St. Paul:

A yw fy enw i a dwi’n 9 oed. Fy ngwaith i drwy’r wythnos nesaf yw i gymryd mesuriadau tywydd i chi. Dwi’n credu bydda i’n mwynhau oherwydd dwi’n hoffi bod yn yr ardd. Athro’r Ardd – Helo A a phawb yn ysgol St. Paul. Mae’n swnio fel eich bod chi’n gwneud gwaith gwych yn cofnodi’r tywydd. Daliwch ati!

Ysgol Gynradd Kilmory:

Methu cofnodi glawiad yn gywir. Iau 22mm Gwener 26mm. Athro’r Ardd – Helo Kilmory, ydych chi angen help yn cofnodi glawiad neu ai’r mesurydd oedd wedi cwympo?

Ysgol St. Brigid:

Mae wedi bod yn ddechrau gwlyb ac oer i’r ymchwiliad bylbiau. Rydyn ni i gyd wedi creu labeli ac mae nhw’n sefyll yn daclus yn eu potiau mewn man diogel yn yr ysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld y canlyniadau. Athro’r Ardd – Da iawn i bawb yn ysgol St Brigid. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r plannu a gwneud labeli. Rydw i’n edrych ymlaen at y canlyniadau hefyd!

Ysgol Rhys Prichard:

Gwyntog iawn ar ddydd Iau a glaw trwm dros nos. Clir a ffres ar Noson Tân Gwyllt. Gwyntog iawn ar ddydd Iau 13. Chwythodd coeden drosodd ger yr ysgol. Athro’r Ardd – Da iawn Ysgol Rhys Prichard. Cofnodion tywydd da iawn. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r tân gwyllt!

Ysgol Gynradd Llanharan:

Yw cofnod glaw dydd Llun yn gofnod o’r holl law dros y penwythnos? Athro’r Ardd – Helo i bawb yn Llanharan. Mae hwn yn gwestiwn da iawn. Ydy yw’r ateb, fel arall fyddai dim cofnod o’r glawiad dros y penwythnos. Rydych chi wedi gwneud hyn ar gyfer canlyniadau’r wythnos diwethaf yn barod, felly da iawn chi!

Ysgol Iau Rougemont:

Dyma ni’n plannu ein bylbiau bach ar y 27ain fel gweddill yr Alban. Cofiwch Athro’r Ardd ein bod ni ar ein gwyliau pan oedd Cymru’n plannu. Gyda’r tân gwyllt a’r tywydd oer, gobeithio eu bod nhw’n glyd ac yn gynnes! Rougemont, blynyddoedd 5 a 6. Athro’r Ardd – Da iawn Rougemont. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r gwyliau. Bydda i’n siŵr o gofio taw ar y 27ain y gwnaethoch chi ddechrau. Mae eich bylbiau chi’n glyd mewn blanced o bridd, felly dydyn nhw ddim yn poeni am yr oerfel!

Ysgol Gynradd Bickerstaffe CE:

Byddwn ni’n cofnodi gymaint o weithiau â phosib dros yr wythnos. Byddwn ni’n cofnodi mor agos â phosibl at 9.00 a.m.

Bydd glawiad gaiff ei gofnodi ar fore dydd Mawrth yn cyfri dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.

Athro’r Ardd – Helo Bickerstaffe! Peidiwch â phoeni os byddwch chi’n colli rhai diwrnodau, casglwch gymaint â phosibl. Efallai ei bod hi’n syniad cymryd mesuriadau yn y prynhawn er mwyn cael darlun gwell o amodau’r diwrnod. Os yw’r cofnodion yn cael eu cymryd tua’r un amser bob dydd, does dim llawer o wahaniaeth.

Ysgol Gynradd Guardbridge:

Dyma hi’n bwrw tipyn ar ddydd Gwener. Athro’r Ardd – Helo Guardbridge, da iawn am gadw llygad barcud ar y tywydd. Dyma hi’n bwrw’n drwm yng Nghymru ar ddydd Gwener hefyd.

Ysgol Gynradd Sylfaenol Rivington:

Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod glawiog iawn! Athro’r Ardd – O diar! Gobeithio bod pawb yn sych ac yn gynnes yn y dosbarth.

Ysgol Gynradd Gatholig Blessed Sacrament:

Mae’n gyffrous iawn bod yn rhan o’r project hwn. Rydyn ni wedi mwynhau clirio’r chwyn er mwyn plannu’r cennin Pedr a’r bylbiau i gyd. Mae’n hwyl cymryd ein tro i gofnodi’r glawiad a’r tymheredd. Athro’r Ardd – Helo i bawb yn ysgol Blessed Sacrament. Mae’n swnio fel bod pawb wedi gweithio’n galed iawn i blannu’r bylbiau i gyd. Gwych!

Ysgol Gynradd Stanford in the Vale:

Dechrau oer iawn i’r diwrnod ar ddydd Mawrth a Mercher!

Glaw mawr ar nos Iau... awyr las bore ’ma! Ac mae’r haul yn tywynnu. Athro’r Ardd – Adroddiadau tywydd gwych. Mae’n braf clywed bod yr haul yn tywynnu yn Swydd Rhydychen!

Ysgol Gynradd St. Paul:

Hia, N sydd yma. Mae hi wir wedi bwrw’r wythnos hon. Athro’r Ardd – Diolch am y wybodaeth am y tywydd! Trueni eich bod chi wedi cael wythnos lawiog, ond o leiaf bydd y planhigion  ddim yn sychedig!

Ysgol Gynradd Glyncollen

Rydyn ni’n mwynhau’n fawr gofalu am ein bylbiau a darllen y mesuriadau glawiad a thymheredd.

Dydyn ni ddim yn siŵr os yw’r thermomedr yn gweithio’n iawn oherwydd mae’r darllediadau wedi bod yn uchel iawn er bod y tywydd yr wythnos hon yn oerach. Dyma ni’n rhoi thermomedr newydd y tu allan ar ddydd Mercher ac mae’r darllediadau i weld yn debycach i’r rhagolygon tywydd. Allwch chi anfon thermomedr newydd os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr. Blwyddyn 4 Athro’r Ardd – Haia Glyncollen! Rwy’n falch iawn eich bod chi’n mwynhau’r project. Rydych chi’n iawn, mae’r tymheredd yn edrych yn uchel iawn. Bydda i’n anfon thermomedr newydd cyn gynted â phosibl.

Ysgol Iau Hen Golwyn:

Haia. Rydyn ni ym mlwyddyn 4 yn Ysgol Hen Golwyn. rydyn ni’n mwynhau’r project ac wedi gorffen yr wythnos gyntaf. Rydyn ni’n hoffi eich barf chi. Mi syrthiodd rhai o’r potiau a’r mesurydd glaw, ond mae popeth yn mynd yn iawn nawr. Athro’r Ardd – Helo Blwyddyn 4! Rwy’n falch eich bod chi’n mwynhau’r project. Peidiwch poeni gormod os yw pethau’n cwympo. Mae problemau fel hyn yn rhan o fywyd gwyddonydd.

Ysgol Bro Eirwg:

Dydd Iau - 0.5mm

Rydyn ni wedi mwynhau dysgu a chofnodi yr wythnos hon! Athro’r Ardd – Da iawn pawb!

Ysgol Gynradd Gatholig Blessed Sacrament:

Rydyn ni’n cymryd ein tro i gofnodi’r data tywydd. Mae wedi bod yn wlyb ac yn wyntog iawn weithiau. Ond mae’n cool bod yn wyddonydd, hyd yn oed os ydych chi’n colli ychydig o bêl-droed. H. Athro’r Ardd – Diolch am yr holl ddata tywydd! Rwyt ti’n iawn, mae bod yn wyddonydd yn cool. Gobeithio wnes ti ddim colli gormod o bêl-droed!

Ysgol Gynradd Coppull Parish:

Mae plant blwyddyn 4 wedi cofnodi’r rhain eu hunain. Efallai bod rhai rhifau o chwith. Er enghraifft, rydw i wedi newid rhifau tymheredd a glawiad dydd Iau. Doedd hi ddim yn teimlo fel sero gradd Celsius ar y diwrnod, a dyma’r plant yn ysgrifennu mm yn y blychau tymheredd. Hmmmmm. Roedd mm yn y blwch ar gyfer dydd Mercher hefyd. Marie Codd, Arweinydd Gwyddoniaeth ac Arweinydd Ysgol y Goedwig. Athro’r Ardd – Haia Marie. Mae’n wych bod y plant yn cofnodi’r data eu hunain. Mae’n gynnar yn y project felly rydyn ni’n siŵr o weld camgymeriadau. Rwy’n siŵr y byddwch chi i gyd yn arbenigwyr erbyn diwedd y flwyddyn. Da iawn bawb!

O’r diwedd, mae’n hydref!

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 10 Tachwedd 2014
Coed ffawydden

Helo gyfeillion gwyrdd!

Gobeithio’ch bo chi gyd wedi mwynhau plannu eich bylbiau.

O’r diwedd, mae’r hydref wedi cyrraedd Caerdydd. Mae wedi oeri ac mae’r dail yn troi gan greu lliwiau oren, melyn a brown hyfryd.

Mae’r hydref yn hwyr yn ein cyrraedd eleni. Roedd mis Hydref yn gynhesach ac yn wlypach nag arfer, felly cadwodd y coed eu dail gwyrdd yn hirach nag arfer.

Roedd tywydd Calan Gaeaf yn arswydus o anarferol! Mewn rhai mannau o’r Deyrnas Unedig, er enghraifft de Lloegr a gogledd Cymru, roedd y tymheredd dros 20°C.

Yng Ngerddi Kew, yng ngorllewin Llundain, roedd yn ddychrynllyd o dwym – 23.6°C! Dyma’r tymheredd uchaf i gael ei gofnodi yn y Deyrnas Unedig ar Galan gaeaf erioed. Gobeithio nad oeddech chi’n rhy boeth yn eich gwisg ffansi!

Dwi’n meddwl fod y tywydd rhyfedd yma’n ddiddorol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed pa bethau anarferol rydych chi wedi’u darganfod yn ystod eich arbrofion bylbiau’r gwanwyn.

Ydy’r hydref wedi’ch cyrraedd chi eto? Ydy’r dail yn newid lliw ac yn cwympo? Beth am dynnu llun hydrefol a’i anfon ata i mewn e-bost? Mae’n bosib y byddaf yn ei ddangos yma ar fy mlog.

Cofiwch y dylech chi fod wedi dechrau cofnodi tymheredd a glaw ar eich siartiau tywydd. Ewch i fy nhudalen cadw cofnodion tywydd ar y wefan i weld nodyn i’ch atgoffa beth i’w wneud.

Diolch!

Athro’r Ardd

Bulbathon 2015

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 6 Tachwedd 2014

Athro'r Ardd

Disgyblion yn plannu yn Ysgol Balshaw Lane.

Plannu dan do er mwyn osgoi y glaw.

Ppopeth wedi plannu yn Ysgol Preston Grange.

A planting day of bulbous proportions!

Eleven thousand and three hundred bulbs were planted by school scientists across the UK to kick start the Spring Bulbs for Schools investigation. Seven and a half thousand pupils from one hundred and seventy nine schools got planting to investigate climate change.

Here is a map to show you where the bulbs were planted.

Here are some of the pictures they sent in. Follow their progress and the questions they raise as they record the local weather and flowering through the winter and into the spring.

Professor Plant

Gorffennaf 2014

Gwyddonwyr Gwych Cymru

Postiwyd gan Catalena Angele ar 8 Gorffennaf 2014

Gwyddonwyr Gwych Cymru o Ysgol Clocaenog yn Amgueddfa Lechi Cymru

 

Yr ‘adar bach’ yn eu nyth newydd

Hela bwystfilod bach

O’r chwe deg naw o ysgolion o Gymru a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ysgol Clocaenog o Sir Ddinbych.

Dyma’r Gwyddonwyr Gwych lwcus yn ennill trip llawn hwyl i Amgueddfa Lechi Cymru lle dyma nhw’n dysgu am Stori Llechi, yn chwilio am fwystfilod bach ac yn adeiladu nythod anferth yn y chwarel!

Athro’r Ardd: “Dyma Ysgol Clogaenog yn gwneud gwaith gwych ar gyfer ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn a nhw anfonodd y mwyaf o ddata tywydd o bob ysgol yng Nghymru! Roedd y gystadleuaeth yn gryf wrth i ysgolion wella eu sgiliau casglu ac anfon data bob blwyddyn. Roedd yn braf cael cwrdd â Gwyddonwyr Gwych Ysgol Clocaenog, a dyma ni’n cael llawer o hwyl yn adeiladu nythod ac yn esgus bod yn adar bach! Dyma ni hefyd yn dysgu llawer am Lechi, a dwi’n credu taw fy hoff foment i o’r diwrnod oedd hollti’r llechi!”

Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein:

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

 

Mai 2014

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014

Postiwyd gan Catalena Angele ar 30 Mai 2014

1af - Abbey, Ysgol Eglwys Plwyf Coppull

2il - Louise, Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3)

 

3ydd - Amelie, Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE

Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014! Dyma’u darluniau botanegol gwych.

  • 1af: Abbey – Ysgol Eglwys Plwyf Coppull
  • 2il: Louise – Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3)
  • 3ydd: Amelie – Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE

Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Yn ogystal â thynnu llun gwych, roedd angen labelu gwahanol rannau’r blodyn yn glir hefyd.

Roedd pob un o’r darluniau a dderbyniais i yn wych, felly gallwch chi eu gweld nhw i gyd ar y wefan! Da iawn bawb.

Gallwch chi weld y darluniau i gyd yma.

Diolch yn fawr,

Athro’r Ardd

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014

Postiwyd gan Catalena Angele ar 27 Mai 2014

Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol  wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.

Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau!

  • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau.
  • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer?
  • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd?
  • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru.

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiau

Twitter http://twitter.com/Professor_Plant

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.