Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Blog-blodau

Bylb Bychan
Bylb Bychan

Gallwch ddefnyddio'r blog i:

  • Ofyn cwestiynau i Athro'r Ardd.
  • Rhannu straeon neu ffotograffau diddordol ag ysgolion eraill.
  • Pan fyddwch chi'n anfon neges, bydd Athro'r Ardd yn ei darllen ac yn ei chyhoeddi ar y we.

Er mwyn bod yn we-ddiogel:

  • Ni fyddwn ni'n cyhoeddi enwau unrhyw blant.
  • Wrth adael eich neges, rhowch enw'ch ysgol a byddwn ni'n cyhoeddi eich sylw fel 'disgyblion + enw'r ysgol'.
  • Cofiwch ofyn am ganiat├ód eich athro cyn anfon neges neu lun.

SCAN

Mae SCAN yn broject Amgueddfa Cymru sy'n cynorthwyo ysgolion i hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Medi 2011

Croeso!

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 15 Medi 2011
Athro'r Ardd
map o ysggolion

Croeso i’r 2,883 o ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni!

Dwi wedi cyffroi’n lân achos eleni mae gyda ni ddisgyblion o Gymru, Lloegr a’r Alban yn cymryd rhan! Mae’r holl ysgolion ar y map.

Dros yr wythnosau nesaf, bydda i a fy ffrindiau gwyrdd yn brysur yn paratoi’r bylbiau a’r potiau i’w hanfon i’r ysgolion. Yna bydd pob ysgol yn plannu ar 2 Hydref yng Nghymru a Lloegr a 26 Hydref yn yr Alban.

Athro’r Ardd

www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.