Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 

Amgueddfa Cymru

Canlyniadau hyd yn hyn...

[delwedd: Professor Plant]

Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu planhigion yn blodeuo fel rhan o astudiaeth hirdymor sy'n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn. Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy) gobeithiwn bydd gwyddonwyr ysgol yn dangos sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd blodeuo bylbiau'r gwanwyn.

Eleni, bydd 6,326 o ddisgyblion yn cymryd rhan! Drwy gydweithio ag Ymddiriedolaeth Edina rydyn ni wedi llwyddo i ehangu cyrhaeddiad yr ymchwiliad i Loegr a'r Alban!

Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy) gobeithiwn bydd gwyddonwyr ysgol yn dangos sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd blodeuo bylbiau'r gwanwyn.

Bydd pawb yn tyfu eu bylbiau Cennin Pedr a Saffrwm a monitro glaw a thymheredd o fis Tachwedd hyd ddiwedd mis Mawrth. Rhoddir Tystysgrif Gwyddonydd Gwych i bob disgybl.

Mae Ymddiriedolaeth Edina yn garedig iawn yn noddi yr holl botiau a phlanhigion eleni - www.edinatrust.org.uk.

Gwyliwch y canlyniadau wrth iddyn nhw gael eu cofnodi ar ein mapiau a'n graffiau byw...

Dilynwch flog blodau neu dudalen Twitter Athro'r Ardd am y newyddion diweddaraf.

Athro'r Ardd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.