Canlyniadau hyd yn hyn...

SBS-2015.cy.pdf
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion
Canlyniadau’r archwiliad
2006-2015
Professor Plant

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cofnodi’r tywydd ac yn nodi pryd mae’r planhigion yn blodeuo fel rhan o’r astudiaeth hirdymor hon sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.

Rydym yn parhau i weithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Edina, sy’n cefnogi ac yn ariannu’r project. Mae Ymddiriedolaeth Edina wedi bod yn cynnal estyniad o’r project ers 2011, gan ehangu project gwreiddiol Amgueddfa Cymru i gynnwys rhai o ysgolion Edina yn Lloegr a’r Alban.

Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn defnyddio cyfrifon ar wefan Amgueddfa Cymru i gofrestru eu hysgol, cofnodi’r tywydd yn wythnosol a nodi dyddiadau blodeuo ac uchder eu planhigion. Mae’r map sydd ar-lein yn galluogi i ysgolion gymharu eu canlyniadau gydag ysgolion eraill ar draws y wlad sy’n cymryd rhan. Bydd pawb sy’n cadw cofnodion rheolaidd yn derbyn tystysgrif Gwyddonydd Gwych a bydd cyfle iddynt ennill taith natur!

Mae gan ysgolion Edina weithgareddau ychwanegol i’r rhai uchod. Mae angen i’r ysgolion hynny gofrestru’r dyddiad plannu a’r lleoliad ar wefan Project Bylbiau Ymddiriedolaeth Edina (Moodle). Bydd ysgolion Edina yn derbyn mwy o fylbiau i’w plannu yn y ddaear er mwyn eu cymharu â’r rhai mewn potiau a byddant yn cofnodi’r canlyniadau ar y wefan Moodle.

Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad ar gyfer gwanwyn 2015 yma [PDF] ac yn gallu dilyn y prosiect rhwng Tachwedd a Mawrth ar ein mapiau a graffiau byw yma.

Dilynwchbwlb-blog a thudalen twitter Athro'r Ardd am ddiweddariadau rheolaidd ar y prosiect.

Athro'r Ardd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.