Amgueddfa Cymru

Mwyneiddiad Mynydd Parys

Staff: T.F. Cotterell [gyda Dr D.A. Jenkins]

Mynydd Parys oedd y chwarel copr mwyaf yn y byd yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Mae'r mineraleg a daereg yn gymhleth, gyda ffawtiad helaeth cyrff mwynau yn cynnwys rhyngdyfiant sylffid mân, wedi'i ddominyddu gan pyrit a chalcopyrit.

Ers cau'r chwarel, bu problemau gyda draenio asid mwynau, yn sgil ocsideiddio a dadfeiliad pyrit a adawyd dan y ddaear ac oddi mewn i'r gweithfeydd brig helaeth. Daw'r ocsideiddio hyn ag ystod eang o dyfiant mwynau ôl gloddio, sy'n ffurfio pibonwy a ewlychiad ar waliau twneli ac mewn amlygiadau oddi mewn i'r gwaith brig ar yr wyneb.

Mae Dr. D.A. Jenkins, aelod o Grŵp Tanddaearol Parys, wedi cyflawni gwaith maes helaeth ar y safle. Mae cydweithio diweddar wedi caniatáu dadansoddiad manylach o sbesimenau, gan wella ein gwybodaeth am fineraleg cymhleth. Nod y project hwn yw cynhyrchu cyfrif awdurdodol am fwynyddiaeth Mynydd Parys ac yn arbennig ddealltwriaeth am y mwynyddiaeth ôl gloddio, yn sgil ocsideiddio'r mwynau sylffid sydd ar ôl o dan y ddaear ac ar yr wyneb.