Mwyneiddiad Manganesaidd yng Nghymru

Staff: T.F. Cotterell

Mae gan Gymru hanes cyfoethog o fwyngloddio manganese. Gweithiwyd mwynau manganis yng Nghromen Harlech ar raddfa fach yn ail hanner y 19eg ganrif, ond profodd i fod yn rhy isel ei radd i fod yn economaidd. Mae'r dyddodion, fodd bynnag, yn helaeth ac efallai y byddant o ddefnydd rhyw ddydd. Roedd cerrig mwd manganifferaidd öolitig gradd uwch yn Rhiw, Llŷn yn gartref i'r mwynau manganis mwyaf yn Ynysoedd Prydain yn ystod dechrau a chanol yr 20fed ganrif. Mae dyddodion eraill, llai sylweddol, yn cynnwys gwythiennau ocsid manganis mewn llif llwch folcanig yn ardal Arennig a rhannau eraill o Wynedd, tra bod dyddodion manganis dyddodedig agos i'r wyneb yn digwydd ym maes mwyn canolbarth Cymru.

Nid yw mwynau manganis wedi'u deall yn dda, yn draddodiadol, yn sgil enw am edrych yn ddiflas, yn ddu ac heb grisialu'n dda. O ganlyniad mae adnabyddiaeth a nodweddu hanesyddol yn aml yn anghywir ac mae potensial sylweddol ar gyfer darganfyddiadau newydd. Mae adolygiad cynhwysfawr, systematig o fwyneiddiad manganis yng Nghymru gan ddefnyddio diffreithiant pelydr X (XRD) a meicrosgopeg sganio electron — spectrosgopeg gwasgariad ynni (SEM-EDS) yn digwydd. Cafodd nifer o rywogaethau anarferol yn cario manganis eu hadnabod, rhai nad oedd wedi eu cofnodi'n flaenorol yng Nghymru, nac yn wir ar Ynysoedd Prydain.