Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Mwyneiddiad Chwarel Dolyhir

Staff: T.F. Cotterell [gyda D.I Green (Amgueddfa Manceinion), N. Hubbard, J.S. Mason ac R.E. Starkey]

Wedi'i ddarganfod fel ffynhonnell bwysig am fwynau gan gasglwyr yn 1995, daeth Chwarel Dolyhir, ger Hen Faesyfed, Powys, yn gyflym i gael ei adnabod fel un o'r lleoliadau mwynau mwyaf amrywiol yn ynysoedd Prydain. Mae ymchwil helaeth gan guraduron amgueddfa a chasglwyr mwynau amatur wedi cynhyrchu dros 70 rhywogaeth mwynau gwahanol, nifer yn newydd i Ynysoedd Prydain. Mae nifer o wahanol 'gasgliadau' neu grwpiau o fwynau wedi'u cofnodi, bob un yn perthyn i wahanol ddigwyddiad daearegol yn yr ardal.

Lleolir y chwarel yn uniongyrchol ar Ffawt Church Stretton, lle mae creigiau sylfaenol Precambriaidd o dan galchfaen Silwriaidd. Mae amrywiol ymwthiadau tanllyd yn digwydd yn lleol, ac wedi rhyddhau nifer o elfennau prin sydd bellach wedi ail grisialu oddi mewn i holltau yn y creigiau Silwriaidd a Precambriaidd. Yn hwyrach, mae treuliad dyddodedig (ger yr arwyneb) o'r gwythiennau mwynau yn y calchfaen wedi cynhyrchu cyfres o fwynau eilaidd prin.

Mae chwareli gweithgar yn parhau i ddarparu croesdoriadau cyfnewidiol drwy'r unedau daearegol, ac yn aml yn datgelu mwynau newydd cyffrous sy'n cael eu dogfennu gan ymchwilwyr. Y darganfyddiad mwyaf diweddar yw adnabod hollt 'Alpaidd', yn fwy cyffredin yn Eryri, neu fel awgryma'r enw — yr Alpau.