Amgueddfa Cymru

Tirwedd peri-gondwanaidd: oed, tarddiad a thectoneg uwch grŴp môn, ynys môn

Mae dau broject yn digwydd ar hyn o bryd sy'n perthyn i rai o greigiau hynaf Cymru, wedi'u datgelu ar Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn. Maent yn parhau gydag ymchwil parhaus i esblygiad cynnar Cymru sy'n digwydd yn Amgueddfa Cymru mewn cydweithrediad gydag amrywiaeth o gyd-weithwyr o sefydliadau eraill. Dengys data geogemegol, isotopaidd a geoffisegol bod Cymru a De Prydain yn ystod y cyfnod cynnar hwn (680-550 miliwn o flynyddoedd yn ôl) yn rhan o Afalonia, microgyfandir neu dirwedd, a oedd yn gorwedd yn y lle cyntaf ar ymyl y cyfandir Rodiniaidd, ac yna ar gyrion y cyfandir Gondwanaidd enfawr, yn hemisffer y de.

Dominyddwyd yr hanes cynnar hwn gan broses islithriad, wrth i gramen forol gael ei ddinistrio is Afalonia, gan gynhyrchu magmatiaeth enfawr, folcanigrwydd a gwaddodiad. Awgrymwyd y gallai actifedd ffawt sylweddol, tebyg i'r hyn a ddogfennir oddi ar arfordir Califfornia heddiw, fod yn gyfrifol am eillio haenau oddi ar y gramen a chymysgu blociau o Afalonia gyda'i gilydd wrth i islithriad gynyddu tua diwedd y cyfnod Neoproterosöig (tua 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Mae'r projectau hyn, ar sail dwy gyfres unigol o greigiau, ar gyfer cadarnhau pryd ddigwyddodd yr ymdoriad sylweddol hwn, a ffynhonnell a natur dilyniant trwchus o waddodion.