Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Ffawna trilobitau Ordoficiaidd o ddwyrain Kazakhstan

Staff: L.E. Popov, R. M. Owens, L. M. E. McCobb [gyda M. Ghobadi Pour, Profysgol Gorgan, Iran]

Ffawna gweddol amrywiol a gasglwyd rhai degawdau yn ôl yn cynnwys tua 20 genera trilobitau o ran uchaf Ffurfiant Karagach, oes Caradog. Mae'r graptolitau o'r haenlin sydd â'r trilobitau yn awgrymu perthynas gyda cham Rhanbarthol Eastoniaidd Awstralia. Mae'r mwyafrif o'r trilobitau yn perthyn i genera sydd â dosbarthiad daearyddol eang, ond mae rhai, megis Birmanitau a Dulanaspis yn nodweddiadol o ffawna lledred isel, dwyrain peri-Gondwanaidd.