Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Trilobitau

Mae Trilobitau yn arthropodau morol diflanedig a oedd yn ffynnu o'r cyfnod Cambriaidd i'r cyfnod Permiaidd (rhwng 520 a 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Mae dros 5000 o rywogaethau wedi eu hadnabod a'u dosbarthu rhwng pum gradd, ac roeddent ar eu mwyaf amrywiol yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd. Dioddefwyd difodiant sylweddol ar ddiwedd y cyfnod Ordofigaidd, ac eto yn hwyr yn y cyfnod Dyfnantaidd, pan gollwyd nifer o grwpiau tacsonomaidd uwch. Un gradd yn unig, y Proetida, a oroesodd i'r cyfnod Carbonifferaidd, a gyda'i ddifodiant ar ddiwedd y cyfnod Permaidd, diflannodd y trilobitau am byth.

Roedd trilobitau yn byw mewn nifer o wahanol gynefinoedd morol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn amrywiaeth eang o fathau morffolegol. Roedd y mwyafrif yn rai benthig, yn byw ar wely'r môr, ond cloddiai rhai i mewn i'r gwaddodion meddal, tra bod eraill yn byw mewn moroedd agored (cefnforol).

Roedd gan y trilobitau cyntaf yn y cofnod daearegol lygaid datblygedig iawn, ond collodd rhai ffurfiau hwy yn gyfangwbl; mewn rhai ffurfiau cefnforol roeddent wedi ehangu'n enfawr, gan roi golwg i bob cyfeiriad. Gwnaed llygaid trilobitau o grisialau calsit, cyfeiriedig fel bod yr echel c ar hyd bob lens, ac felly yn ymddwyn fel pe bai wedi'i wneud o wydr. Llygaid trilobitau yw'r organ gweledol soffistigedig cynharaf y gwyddom amdano.

Fel brachiopodau, defnyddiwyd nifer o drilobitau a oedd yn byw yn y moroedd argyfandirol ar gyfer dirnadaeth cyfandiroedd a thirweddau hynafol. Maent hefyd yn bwysig fel ffosiliau cylchfaol i'w defnyddio mewn biostratigraffeg, yn arbennig mewn creigiau oes Cambriaidd.