Ymchwil Hanesyddol

Cychwynnodd y gwaith hanesyddol a biograffaidd ar gasglwyr a gyfrannodd at ein casgliadau gyda Davy Dean (1930au), Peter Dance (1960au), Alison Trew (1976-1999), ac mae'r staff presennol Harriet Wood a Jennifer Gallichan yn parhau gyda'r traddodiad hwn. Ymysg projectau'r gorffennol mae Melvill's New Names, Tomlin's New Names, Smith's New Names ac Adam brothers New Names, i gyd wedi'u cyhoeddi fel cyhoeddiadau'r Amgueddfa gan Alison Trew.