Caneuon Gwerin


Si So, Gorniog

Llew Evans.
Llew Evans.

Si so, gorniog, ennill tair ceiniog:
Ceiniog i mi a cheiniog i ti
A cheiniog i Siôn am fenthyg y lli'.

Si so, gorniog, dal tair sgwarnog:
Deunaw i mi a deunaw i ti
A deunaw i Twm am fenthyg y ci.


Tâp 615. Recordiwyd 18.4.63 gan Llew Evans (ffermwr, g. 1890), Ystumgwadneth, Rhyd–y–main, Dolgellau, sir Feirionnydd. Arferai ei fam ganu'r rhigymau hyn i LIE pan oedd yn blentyn bach ar aelwyd Ystumgwadneth.


Nodiadau

Diddorol yw'r cyfeiriad at lif yn niwedd y pennill cyntaf: yn ô1 ODNR, 297, dichon i rai rhigymau 'See-saw ...' yn Saesneg ddeillio o ganu gwŷr wrth lifio coed. Cofier hefyd fod delwedd Ilifio yn ymddangos droeon mewn rhigymau plant yn Gymraeg, e.e., yn 'Llifio, Ilifio, coed Llandeilo/Llangrallo ,,,', 'Llifio, Ilifio, Ilifio'n dynn ...' a 'Llifio, Ilifio, ceiniogydydd ...' Mae'n sicr i'r rhain gael eu defnyddio'n helaeth fel rhigymau siglo i ddifyrru plant bychain.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Si So, Gorniog
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.