Caneuon Gwerin


Y Gaseg Ddu

D. Roy Saer.
D. Roy Saer.

Mi es i ffair Henfeddau,
Mi brynais gaseg ddu,
A phunt a rois amdani,
A mawr 'y ngholled i.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
A mawr 'y ngholl-ed i.

Fe fwydais i'r hen gaseg,
 dŵr a cheirch a bran,
Nes aeth yr hen greadur
Rhy dew i symud cam.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Rhy dew i symud cam.

Fe drigodd yr hen gaseg,
A'i chalon oedd fel dwy,
A 'ngadael i pryd hynny
Heb allu prynu mwy.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Heb allu prynu mwy.

Fe ddaeth y brain a'r piod
I ofyn am bris y cig;
Fe ddwedodd un pioden,
"Mae'n ddigon i ni i gyd!"
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
>"Mae'n ddigon i ni i gyd!"

Chwi bobol nawr sy'n gwrando,
Yn fawrion ac yn fan,
Er mwyn cael caseg arall,
Rhowch geiniog am y gân.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Rhowch geiniog am y gân.


Tâp AWC 428. Recordiwyd 16.11.61 gan Bertie Stephens (bridiwr cŵn hela, etc., g. 1900), Llwyncelyn, Llangeitho, sir Aberteifi. Wrth ganu, cyfeiliai'r canwr iddo ei hun drwy guro rhithmau â'i ddwylo ar y bwrdd – gan ddynwared sŵn 'y felin ban' (y felin bannu gwlân), meddai.


Nodiadau

Yn Abergorlech, sir Gaerfyrddin, y magwyd BS. Yr oedd ganddo rai degau o gerddi llafar gwlad yn fyw ar ei gof a chanodd lawer arnynt mewn cyngherddau. Clywodd y gân hon ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan 'Dai Arian Drwg', dyn a werthai watsys ar hyd ffeiriau.

Ymddengys bod 'Y Gaseg Ddu' yn gân arbennig o boblogaidd gynt yn ne–orllewin Cymru. Sylwer ar y pennill olaf, sy'n cyflwyno apêl draddodiadol y canwr/gwerthwr baled am geiniog – y tro hwn am geiniog 'er mwyn cael caseg arall'!

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Y Gaseg Ddu
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.