Caneuon Gwerin


Mae'n Gystal gen i Swllt

Swllt o Gasgliadau'r Amgueddfa.
Swllt o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Mae'n gystal gen i swllt a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
A deg i fynd adre i fy Ngwenno bach i

Mae'n gystal gen i ddeg a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
Ac wyth i fynd adre i fy Ngwenno bach i

0! braf! wyth! 0! ffein! wyth!

(Ac ymlaen drwy 'wyth', 'chwech' a 'grot' nes cyrraedd yr isod.)

0! braf! dwy! 0! ffein! dwy!

Mae'n gystal gen i ddwy a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
A dim i fynd adre i fy Ngwenno bach i.


Tâp AWC 426. Recordiwyd Hydref 1961 gan y Parchedig H. Cadnant Griffiths (gweinidog, g. 1896), Mayfair, Sydenham Avenue, Abergele, sir Ddinbych. Pan oedd HCG yn blentyn bach clywodd y gân hon gan hen wraig a'i canodd i'r plant yn ysgol Pentrefoelas.


Nodiadau

Ceir mwy nag un fersiwn ar eiriau hon yn Gymraeg – un arall, er enghraifft, yw 'Da Yw Swllt', yn FWTT, 60. Cyfetyb i'r gân Saesneg a adwaenir yn gyffredinol bellach fel 'I've Got Six–pence'. Cymh. 'Mae'n Gystal Gen I Swllt' yn arbennig â'r fersiwn a ddyfynnir yn ODNR, 389: '0 dear twelvepence, I've got twelvepence,/I love twelvepence as I love my life,...' Cyhoeddwyd yr olaf yn 1846 yng nghasgliad Edward F. Rimbault o rigymau plant.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Mae'n Gystal gen i Swllt
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.