Caneuon Gwerin


Y Cap o Las Fawr

Cap o Gasgliadau'r Amgueddfa.
Cap o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Mae gen i chwaer, Mari, â chap o las fawr,

 las yn troi i fyny,
Rym–ti dwd–li da–am,
 las yn troi i fyny a las yn troi i lawr.

A llathen a hanner o galico côn:
Wel sut y ca'i dalu,
Rym–ti dwd–li da–am,
Wel, sut y ca'i dalu heb wybod i Siôn?"br />
"Wel, codwch yn fore a daliwch yn hwyr,
A dyrnwch a nithiwch,
Rym–ti dwd–li da–am,
A dyrnwch a nithiwch y gwenith yn llwyr."


Tâp AWC 171. Recordiwyd 30.4.59 gan Miss M. M. Williams (athrawes, g. 1894), Idanfryn, Brynsiencyn, sir Fôn. Pan oedd yn blentyn bach dysgodd MMW y gan oddi wrth ei thad, brodor o Frynsiencyn, a chredai iddo ef ei chodi ar y llofft stabal (sef ystafell y gweision) pan oedd yn was fferm.


Nodiadau

Yn CCAGC, ii, 105, dyfynnir Ilinellau cyfatebol i'r uchod fel rhai a genid gynt yn y Gaerwen, Môn, yn rhan o'r gân 'Cob Malltraeth'. Cymh. hefyd y dôn a cherddoriaeth 'Cob Malltraeth' yn CCAGC, ii, 104–9, neu yng Nghân Rhif 17 uchod. Sylwer ar y byrdwn disynnwyr – y mae hyn yn rhywbeth y trewir arno droeon mewn caneuon gwerin a gofnodwyd ym Môn, e.e., yn 'Cwyn Mam–yng–Nghyfraith', 'Fy Meddwl a Fy Malais', a'r caneuon 'Ram', yn ogystal a 'Cob Malltraeth'.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Y Cap o Las Fawr
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.