Caneuon Gwerin


Morgan Jones o'r Dolau Gwyrddion

Peiriant Recordio Cynnar.
Peiriant Recordio Cynnar.

Y MAB
Mary Watkin wyf fi'n garu
'N well nag un ferch o fewn i Gymru,
Ac 'rwy'n gobeithio cael yn briod
Ferch Syr Watkin Dyffryn Llynod.

Y FERCH:
Mae'r mab mwya' 'rwy'n ei garu
Yn isel iawn yn (y) gwaelod obry,
Mewn lie teg yng nghysgod bronnydd,
Ac er ei fwyn 'rwyf yn dwyn cerydd.

Mae si, mae sen, mae'r genfigen waela'
Yn peri im gael dig a chroestra,
Ond fel y gog mi gadwa' 'nghalon
Er mwyn y mab o'r Dolau Gwyrddion.

Danfonai 'nhad fi 'mhell dros foroedd,
Odds ar bumcant o filltiroedd,
Ac ar fy nhraed mi gerddais adre
Er mwyn Morgan Jones o'r Dole.

A phan ddes i gyntaf adre,
Fy nhad yn sarrug iawn a ddwede,
"Pe costiai im ddwy fil o bunnau
Mi'th gadwaf rhag y mab o'r Dolau".

Tref na Nan nis meiddiwn radio
Na byddai watchmen yn fy waetio,
Rhag ofn imi, hwyr neu fore,
Gyfarfod Morgan Jones o'r Dole.

Rhoddwn ugain punt yn fuan,
Er anhawsed im gael arian,
Am gael siarad hanner diwrnod
 Morgan Jones, heb neb yn gwybod.

Y BARDD:
Beth pe gwyddai'ch tad chwi hynny? –
Mewn carchar mawr fe fynnai'ch rhoddi,
Heb olau dydd na thân i ymdwymo,
Nes troech chwi fab y Dolau heibio.

Y FERCH:
Nid ydyw 'nhad ddim mor anffafar
A'm rhoi'n y dungeon tan y ddaear;
Byw yw 'nghorff a chlaf yw 'nghalon,
Cara' i'r mab o'r Dolau'n ffyddlon.

Y BARDD:
Ffein yw llygaid y briallu,
Ffein yw'r lie y maent yn tyfu,
Ffein yw'r bedw sy'n eu cysgod–
Ffeinach yw merch Dyffryn Llynod.

'Sgrifennai'i thad o fewn ei 'wyllys
Dair mil o bunnau iddi'n ddilys,
Heblaw degwm dau o blwyfau,
Os troi hi heibio'r mab o'r Dolau.

Y FERCH:
'Bai Morgan Jones, heb feddu gronyn,
Ar hyd y byd yn hel ei livin(g),
A chen i bedair mil o bunnau,
Fe gai e' ran o'r rhain bob dimai.

Y BARDD:
Morgan Jones oedd yn ei wely
Yn glafaidd iawn yn methu codi;
Fe ddoi ato newydd garw
Fod ei gariad bron a marw.

Fe godai Morgan Jones i fyny,
Er fod ei galon bron â thorri;
At bias ei thad fe geisiai fyned,
Er cased oedd gan bawb ei weled.

A phan ddaeth ef gynta' fyny
Fe ganfu'r ferch oedd yn ei garu;
Fe adnabu wrth ei gwyneb
Na chai ef eilwaith ddim ei gweled.

Y FERCH:
Tlws ei gorff a phur ei wyneb,
A ddest ti yma gael fy ngweled?
Mae'n rhaid im 'fado ar fyr o eiriau,
Yr ydwy'n mynd i gramp yr angau.

Dyma it bedwar darn o arian,
Nid yw hyn ond rhodd ry fechan;
Gwallt dy ben oedd genny' 'nghadw
Pan oeddwn ar y cefnfor garw.

Caru'n lion a charu'n llawen,
Caru'n iawn a charu'n gywren,
A charu llawn a charu ffyddlon –
A charu'r mab nes torri 'nghalon.

Y MAB:
Dyma it bedwar cnotyn sidan,
Nid yw hyn ond rhodd ry fechan;
Ar eich pen 'rwy'n erchi'u gwisgo –
Mae'r tu arall wedi ei gildio.

Y BARDD:
GôI yng nghol y syrthiai'r ddeuddyn,
Er fod dŵr hallt yn treiglo rhyngddyn'
Rudd yng ngrudd, a'r corff yn oeri,
Yno bu nes darfu amdani.

Ceisiai Morgan Jones fynd adre,
Ac wrth ei dad a'i fam fe ddwede,
"Nid wy'n ceisio trysor bydol,
Ond cael gweled rriai o'i phobol".

Dwedai'i dad yn ddigus ddigon,
"Cwyd i fyny a chymer galon! –
Mae iti gariad fine i'w hoffi
Yn lle'r Fenws ddarfu amdani".

Y MAB:
Och! Pa fodd y coda' i fyny? –
Mae fy nghalon bron a thorri:
Dwyn bywyd 'run a gerais fwya'
A roes Duw ar (y) ddaear yma.

Y BARDD:
Deunaw sgarff a deunaw cleddau,
Deunaw gwas o weision lifrai,
Deunaw march 'run Iliw â'r sguthan
Yn cario merch Syr Watkin allan.

Ceisiai fynd i gladdu'i gariad,
Er ei fod bron ffaelu a cherddad;
'Roedd ei galon fach ar dorri,
Gweld rhoi pridd a cherrig ami.

Ceisiai Morgan Jones fynd adre,
Ac ar y ffordd cyfarfu ag Ange;
Fe a'i trawai yn ei galon
Yn bur ddifri rhwng ei ddwyfron.

A phan ddaeth ef gyntaf adre,
Wrth ei fam a'i chwaer fe ddwede,
"Nid 'wy'n ceisio unrhyw bethau
Ond fy rhoi 'run bedd a hithau".


Dwedai un o'r bonedd mawrion
Oedd uchel waed, yn chwerw ddigon,
"Yno, 'n wir, ni chewch mo'i gladdu;
Aed i'r plwyf lie bu e'n talu".

Dwedai un o'i genedl yntau
Oedd uchel waed cyfuwch a hwythau,
"Yno, 'n wir, mi fynna' 'i gladdu,
'Run bedd â'r ferch lie rhoes ei ffansi".

Dafydd Jones o'r Dolau Gwyrddion
Oedd yn ymyl torri'i galon,
Gweld y mab ddygasai fyny
Yn ei flodau'n mynd i'w gladdu.

Mae'n anodd plethu dŵr yr afon
Mewn llwyn teg o fedw gleision;
Dau anhawsach peth na hynny
Yw rhwystro dau fo'n ffyddlon garu.

Sawl sy'n berchen pethau mawrion,
Da'r byd hwn a golud ddigon,
Er dyletswydd plant i'w magu,
'Dewch iddynt fatsio lie bo'u ffansi.

Morgan Jones a Mary Watkin
A fu mewn cariad mawr diderfyn
Nes daeth angau i wahanu rhyngddyn' –
Ac mewn un beddrod rhowd hwy wedyn.


Tâp AWC 830. Recordiwyd (Pennill 13 yn unig) 16.10.64 gan Mrs. Sera Trenholme (gwraig tŷ, g. 1887), Garn View, Palace Road, Nefyn sir Gaernarfon. Pan oedd yn blentyn yn Nefyn arferai ST glywed canu'r un pennill o'r gân hon gan ei mam, a oedd yn hanfod o Lanfairfechan. Yn yr un cyfnod yr oedd y dôn hon yn boblogaidd iawn ymysg y gwerthwyr baledi a ganai ar hyd y stryd yn Nefyn. Fe'i defnyddiwyd hefyd (ynghyd â chymal ychwanegol i gloi) gan ST wrth recordio 'Y Deryn Du Sy'n Rhodio'r Gwledydd'.


Nodiadau

Pennill Rhif 13 yn unig a recordiwyd eithr ymddangosodd y faled drychinebus hon droeon ar daflenni baledi a chodwyd y testun yn llawn (ond heb yr is–benawdau mewnol, sy'n ychwanegiad golygyddol yn y gyfrol bresennol) oddi ar enghraifft yn Llyfrgell Rydd Caerdydd. Y mae'r pennawd a welir ar y daflen yno yn lleoli cefndir y faled yn ardal Llanbedr Pont Steffan, sir Aberteifi: 'CÂN SERCH, YN RHODDI HANES CARWR–IAETH MORGAN JONES O'R DOLE–GWYRDDION, A'l GARIAD, MARY WATKINS O'R DYFFRYN LLYNOD, A fuant feirw o serch un at y llall, ac a gladdwyd yn yr un Beddrod, yn Mynwent Llanbedr.' Rhoir enw'r awdur fel Thomas Dafydd, Dyffryn Teifi'. Saif Dolau Gwyrddion (Uchaf ac Isaf) tua 1£ milltir o Lanbedr. Tua 10 milltir i ffwrdd y mae safle Dyffryn Llynod, ger pentre Tre–groes, rhyw 3 milltir i'r gogledd o Landysul. Rhoir hanes MJ a'i gariad yn D. Stanley Jones, 'Dyffryn Teifi', Y Geninen, xvii (1899), 227. Dywedir i dadcu MJ ymladd dros Gromwell ac iddo dderbyn y Dolau Gwyrddion yn rhodd am ei wasanaeth. Os felly, ymddengys bod digwyddiadau'r faled i'w dyddio o gwmpas dechrau'r ddeunawfed ganrif neu ychydig yn gynharach. Gan Sion Rhydderch, yn yr Amwythig, meddir, yr argraffwyd y copi cyntaf o'r faled – ac yn ystod y cyfnod c. 1715–28 y buasai hynny, mae'n debyg. Dywaid yr un ysgrif, ymhlith pethau eraill, mai Elen Wynne, un o blant Syr Watkin Wynne, Dyffryn Llynod, oedd y ferch; mai o'r frech wen y bu farw'r cariadon; mai ym mynwent Llandysul y claddwyd y ferch, ac mai ei wrthod a gafodd dymuniad olaf MJ. Fe welir, felly, fod amrywiol ffurfiau ar yr hanes i'w cael erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y mae'r amryw gyffyrddiadau ailadroddgar yn y faled yn dwyn i gof amlygrwydd yr un nodwedd mewn hen faledi o'r Alban a Lloegr. Ceir yma hefyd gynildeb cofiadwy yn null yr Hen Benillion Cymraeg. (Dichon mai penillion traddodiadol a ymgorfforwyd yn y faled – wedi addasu ambell beth ynddynt efallai – yw Rhifau 10,18,24 a 31.) Ar y taflenni, amrywia enw'r dôn a nodir gogyfer a'r faled hon: 'Anhawdd Ymadael', 'Y Dôn Fechan' neu Triban'. Cymh. y dôn a roir uchod ag eiddo CCAGC, \, 58 a 160 (wrth eiriau 'Angau') a hefyd iii, 173.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Morgan Jones o'r Dolau Gwyrddion
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.