Caneuon Gwerin


Os Daw fy Nghariad i Yma Heno

Llwy Garu o Gasgliadau'r Amgueddfa.
Llwy Garu o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Os daw fy nghariad yma heno, yma heno, yma heno
Os daw fy nghariad yma heno i guro'r gwydyr glas.
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo, gweddus iddo
Rhowch ateb gweddus iddo. Na 'thebwch mono'n gas.

Nad ydy'r ferch ddim gartre, y ferch ddim gartre, 'r ferch ddim gartre,
Nad ydy'r ferch ddim gartre, na'i hwyllys yn y tŷ;
Llanc ifanc o'r plwy arall, o'r plwy arall, o'r plwy arall,
Llanc ifanc o'r plwy arall sydd wedi mynd â hi.


Tâp AWC 817. Recordiwyd 9.10.64 gan Thomas Williams (postmon, g. 1899), 2 Salem Terrace, Sarn Mellteyrn, ger Aberdaron, sir Gaernarfon. Yr oedd y gân hon yn boblogaidd iawn ymysg gweision ffermydd ym Mhen Llŷn pan ddysgwyd hi gan TW yn ystod y biynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.


Nodiadau

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Os Daw fy Nghariad i Yma Heno
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.