Caneuon Gwerin


Llannerch–y–medd

T. Morris Owen.
T. Morris Owen.

Llannerch–y–medd y mondo,
Lle claddwyd Brenin Pabo;
A'r frenhines lân ei gwedd,
Yn Llannerch–medd mae honno.


Tâp AWC 69. Recordiwyd 12.9.63 gan T. Morris Owen (swyddog gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, g. 1887), 15 Goat Street, Tyddewi, sir Benfro. Brodor o Fôn oedd TMO ac y mae'r gân hon yn un o amryw a glywodd gyntaf pan oedd, rhwng 4 a 6 oed, yn cael ei fagu ar aelwyd ei nain yn Llanfachreth, tua 7 milltir o Gaergybi.


Nodiadau

Triban sy'n dyrchafu pentref Llannerch–y–medd, yng ngogledd Môn, drwy gyfeirio ato fel man claddu'r Brenin Pabo a rhyw frenhines. Ni wyddys pa beth yw sail y traddodiad hwn am Babo, sy'n un o'r seintiau Celtaidd: yn eglwys Llanbabo, dair milltir o Lannerch–y–medd, y ceir yr arysgrif 'HIC JACET PABO POST PRIID ...' ('Yma y gorwedd Pabo cynheiliad Prydain ...'). Am fersiwn arall o'r triban, gw. S. Baring–Gould a J. Fisher, The Lives of the British Saints, iv (1913), 39. Fersiwn o 'Distyll y Don' yw'r dôn – cymh. CCAGC, ii, 191.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Llannerch–y–medd
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.