Caneuon Gwerin


Cob Malltraeth

T. Morris Owen.
T. Morris Owen.

Os torrith cob Malltraeth fe foddith fy mam;
Mae arnaf ofn yn fy nghalon ti–rai, twli wli
W ofn yn fy nghalon mai fi gaiff y cam.

Mi fedra'i ddim clytio na golchi f'(h)en grys;
Mae (a)rnaf ofn yn fy nghalon, ti–rai, twli wli wli ei,
Mae (a)rnaf ofn yn fy nghalon bydda' i farw ar frys.'

Ond, diolch i'r Nefoedd, fe welwyd 'rhen wraig
Yn llechu'n ddiogel, ti–rai, twli wli wli ei,
Yn llechu'n ddiogel yng nghysgod y graig.


Tâp AWC 69. Recordiwyd 10.9.63 gan T. Morris Owen (swyddog gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, g. 1887), 15 Goat Street, Tyddewi, sir Benfro. Brodor o sir Fôn oedd TMO ac yno, pan oedd yn 12–14 oed, y clywodd ganu'r gân hon gan weision ffermydd a ddoi ynghyd gyda'r nos ym mhentref Llanfachreth, tua 7 milltir o Gaergybi.


Nodiadau

Tua dechrau'r ganrif bresennol yr oedd 'Cob Malltraeth' yn gân arbennig o boblogaidd ym Môn – ar arfordir deheuol yr ynys y saif pentref Malltraeth. Gorffennwyd codi'r morglawdd neu'r cob yno yn 1812. Cymh. y dôn ag eiddo Cân Rhif 3 uchod, ac am ddefnyddiau cymariaethol cyffredinol gw. CCAGC, ii, 104–9.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Cob Malltraeth
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.