Caneuon Gwerin


Y Sguthan

Land Rover yr Archif Sain.
Land Rover yr Archif Sain.

Mi adroddaf ichwi bwt o stori.
Mi driaf fynd yn drwstan trosti,
Ond chwaith ni ddwedaf ond y gwir,
Y gwir a saif, dim ond y gwir.

Am ddau lane ifanc o'r plwy yma
Ryw noson aethant ffwrdd i hela;
Aeth un â'i wn a'r Hall â'i gi,
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe godofjd un i fyny ei ben,
Fe welodd sguthan ar y pren:
"Wei, cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn (i)ddo fynd o fy ngafael i".

Wei, siarjo'r gwn wnaeth ar ô1 hynny
A bacio'n ô1 gael lie i 'nelu,
A'r Hall yn crynu wrth fon y pren
Rhag ofn i'r slots fynd oddeutu ei ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan
Mi oedd 'na dwrw megis taran,
A rhedeg wnaent i'r lie a'r fan
Rhag ofn i'r ci gael mwy na'i ran.

Pan adawsant gynta geg y ci,
Wei, adref aethant hwy a hi,
A gofyn wnaent i wraig y tŷ
A wnai ei chwcio am ei phlu.

A gwraig y tŷ, pan aeth i bluo,
Fe glywai rywbeth yn ogl'uo,
A gofyn wnaeth i deulu'r tŷ
A glywent hwy ryw oglau cry.

'NôI i wraig y tŷ gael gwybod y cyfan,
Mai wedi trigo'r oedd y sguthan
Ac wedi syrthio i fforch y pren,
Nis gallai lai na chodi ei phen.

'Roedd wedi mynd yn ô1 ei phris,
'Roedd wedi trigo ers pedwar mis,
A'r llanciau gadd eu siomi'n siŵr,
A'u swper hwy oedd brŵes ddŵr.


Tâp AWC 536. Recordiwyd yn ddeulais 1.7.63 gan Joseph Lloyd (gyrrwr lori, g. 1896), Pant–y–wern, a Charadog Puw (ffermwr, g. 1922), Bryn–glas, Foel Garthbeibio, sir Drefaldwyn. Cododd JL y gân pan oedd tua 14 oed, o glywed ei chanu gan Ellis Gittins, Llanwddyn, a chlywodd CP yr un gŵr yn ei chyflwyno yn ddiweddarach.


Nodiadau

Cyhoeddwyd yr un alaw – eto'n deillio yn y pen draw o ganu Ellis Gittins – gan Mrs. Enid Parry yn CCAGC, iv, 57. Recordiwyd y gân yn ddeulais gan yr Amgueddfa ac ychwanegwyd yma gerddoriaeth llais Bas, gan fod canu 'Y Sguthan' yn dri llais hefyd yn arfer yn sir Drefaldwyn. Ni wyddys pwy biau'r geiriau.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Y Sguthan
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.