Caneuon Gwerin


Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher

E. Thomas Evans.
E. Thomas Evans.

Dydd Llun, dydd mawrth, dydd mercher,
Mi a'u treuliais hwy oll yn ofer,
Ond nis gwyddwn fy mod ar fai,
Ond nis gwyddwn fy mod ar fai,
Nes daeth dydd Iau, dydd Gwener,
Nes daeth dydd Iau, dydd Gwener.

O'r hem glos â'r melfed gwyrdd,
O'r hem glos â'r melfed gwyrdd,
Lle buest ti (y)nghwrdd â'r cloddiau?
Lle buest ti (y)nghwrdd â'r cloddiau?
Minga monga gwyddwn fy mod,
Minga monga gwyddwn fy mod,
Fel gŵr yn gyrru gwyddau,
Fel gŵr yn gyrru gwyddau.


Tâp AWC 526. Recordiwyd 27.6.1963 gan E. Thomas Evans (ffermwr, g. 1883), Brynhyfryd, Foel Garthbeibio, Sir Drefaldwyn. Pan nad oedd ond tua 12 oed dysgodd ETE y gân hon oddi wrth hen was fferm yng Ngarthbeibio.


Nodiadau

Ymson meddwyn sydd yma. Bu'r pennill cyntaf yn boblogaidd drwy Gymru ers degau o flynyddoedd eithr hyd y gwyddys ni chyhoeddwyd o'r blaen y gweddill a gynhwysir uchod. Y mae'r cysylltiad ag yfed yn amlwg hefyd yn y fersiwn a ganai Robert Roberts, Tai'r felin, y Bala, gynt – gw. o dan yr enw 'Can Sobri' yn Caneuon Bob Tai'r Felin, gol. Haydn Morris (1959). Am ddefnyddiau cymariaethol gw. CCAGC, Cyfrolau i (o dan yr enw 'Yr Eira'), ii a iv.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r cerddoriaeth am Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.