Rydych chi yn:  >   >   >   >   >   > 
English

Ymchwil Tacsonomaidd ar glêr yn y Dwyrain Canol ac Affrica

Staff: John Deeming

Mae Dr Deeming wedi gweithio ar amrywiol deuluoedd Diptera o samplau Dr Tony van Harten a gasglwyd yn yr Emiradau Arab Unedig, ac wedi ysgrifennu penodau ar Muscidae, Calliphoridae, Anthomyzidae a Mydidae yng Nghyfrol 1 (2008) o Arthropods of the UAE van Harten. Hefyd, cyflwynodd benodau ar Hippoboscidae, Nemestrinidae ac Oestridae ar gyfer Cyfrol 2 ac eleni bydd yn cwblhau Milichiidae, Chloropidae, Diopsidae ac Asteiidae ar gyfer Cyfrol 3, i'w gyhoeddi yn 2009.

Mae gwaith ychwanegol yn canolbwyntio ar lawysgrifau parhaus o adolygiadau tacsonomaidd o rywogaethau Affricanaidd Atherigona a Chloropidae , sy'n bla sylweddol i rawnfwydydd.