Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Ffermydd Kennixton a Cilewent

Staff: Gareth Beech
Ffermdy Kennixton
Ffermdy Kennixton o Fro Gŵyr yn y de-orllewin. Credwyd bod lliw coch y muriau yn amddiffyn y tŷ rhag ysbrydion aflan. Roedd gwelyau cwpwrdd yn nodweddiadol o ffermdai Bro Gŵyr, felly hefyd y llwyfannau ar gyfer cochi cig uwch y lle tân.

Ffermdy Kennixton, Gŵyr yw un o'r adeiladau hanesyddol mwyaf poblogaidd yn Sain Ffagan. Dyma'r un cyntaf y mae nifer o ymwelwyr yn ei weld wrth fynd i mewn i'r safle, yn sgil ei do gwellt a lliw orengoch trawiadol ei waliau. Er ei fod yn wreiddiol yn rhan o fferm, mae wedi sefyll wrth ei hun yn Sain Ffagan, gan fod adeiladau'r fferm yn parhau i gael eu defnyddio. Cynigiwyd yr adeiladau hefyd i'r Amgueddfa yn 2007, ac fe fyddant yn cael eu hailgodi yno.

Mae'r ymchwil wedi canolbwyntio ar ddarganfod sut y llwyddodd trigolion Kennixton dros nifer o ganrifoedd, i wneud bywoliaeth o'r tir, a'u ffordd o fyw, er mwyn ehangu'r dehongliad tu hwnt i'r ffermdy yn unig. Bydd ychwanegu'r adeiladau amaethyddol yn caniatáu dehongliad clir o'r fferm a'r bobl a oedd yn byw yno. Bydd cyfweliadau a recordiwyd yn archwilio'r defnydd o'r ysgubor a'r sied lloi a ddatgymalwyd yn ddiweddar, yn ogystal â'r stabl flaenorol, a'r modd yr oedd newidiadau mewn dulliau ffermio a chynhyrchu yn effeithio ar eu defnydd. Bydd y newidiadau i'r fferm, yn dod yn fusnes ymwelwyr yn bennaf, gan arwain at golli swyddogaeth yr adeiladau, hefyd yn cael ei gynnwys.

Mae'r ymchwil i ddefnydd Cilewent yn dangos tebygrwydd i Kennixton, er bod lleoliad digysgod, mynyddig y tŷ hir hwn yng nghanolbarth Cymru a'r math o ffermio yn gyferbyniad llwyr i'r rhai yng Ngŵyr. Er bod y cysylltiad amaethyddol yn llawer mwy amlwg yn sgil y ffaith bod llety ar gyfer anifeiliaid a phobl o fewn un adeilad, mae angen ymchwilio ymhellach i ddarparu gwybodaeth ar gyfer dehongliad mwy cynhwysfawr sut a pham bu pobl yn ffermio yng Nghilewent, hyd at ei ddatgymalu. Bydd cyfweliadau yn cael eu cofnodi gyda thrigolion lleol a oedd yn gyfarwydd gyda Cilewent yn yr ugeinfed ganrif, a'r rhai a all ei osod yng nghyd-destun y dirwedd, amodau ac agweddau.