Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 19 Hydref 2001

Cyfarfod LLYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2001 yn Ystafell y Llys, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.

- PRESENNOL:
Mathew Prichard (Llywydd); Roger G Thomas (Is-Lywydd); G Wyn Howells (Trysorydd); Eleri Wyn Lewis; Eirlys Pritchard Jones; Brian Willott;
Susan Davies; Nancy Edwards; Dafydd Bowen Lewis; Ieuan Llewellyn Jones; Hefyn Looker; D Parry Jones; Peter Warren; Frances Lynch; Malcolm Parry; Paul Loveluck; Chris Delaney; Jonathan Jones; Linda Quinn; Murray McLaggan; Win Griffiths AS; Joan Raum; Keith Mascetti; Delme Bowen; Anthea Wellington; Huw Jones; Rhiannon Hughes; Mair Waldo Thomas; Richard Cass; Paul Thomas.

- YN BRESENNOL
Anna Southall (Cyfarwyddwr AOCC); Eurwyn Wiliam (Dirprwy Gyfarwyddwr); Robin Gwyn (Cyfarwyddwr Cysylltiadau Strategaethol); Mark Richards (Cyafrwyddwr Cynllunio Adnodd); Mike Tooby (Cyafrwyddwr AOG); John Williams-Davies (AWC); Mark Rainey (Swyddog Gwasanaethau Ariannol); Judith Scott (Cynorthwy-ydd Gweithredol y Cyfarwyddwr); Tony Lloyd (Pennaeth Gweinyddiaeth); Neil Harrison (Swyddog Gweinyddiaeth).

- YMDDIHEURIADAU:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absennoldeb o'r cyfarfod oddi wrth Geraint Jenkins; John King; Gwilym Humphries; Mike Salter; David Rogers; Anwen Carey Evans; Colin Rowlands; Wynford Evans; Lewis Jones.

- CROESO:
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod, y teimlodd oedd yn gyfarfod o'r pwys mwyaf i lywodraethu Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i'r dyfodol.

- CYDYMDEIMLADAU:
Cynhaliodd y Llys funud o dawelwch er cof am Dr Roderic Bowen, aelod o Lys y Llywodraethwyr er 1945. Mynegodd y Llywydd edmygedd mawr o wasanaeth Dr Bowen a'i ymrwymiad i'r Amgueddfa ac y byddai'n colli ei gyngor ar y fath ddiwrnod pwysig yn enwedig.

407 - COFNODION:
Derbyniwyd: Y dylai cofnodion Llys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2001 gael eu cymeradwyo.

408 - MATERION YN CODI
Mynediad Am Ddim
Adroddwyd: Fod Linda Quinn wedi cwestiynnu prun ai fod gan yr Amgueddfa y cyllid ar gyfer mynediad am ddim ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mewn ymateb fe'i sicrhawyd fod y cyllid diweddar a gyhoeddwyd gan y Cynulliad yn cynnwys cyllid am y flwyddyn i ddod, er ei fod yn llai nag a ddeisyfwyd gan yr Amgueddfa.


409 - AROLWG PUM MLYNYDDOL
Derbyniwyd:
(i) diweddariad ar yr Arolwg Pum Mlynyddol.
(ii) adroddiad ar ddyfodol Llys y Llywodraethwyr.
(iii) adroddiad ar olyniaeth y Llywydd, yr Is-Lywydd a'r Trysorydd.

Adroddwyd: Fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi comisiynnu Adroddiad Pum Mlynyddol Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a gwbwlhawyd ym mis Awst 2001. Fe'i ystyriwyd gan Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad a chan y Gweinidog Cyllid a Diwylliant ar y pryd. Agorodd yr ymgynhorydd a drefnodd yr arolwg, Peter Watt, ei gyflwyniad i'r Pwyllgor drwy ddweud:

"Canfyddom lawer a wnaeth argraff dda arnom yn ein cysylltiad â'r Amgueddfa... Mae'n gorff sydd yn cael ei lywodraethu a'i gyfarwyddo yn dda ac yn un sydd wedi gwneud gwelliannau sylfaenol i'w drefniadau ar gyfer gweithredu amcanion strategaethol y Cynulliad. Mae'n darparu rhychwant eang o gyflawniadau ar bris rhesymol."

Gwnaeth yn glir hefyd yn ei gasgliad cyffredinol i'r adroddiad ei fod yn gefnogol i waith AOCC a'i fod yn gweld fod datblygiad sylweddol wedi'i gyflawni ers yr arolwg diwethaf. Mae'r Amgueddfa yn ystyried yr adroddiad fel un cadarnhaol iawn ynglyn â'r newidiadau diweddar, ac yn adeliadol iawn yn ei argymhellion.

Lluniwyd cynllun gweithredu drafft gan yr Amgueddfa fydd yn cael ei drafod yn gyntaf gan yr Amgueddfa a'r Cynulliad ar lefel swyddog. Bydd yr adroddiad yn cael ei osod gerbron i'w drafod mewn cyfarfod Cabinet ac yn ddiweddarach mewn Sesiwn Lawn o'r Cynulliad ym mis Tachwedd. Gwnaeth yr adroddiad ddau argymhelliad sylweddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y Llys.

Dyfodol y Llys -
Ym mhrif gasgliad yr Ymgynghorwyr condemniwyd perthynas 'hyd braich' yr Amgueddfa gyda'r Cynulliad. Nododd yr adroddiad ei fod yn rhoi 'y raddfa o annibynniaeth sy'n angenrheidiol i'w rôl gyda stiwardiaeth gynaladwy yn y tymor hir o'r trysorau a roddwyd i'w gofal' i'r Amguedfa.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i argymell 'y dylai'r Cynulliad wahodd Llys y Llywodraethwyr i ystyried aildrefnu system Lywodraethol yr Amgueddfa i mewn i fformat lle mae'r Llys yn peidio derbyn adroddiad blynyddol oddi wrth y Cyngor, y Cyfarwyddwr a Thrysorydd yr Amgueddfa' ac 'y dylai'r Amgueddfa gynnal cyfarfod blynyddol agored i'r cyhoedd ar ei weithgareddau, cyfrifon a'i gynlluniau ac i dderbyn sylwadau o barth y cyhoedd'.

Cyfarfyddodd y Llywydd a'r Is-Lywydd gyda'r Gweinidog a'i swyddogion a gwahoddodd y Gweinidog yr Amgueddfa i ofyn i'r Llys i ystyried ad-drefnu system Llywodraethol yr Amgueddfa, gan nad yw cyfansoddiad presennol y Llys yn cyd-fynd gyda'r canllawiau a osodwyd allan gan yr Arglwydd Nolan ac a fabwysiadwyd gan y Cynulliad ac yr annogir pob Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad i gydymffurfio â hwy. Mae'r Cyngor yn dymuno gweld newidiadau'n cael eu gwneud i'r Llys i sicrhau fod yr aelodau yn cynrychioli ar y lefel uchaf y sefyldiadau rheiny y mae'r Amgueddfa yn dymuno gweithio gyda hwy mewn partneriaethau. Roedd y Cyngor yn teimlo y byddai mantais sylweddol i'r cyfarfodydd yn y dyfodol i gael eu cynnal mewn ffyrdd mwy ffafriol at ddadl a thrafodaeth, ac fe groesawyd cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol agored.

Teimlodd y Llywydd fod y canllawiau a osodwyd allan gan yr Arglwydd Nolan a chanlyniad yr Arolwg Pum Mlynyddol wedi'u gwneud yn glir fod angen i natur llywodraethol yr Amgueddfa i newid yn dilyn penodiadau y Llywydd, Is-Lywydd a'r Trysorydd i'r dyfodol. Gwnaeth y Gweinidog y ffaith yn wybyddus i'r Amgueddfa nad oedd hi'n rhagweld dyfodol i'r Llys yn strwythur lywodraethol yr Amgueddfa fel ag yr oedd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd a rhoddwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr yn crynhoi barn y Gweinidog gerbron.

Argymhellodd y Cyngor i'r Llys fod dyfodol y Llys yn gorwedd yng nghreadigaeth corff o bartneriaid fyddai'n dal cyfran o'r diddordeb ac a fyddai'n cynnig cyngor ac yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth. Byddai ganddo rôl yn y cyfarfodydd cyhoeddus agored arfaethedig, gan adnabod fod y fath gorff yn darparu ffynnon o arbenigedd ac yn cynrychioli pobl o bob rhan o Gymru, mewn modd na fedr y Cynulliad ddarparu ei hunan.

Trafododd y Llys y pwnc hwn ac roedd sylwadau gan y rhanfwyaf o'r aelodau oedd yn bresennol.

Teimlodd Win Griffiths AS ei bod hi'n deg i ofyn prun a oedd angen Llys bellach ac a oedd yn gwneud cyfraniad go iawn. Teimlodd os oedd angen, a'i fod wedi gwneud cyfraniad, y dylai aros onibai fod gan y Cynulliad yr angen am gorff yn debycach i'w hunan.

Y teimlad cyffredinol oedd na ddylid rhuthro mewn i newid ac y dylai'r Llys a Phwyllgorau'r Cyngor edrych ar ffyrdd i ddefnyddio'r sgiliau oedd ar gael yn well ac y dylai'r Amgueddfa feithrin perthynas well a mwy ffrwythlon gyda llywodraeth leol.

Teimlodd y Llys mai ei gryfder oedd fod ei aelodaeth wedi'i apwyntio gan amryfal gyrff ac felly y dylai cynrychiolaeth y Cynulliad ar y Cyngor gael ei gadw at draean o'r apwyntiadau yn unol ag argymhellion adroddiadau McFadden fel na ddylid mygu hyn. Dylid rhoi ystyriaeth i gyfarfod blynyddol cyffredinol lle mae gan y cyhoedd fel defnyddwyr yr hawl i dderbyn adroddiadau ac i roi sylwadau.

Penderfynwyd:

  • Y dylai'r Llys ofyn i'r Llywydd i sefydlu gweithgor bach, yn cynnwys aelodau o'r Llys a Chyfarwyddwr yr Amgueddfa i archwilio'r ffyrdd o ddatblygu'r Llys presennol mewn i gorff bartneriaethol y byddai ei aelodau yn cynghori'r Cyngor ac yn hyrwyddo cydweithio partneriaethol ledled Cymru.
  • Y dylai'r grwp drafod yr aelodaeth, eu cyfrifoldebau, a ffurf a rheoleidd-dra cyfarfodydd y corff hwn.
  • Y dylai'r Cyngor archwilio goblygiadau unrhyw newidadau i'r Llys ar gyfer y Siarter a'r Statudau presennol.
  • Beth bynnag fyddai dyfodol y Llys, y cynhelir cyfarfod cyffredinol cyhoeddus ym mis Hydref er mwyn i'r Amgueddfa fedru adrodd ar ei gweithgareddau, cyfrifon a chynlluniau ac i dderbyn sylwadauarnynt oddi wrth y cyhoedd ac y dylid rhoi ystyriaeth i barhad dau gyfarfod o'r fath y flwyddyn, fel sydd yn y drefn bresennol.
  • Y dylid gwahodd y Cynulliad Cenedlaethol i ddanfon sylwedydd i gyfarfodydd y Gweithgor ac y dylid eu hysbysu o drafodaeth a phenderfyniadau heddiw.
    Cyflwynir adroddiad i'r Llys yng nghyfarfod mis Mai 2002 yng ngogledd Cymru ac fe hysbysir y Gweinidog fel ag y bo hynny'n berthnasol.

Olyniad y Llywydd, Is-Lywydd a'r Trysorydd -
Adroddwyd: Gan gymryd yn ganiataol fod y Llys am barhau, er mai gyda chyfrifoldebau newydd ac o dan enw newydd, mae'r cwestiwn o'i rôl wrth apwyntio Swyddogion Anrhydeddus y Cyngor yn aros - ymhen y flwyddyn ac hefyd yn y dyfodol.

Noda Argymhellliad 7 o'r Adolygaid Pum Mlynyddol fod, '... pa bynnag newidiadau a drafodir yn y cyfarfod hwn am Lywodraethiad yr Amgueddfa ac a weithredir, dylai'r drefn apwyntio a fabwysiedir fod yn agored a thryloyw ac yn unol ag egwyddorion Nolan'. Nododd yr adroddiad hefyd 'ein bod yn credu fod esblygiad y Llys... i fewn i grwp partneriaeth, o bosib' gyda'r pwer i apwyntio nifer bychan o aelodau i'r Cyngor, yn un sy'n meddu ar rinweddau a bod y Llywydd presennol yn ymddeol ymhen 18 mis ac felly nid yw'r credu y byddai unhryw symudiad i'r perwyl hwnnw yn ddelfrydol nac yn ymarferol cyn hynny.'

Bydd apwyntiad y Llywydd, yr Is-Lywydd a'r Trysorydd nesaf yn aros yn gyfrifoldeb y Llys hyd oni wneir unrhyw newid i'r Siarter a Statudau (Ebrill 2003 mae'n debyg). Mae tymor gwaith y Llywydd a'r Is-lywydd yn dod i ben ym mis Hydref 2002. Daw tymor gwaith y Trysorydd i ben hefyd ym mis Hydref 2002, ond medrir ei ail apwyntio am dymor newydd o 5 mlynedd.

Awgrymodd yr Arolwg Pum Mlynyddol y dylai'r Llywydd gael ei apwyntio gan y Cynulliad yn y dyfodol gyda chydsyniad y Cyngor yn unol â'r dull yr apwyntir Cadeiryddion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon - yr amgueddfeydd ac orielau a noddir ganddynt. Roedd y cyn Lywydd uniongyrchol felly, i bob pwrpas, hefyd yn benodiad gan y Cynulliad. Awgrymodd yr adroddiad y dylai penodiad Is-Lywydd a Thrysorydd gael eu gwneud gan y Cyngor, gan roi pwyslais cyfartal ar benodiad swyddogion rhwng y Cynulliad a'r Amgueddfa. Aeth yr adroddiad rhagblaen i gynnig y dylid apwyntio'r 12 aelod arall o'r Llys fel a ganlyn: Cynulliad 5 a'r Cyngor 7.

Buasai model arall, noda'r adroddiad, yn medru gweld corff partneraethol (h.y. y Llys mewn rôl wedi'i hailddiffinio) gyda phwerau i apwyntio neu i gynnig tri o'i aelodau i'r Cyngor gan wneud y balans fel a ganlyn; Cynulliad 5, Llys/Corff Partneraethol 3 a'r Cyngor 4.

Nododd y Llys fod yr ymgynghorwyr yn ymwybodol o ymateb posibl y Comisiynwyr Elusennau petai'r nifer o apwyntiadau o'r Cynulliad yn fwy niferus na chyfanswm y nifer a apwyntiwyd gan y Cyngor ac unrhyw gorff arall. Credwyd y efallai y byddai gan y Cynulliad farn wahanol ac yr hoffent ennill y cyfrifoldeb am y mwyafrif o apwyntiadau.

Nododd yr adroddiad fod y Cynulliad yn adolygu pwnc ad-daliad ar gyfer aelodau o Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad. Mae safle'r Cyngor fel ymddiriedolwyr elusen gofrestredig yn aneglur. Yn ddiau, byddai gan y Comisiwm Elusennau farn am y byddai unrhyw newid â goblygiadau ar gyfer holl elusennau sydd ag ymddiriedolwyr ar draws Prydain, nid dim ond yng Nghymru.

Penderfynwyd: Y dylai'r amserlen ganlynol gael ei dilyn wrth recriwtio Llywydd ac Is-Lywydd newydd:

  • Tachwedd 2001 - hysbysebu yn y Wasg Brydeinig a Chymreig
  • Tachwedd/Rhagfyr 2001 - Bydd yr Is-Lywydd (na fydd yn aelod o'r panel cyfweld ac na fydd yn cynnig ei hun fel ymgeisydd ar gyfer y naill swydd) yn cydlynu syniadau ac, os yw'n briodol, yn holi unigolion a fuasent yn ystyried ymgeisio heb awgrymu ffarfiaeth.
  • Ionawr 2002 - Dyddiad cau a llunio'r rhestr fer. Ni fydd y Llywydd presennol yn cadeirio'r panel. Bydd yntau a'r Trysorydd yn aelodau o'r panel, fydd hefyd yn cynnwys aelod arall o'r Cyngor, aelod o'r Llys (nad yw'n aelod o'r Cyngor na'i Bwyllgorau) a Chadeirydd (neu gyn Gadeirydd) Bwrdd Ymddiriedolwyr amgueddfa neu oriel genedlaethol Brydeinig arall. Bydd y panel hefyd yn cynnwys aseswr annibynnol o restr gymeradwy gan y Cynulliad.
    Nodwyd fod y Gweinidog wedi mynegi dynumiad i fod ar y panel ac y byddai'r Llywydd yn ei gwahodd hi felly.
  • Chwefror/Mawrth 2002 - yr ymgeiswyr rhestr fer yn cwrdd â'r Cyfarwyddwr - cyfweliadau gyda'r panel.
  • Mawrth/Ebrill 2002 - manylion y Llywydd a'r Is-Lywydd arfaethedig yn cael eu danfon at Aelodau'r Llys yn gyfrinachol.
  • Mai 2002 - y panel yn argymell unigolyn i'r Llys ar gyfer y naill apwyntiad.

Mae tymor gwaith y Trysorydd yn dirwyn i ben ym mis Hydref 2002. Mae'r Cyngor yn argymell fod apwyntiad Mr G Wyn Howells i'w adnewyddu am ail dymor o 5 mlynedd, a chytunwyd ar yr apwyntiad yma.

410 - APWYNTIADAU LLYS I LYS:
Penderfynwyd: Fod Hélène Mansfield i'w hapwyntio i'r Llys i swydd Llys i Lys ar gyfer pennaeth ysgol awdurdod lleol yng Nghymru.

411 - ADRODDIAD Y CYNGOR:
Rhoddwyd Gerbron a Derbyniwyd: Y 93ain Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon am y cyfnod 1 Ebrill 2000 - 31 Mawrth 2001.
Adroddwyd: Fod y Trysorydd wedi cyflwyno y Cyfrifon Blynyddol sydd bellach yn adlewyrchu ymgorfforiad Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr a chwmni masnachu Pwll Mawr sef Matchtake Cyf. Mae'r cynnydd yng ngrant yr Amgueddfa yn cynnwys swm ar gyfer mynediad am ddim gyda gwariant uniongyrchol o £0.5 miliwn yn talu am wobr tâl yr Amgueddfa ac am y costau cyflogau ychwanegol ar gyfer Pwll Mawr. Ymhlyg yn y cyllidebau roedd ffigwr a gariwyd ymlaen o £6.2 miliwn, oedd yn cynnwys y cynnydd o £3.6 miliwn wedi i ail werthusiad o asedau sefydlog y safle gael ei wneud.

Roedd y ffigwr dyledwyr yn cynnwys yr elw oddi wrth werthiant yr Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Cymreig, a glustnodwyd ar gyfer yr Amgueddfa newydd yn Abertawe. Roedd cynnydd yn y cyllid cyfan yn bennaf oherwydd yr ail werthusiad o'r asedau sefydlog. Nododd y Trysorydd wrth y Llys fod yr Awdidwr Cyffredinol dros Gymru o'r farn fod y Datganiadau Ariannol yn rhoi adolygiad gwir a theg o sefyllfa'r Amgueddfa ac nid oedd ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y Datganiadau Ariannol hynny.

412 - ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
Adroddwyd: Fod y cynnydd mewn ymwelwyr oherwydd mynediad am ddim wedi'i gynnal dros yr haf, gan bara ar dros 90% o gynnydd. Nodwyd fod y cynnydd anferth hwn mewn ymwelwyr wedi dod ar gost sylweddol a bod arian ychwanegol a gadwyd ar gyfer mynediad am ddim y llynedd wedi'i gyfnerthu i mewn i grant yr Amgueddfa am eleni bellach. Roedd yr Amgueddfa yn ddiolchgar am y dosraniad o nawdd gan y Cynulliad, er ei fod yn llai nag a ddeisyfwyd. Nodwyd hefyd fod yr wythnos yma wedi gweld y 1 miliwn ymwelydd i safleoedd AOCC ers 1 Ebrill a diolchodd y Cyfarwyddwr i'r staff am eu gwaith diflino wrth alluogi hyn i fod yn gymaint o lwyddiant.

Trafodwyd arddangos celf i'r dyfodol gan y Cyngor yn y cyfarfod yn gynharach a byddai ail gam y papur ymgynghorol yn cael ei gyhoeddi ymhen ychydig.
Adnabyddwyd tri phwnc:

  • Pwysigrwydd oriel eiconaidd unigol.
  • Pwysigrwydd Rhaglen Bartneraethol AOCC.
  • Pwysigrwydd y rhwydwaith angenrheidiol i gefnogi hyn.

Gwnaeth y Cyfarwyddwr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Llys ar y Strategaeth Ddiwydiannol ac roedd yn falch o lwyddiant yr ail ddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru a oedd am y 6 mis cyntaf o'r flwyddyn i fyny 170% ar y llynedd, prawf cadarn o boblogrwydd yr agwedd a gymrwyd ar ddehongliad ein Hanes Cymdeithasol a Diwydiannol ni. Cychwynodd y gwaith yn y Pwll Mawr o ddifrif gyda'r prif waith contract yn cychwyn ym mis Chwefror ac heblaw am gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol, bydd Pwll Mawr yn aros ar agor drwy gydol yr ail ddatblygu.

Caiff y cais terfynnol at Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru ei ystyried ym mis Rhagfyr a chaiff y safle ei gau wedi'r Nadolig a'i ail agor adeg y Pasg 2003.

Rhoddodd y Dirprwy Gyfarwyddwr, ynghyd â Dr Richard Bevins y Rheolwr Prosiect, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Llys ar y cynlluniau ar gyfer creu Amgueddfa Genedlaethol i Gymru yn Abertawe.

Apwyntiwyd Rosemary Butler AC, yn Gadeirydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe Cyf. Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer Prif Weithredwr AGGA Cyf ac roedd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn y cynnig ar lafar (roedd ganddo hanes wrth gefn o gwblhau prosiectau fel hwn). Ym mis Gorffennaf cytunodd CTL mewn egwyddor i grant o fwy na £11 miliwn, a gwnaeth y Prif Weinidog gyhoeddiad ar ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf am grant o £6 miliwn. Byddai'r Amgueddfa newydd yn dangos yr effaith ar fywydau pobl a byddai'n borth i holl safleoedd eraill yr Amgueddfa a'r fath sefydliadau tebyg yng Nghymru. Byddai'n dangos Cymru fel y genedl ddiwydiannol gyntaf. Deuai nawdd o sawl ffynhonnell heblaw am gyllid yr Amgueddfa, a byddai'n cynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri, y Cynulliad ei hun, Arian Amcan Un, Bwrdd Croeso Cymru, Bwrdd Datblygu Cymru ayyb. Byddai 2003 yn gweld gwaith cychwynol, 2004 datblygiad ar y safle a 2005 yr agoriad arfaethedig.

Llongyfarchodd Delme Bowen yr Amgueddfa ar y cynlluniau yma ac hefyd am arddangosfa ardderchog Paul Robeson, a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mynegodd ddymuniad y dylai gwaith yr Adran Addysg gael ei warchod ynghyd a'i ddwyieithrwydd. Teimlodd Win Griffiths AS y byddai wedi bod modd i fanteisio'n Fasnachol ar Arddangosfa Paul Robeson yn fwy.

Teimlodd Malcolm Parry fod gwaith yr Amgueddfa dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn dda iawn ac roedd yn falch i weld y mentrau ar gyfer Amgueddfa Abertawe ond rhybuddiodd fod yn rhaid i'r Amgueddfa sicrhau nad oedd yn gwneud cynllun yr Amgueddfa newydd yn rhy oll gynhwysiol gyda'r canlyniad na fyddai'n gweithio. Gofynnodd Paul Loveluck na ddylai gwyddorau Cymru fynd yn angof gyda'r cynlluniau yma.

413 - DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF
Dirwynodd y Llywydd y cyfarfod i ben drwy hysbysu'r Llys fod yr amser yma'n dyngedfennol i gyfansoddiad yr Amgueddfa ac i'w chasgliadau a gwerthfawrogodd gefnogaeth y Llys, y Cyngor ac yn enwedig y Cyfarwyddwr a'i staff. Roedd y cyfarfod nesaf i'w gynnal am 2.15yp ar 24 Mai 2002 yng ngogledd Cymru.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.