Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 20 Hydref 2000

Cyfarfod o LYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2000 yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd.

PRESENNOL:

Mathew Prichard (Llywydd); G Wyn Howells (Trysorydd); Dr Roderic Bowen; Y Cynghorydd R Cass; Y Cynghorydd R Francis-Davis; Dr Susan J Davies; Dr Nancy Edwards; J Wynford Evans; Win Griffiths AS; Y Cynghorydd R W Hughes; Capten Gwyn Pari-Huws; D Ken Jones; Eirlys P Jones; Huw Jones; J Gareth Jones; Y Cynghorydd Dr J Geraint Jenkins; Y Cynghorydd Patricia Larsen; Dafydd Bowen Lewis; Hefin Looker; Keith Mascetti; Murray McLaggan; Malcolm Parry; Linda Quinn; Joan Raum; Syr Richard Hanbury-Tenison; Mair Waldo Thomas; Roger G Thomas; Dr Peter Warren; A Wellington

YN Y CYFARFOD:

Anna Southall, Cyfarwyddwr, AOCC; Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr, AOCC; Penny Fell, Cyfarwyddwr Dros Dro, Materion Cyhoeddus; John Williams Davies, Cyfarwyddwr, AWC; Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth; Nick Srdic, Pennaeth Cyllid ac Archwilio a Neil Harrison, Swyddog Gweinyddol.

YMDDIHEURIADAU:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am eu habsenoldeb o'r cyfarfod gan Jonathan Jones; Syr David Mansel Lewis; Y Cynghorydd John Pembridge; Y Gwir Anrhydeddus Barry Jones AS; Dr J A Davies; Annwen Carey Evans; G E Humphreys; Y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley AS; Y Cynghorydd Jonathan Huish; P M Thomas; Clive Grace; Y Cynghorydd Harries; Frances Lynch; Y Cynghorydd David Rogers a Paul Loveluck.

CROESO:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod.

CYDYMDEIMLO:

Cafwyd munud o dawelwch i gofio am T A Owen, Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac aelod o'r Llys a fu farw yn ystod yr haf.

1 - COFNODION:

Penderfynwyd: Derbyn cofnodion y cyfarfod o Lys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2000.

2 - HANES MORWROL DIWYDIANNOL CAERDYDD (Gw. Cof. 161, Y cyfarfod hwn 28 Ebrill 2000)

Adroddwyd: Ni chafwyd trafodaeth bellach ar sefydlu Amgueddfa Caerdydd. Roedd y Cyfarwyddwr yn cydnabod yr angen am amgueddfa leol yng Nghaerdydd, ac roedd yn awyddus, fel Cyngor Amgueddfeydd Cymru, i weithio gyda Chyngor Sir Caerdydd i ddatblygu hyn, a hynny o bosibl fel rhan o raglen bartneriaeth newydd yr Amgueddfa.

3 - CROES GELTAIDD YNYS ECHNI: (Gw. Cof. 165, Y Cyfarfod hwn 28 Ebrill 2000)

Adroddwyd: Na chafwyd unrhyw gais ffurfiol gan Bwyllgor Cadwraeth Ynys Echni, ac felly nid oedd Pwyllgor Casgliadau ac Addysg na Chyngor yr Amgueddfa wedi cael cyfle i ystyried y mater hwn ymhellach.

4 - ETHOL IS-LYWYDD:

Gadawodd Mr Roger G Thomas yr ystafell tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.

Adroddwyd: Bod Mr Alun Thomas wedi ymddiswyddo fel Is-lywydd am resymau proffesiynol. Roedd Mr Thomas wedi bod yn aelod o Lys y Llywodraethwyr am gyfnod hir, a dymunai'r Llywydd dalu teyrnged iddo am ei gyfraniad gwerthfawr fel Is-lywydd a Thrysorydd am flynyddoedd lawer. Bu'n gefnogwr brwd i fuddiannau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, fel y dangoswyd gan ei ymrwymiad diweddar i Broject Abertawe. Ategwyd hyn gan y Cynghorydd R Francis-Davis, Abertawe, a ddymunai ddiolch iddo ar ran Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Roedd y Cyngor yn unfrydol wedi argymell i'r Llys y dylid penodi Roger G Thomas yn Is-lywydd am yr hyn a oedd yn weddill o dymor Alun Thomas (Hydref 2002).

Penderfynwyd: Felly, a bod Mr Roger G Thomas yn cael ei longyfarch ar ei benodiad.

5 - AELODAETH:

Adroddwyd: Roedd y Cyngor yn unfrydol wedi argymell yn ei gyfarfod y bore hwnnw y dylid penodi Dr Eleri Wyn Lewis, Dr Brian Willott a Mr Colin Rowland i'r Llys, a Dr Eleri Wyn Lewis a Dr Brian Willott o'r Llys i'r Cyngor. Byddai'r penodiadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2001.

Roedd y Llywydd, ar ôl trafod gyda'r Cyngor, yn credu y dylid, er mwyn sicrhau bod rhagor o bobl yn cael eu henwebu i'r Llys a'r Cyngor, sefydlu pwyllgor enwebiadau a fyddai'n cynnwys dau o Swyddogion yr Amgueddfa, un aelod arall o'r Cyngor, aelod o Lys y Llywodraethwyr nad oedd ar y Cyngor, a'r Cyfarwyddwr.

Penderfynwyd: Felly, ac y dylid gwneud y penodiadau.

6 - SIARTER FRENHINOL:

Derbyniwyd: Penderfyniad Arbennig arfaethedig ar gyfer newid y Siarter a'r Statudau.

Penderfynwyd:

  • Yn Erthygl 8 (4) ychwaneger "Bydd copïau o'r datganiadau o gyfrif hefyd yn cael eu hanfon i Archwiliwr Cyffredinol Cymru a fydd yn eu harchwilio, eu cadarnhau ac adrodd arnynt, a bydd yn rhoi copïau o'r datganiadau ac o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru"

  • Yn Statud IV 1.(2) yn lle "Ysgrifennydd Gwladol Cymru" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

  • Ychwaneger Statud IV 1.(24) newydd "hyd at chwe pherson a benodir gan ac o blith Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

  • Yn Statud V 1.(5) yn lle "Ysgrifennydd Gwladol Cymru" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

  • Yn Statud V 2.(2) yn lle "Ysgrifennydd Gwladol Cymru" rhodder "Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

Yn amodol ar unrhyw newidiadau y gall y Cyfrin Gyngor ofyn amdanynt.

7 - ADRODDIAD Y CYNGOR:

Derbyniwyd a Chymeradwywyd: Y 92ain Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol am y cyfnod 1 Ebrill 1999 hyd at 31 Mawrth 2000.

Adroddwyd: Roedd y Llywydd o'r farn bod y milflwyddiant newydd yn creu cyfleoedd a her newydd i'r Amgueddfa, oherwydd y newidiadau yn yr amgylchedd Amgueddfaol a strwythur gwleidyddol Cymru. Cymeradwyodd yr adroddiad i'r Llys.

Cyflwynodd y Trysorydd y Cyfrifon Blynyddol. Roedd y gwariant am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2000 yn £147k yn uwch na'r incwm. Buasai gostyngiad o £500k mewn incwm am y cyfnod o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn rhannol oherwydd gostyngiad mewn nawdd a hefyd oherwydd newidiadau yn y polisi mynediad. Buasai gostyngiad o £1.4 miliwn mewn gwariant am yr un cyfnod, yn bennaf oherwydd y gwariant uchel yn Amgueddfa Lechi Cymru ac ar arddangosfeydd penodol yn y flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiad ymddangosiadol mewn arian a godwyd yn adlewyrchu newid yn arferion cyfrifydda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Bu cynnydd o £1.1 miliwn yng nghyfanswm y Cyllid, yn dilyn ailbrisio asedion sefydlog fel rhan o'r polisi mynegeio. Buasai ennill cyfunol o £179k drwy waredu asedau sefydlog, yn bennaf o werthu 126 Stryd Bute.

Mae'r Ddyled yn aros yn £4.2 miliwn, sy'n adlewyrchu'r arian sy'n weddill ar ôl gwerthu ADMC, sy'n dal yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Trysorlys yn cadw'r llog ar yr arian hwn, fel sy'n arferol. Roedd Archwiliwr Cyffredinol Cymru wedi datgan bod y datganiadau ariannol yn ei farn ef yn rhoi darlun gwir a theg o'r sefyllfa yn yr Amgueddfa, a'u bod wedi cael eu paratoi'n briodol: hefyd, roedd yr holl wariant ac incwm wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oedd gan Archwiliwr Cyffredinol Cymru unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn. Cymeradwyodd y Trysorydd y cyfrifon i'r Llys.

8 - ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR:

Adroddwyd: Rhoddodd y Cyfarwyddwr y wybodaeth ddiweddaraf i'r Llys ar Strategaeth Ddiwydiannol AOCC; aeth ymlaen i amlinellu'r cynlluniau cynnar ar gyfer datblygiadau eraill yn y dyfodol.

i) Amgueddfa Lechi Cymru

Roedd y datblygiad hwn yn parhau i fod yn llwyddiant mawr. Yn ystod y chwe mis cyntaf eleni, roedd nifer yr ymwelwyr 15.5% yn uwch na'r llynedd. Roedd yr Amgueddfa hon wedi cyrraedd y tri olaf yng nghynllun gwobrau Bwrdd Croeso Cymru, a byddai'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar 8 Rhagfyr. Dyma'r unig amgueddfa (yn hytrach nag atyniad i ymwelwyr) i gyrraedd y rownd derfynol, ac roedd y Cyfarwyddwr yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd; roedd y llwyddiant hwn yn tystio i weledigaeth, ymrwymiad a gwaith caled yr holl staff yn Llanberis.

ii) Pwll Mawr

Cafodd y cyllidebau drafft eu cyhoeddi ddoe. Roedd y Cynulliad wedi trosglwyddo £300k o Gronfa Prynu Gwrthrychau AOCC i'w Chronfa Refeniw er mwyn galluogi AOCC i ymgorffori Pwll Mawr yn ei gweithrediadau. Er bod hyn yn newydd da i Bwll Mawr a'r Strategaeth Ddiwydiannol, roedd Cyngor AOCC y bore hwnnw wedi mynegi pryder mawr fod y Gronfa Brynu wedi cael ei thorri o 1.3 i 1.0 miliwn. Fodd bynnag, roedd dyfodol Pwll Mawr yn dal i ddibynnu ar lefel y cynnydd mewn cyllid refeniw yr oedd y Cynulliad yn barod i'w gynnig i AOCC.

iii) Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru

Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cytuno ar egwyddor i roi grant o £930,000 tuag at y costau datblygu o £1.6 miliwn. Bellach, roedd y gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi'r cais ar gyfer Cam 2 a gyflwynid ym mis Ionawr 2001; roedd yr amgueddfa'n gobeithio cael clywed gan y Gronfa ym mis Mehefin/Gorffennaf 2001 er mwyn cael dechrau ar y gwaith, a'i gwblhau ac ailagor ym mis Mai/Mehefin 2002.

iv) Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Cyflwynwyd cynnig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar 30 Mehefin. Os yw'r Gronfa'n fodlon bod dyfodol Pwll Mawr yn ddiogel a bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn foddhaol, yna byddai project Abertawe yn cael ei farnu yn ôl ei rinweddau ei hun, a dylai AOCC gael ateb gan y Gronfa ym mis Ionawr. Os oedd yr ateb yn gadarnhaol, byddai datblygiad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe hefyd yn symud ymlaen i Gam 2. Credid y byddai'n cymryd chwe mis i baratoi'r cais llawn.

Dosbarthwyd papur briffio llawn i'r aelodau wrth iddynt gyrraedd; dylid anfon unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gwestiynau at Tony Lloyd a fyddai'n sicrhau eu bod yn cyrraedd y person priodol ac y ceid ateb iddynt. Pwysleisiwyd y croesewid cyfraniadau cynnar; byddai ymgynghoriad cyhoeddus ehangach yn dilyn.

Cynllunio at y Dyfodol

Er bod datblygu a gweithredu'r Strategaeth Ddiwydiannol wedi bod yn flaenoriaeth ers peth amser, roedd yn rhaid bellach ystyried dyfodol y ddau brif safle yng Nghaerdydd - yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol ac Amgueddfa Werin Cymru.

Roedd y ddwy amgueddfa'n wynebu her gyffelyb: sut i arddangos a dehongli casgliadau AOCC yn yr 21ain Ganrif, a sut i gwrdd â disgwyliadau cynulleidfa heddiw ac yfory, a mynd ymhellach na hynny. Roedd yr amgueddfa'n mynd i'r afael â'r her mewn dwy ffordd:

  • archwilio lleoliad ac ansawdd y lle sydd ar gael ar hyn o bryd; a yw'r adeiladau presennol yn ddigonol ar gyfer datblygu ac ehangu i gwrdd ag anghenion yr Amgueddfa yn yr hanner can mlynedd nesaf?

  • archwilio natur yr arddangosiadau presennol ac ymchwilio i dechnegau arddangos newydd a dulliau eraill o gynnig mynediad yn y dyfodol.

Eleni, bydd nifer sylweddol o fuddiannau yn cael eu gwahodd i drafodaethau yn AOG a fydd yn canolbwyntio ar anghenion a hunaniaeth casgliadau'r Oriel Genedlaethol ac anghenion cysylltiedig casgliadau'r Amgueddfa Genedlaethol yn AOG. Bydd y Llys yn cael gwybod am hyn.

Bydd yr adnoddau a'r cyfleusterau sydd eu hangen i wella stiwardiaeth y casgliadau yn hanfodol i'r ddau ddatblygiad. Gan ddefnyddio cymariaethau o fyd deintyddiaeth a gofal iechyd, bu'r cyfarwyddwr yn trafod cadwraeth ataliol, a oedd yn ddull llawer mwy cost-effeithiol o ddiogelu'r casgliadau na'u trin neu'u hadfer.

Bydd y mwyafrif o wrthrychau amgueddfaol yn dirywio oni chânt ofal priodol. Mae arnynt angen cartref diogel mewn amgylchedd priodol. Mae angen dogfennaeth (ar eu lleoliad a'u cyflwr, yn ogystal â data sylfaenol ar gasgliadau ymchwil) fel y gellir eu harchwilio'n rheolaidd. Os yw cyflwr y gwrthrych yn cael ei fonitro yna, pe bai angen ymyrryd, gellid dewis yr adeg orau i wneud hyn. Mae hyn yn berthnasol i holl gasgliadau'r Amgueddfa, p'un a ydynt yn cael eu harddangos yn AOCC, ar fenthyg, mewn storfa yn perthyn i'r amgueddfa, neu'n cael eu hastudio mewn labordy.

Nid yw hyn yn golygu na all y cyhoedd gael mynediad iddynt, yn enwedig yn yr oes ddigidol hon, oes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Ond mae'n rhaid sylweddoli hefyd na fyddai'r cyhoedd yn gallu cael mynediad i'r gwrthrychau hyn yn y dyfodol oni bai am ein stiwardiaeth. Yn syml, os na fyddwn ni'n gofalu am y casgliadau yn awr, ni fyddant yn goroesi, ac mae'n amhosibl meddwl am amgueddfa heb gasgliadau.

Pan werthwyd Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, buddsoddwyd peth arian mewn adeilad newydd ym Mharc Nantgarw. Hwn oedd cartref dros dro y casgliadau Diwydiannol, a'r staff sy'n gyfrifol am ofalu amdanynt a gwneud gwaith curadurol arnynt. Fodd bynnag, prynwyd yr adeilad a'r tir o'i gwmpas er mwyn datblygu Canolfan Gasgliadau, lle y gellid cynnig cartref priodol i'r casgliadau, a chynnal rhai agweddau ar ein gwaith ymchwil a chadwraeth/adfer. Gallai canolfan o'r fath gartrefu archif yr Amgueddfa hefyd a gweithredu fel storfa ar gyfer y llyfrgell. Gallai hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer mynediad electronig i'r Amgueddfeydd eu hunain, eu casgliadau a gweithgareddau cysylltiedig. Byddai mynediad i'r casgliadau yn llawer haws yn gorfforol hefyd, yn ogystal â bod yn fwy diddorol ac addysgiadol.

Byddai datblygu Canolfan Gasgliadau ym Mharc Nantgarw yn gwella stiwardiaeth a mynediad i'r cyhoedd, ac roedd y datblygiad hwn hefyd yn allweddol i'n holl gynlluniau i wella ansawdd a maint y lle sydd ar gael i'r cyhoedd yn AOG ac AWC.

Felly, byddai adeiladu strategaeth gyllido yn un o'r materion nesaf i gael sylw mewn unrhyw 'brif gynllun' ar gyfer AOCC. Roedd yr Amgueddfa wedi cael trafodaeth anffurfiol â Chronfa Dreftadaeth y Loteri, a'u barn hwy oedd, tra oedd rhagoriaeth mewn stiwardiaeth yn hanfodol i fodolaeth amgueddfa genedlaethol, mai swyddogaeth y loteri oedd ychwanegu at gyllido cyhoeddus yn hytrach na rhoi arian yn lle hyn. Awgrymodd y Cyfarwyddwr y gallai'r Llys gefnogi'r Amgueddfa mewn dwy ffordd: yn gyntaf, drwy berswadio'r Cynulliad i roi grant cyfalaf ychwanegol o £1 miliwn y flwyddyn, dyweder, am ddwy flynedd, a chynyddu grant refeniw AOCC er mwyn staffio a rhedeg y cyfleuster hwn; yn ail, helpu i gynyddu'r gefnogaeth breifat i'r Amgueddfeydd Cenedlaethol drwy'r Cynllun Noddwyr. Mae nifer y noddwyr wedi cynyddu tua 33 y cant ers cyfarfod diwethaf y Llys, ond rydym yn bell iawn o'r nod o 500.

Mae'r Cynulliad yn rhoi pwysau cynyddol ar AOCC i godi arian o'r sector preifat. Gallai cymorth gan y Llys i berswadio'r Cynulliad ynghylch pwysigrwydd y Ganolfan Gasgliadau, ac i helpu cynyddu cyllid AOCC o ffynonellau preifat, fod yn hollbwysig.

Mynegodd y Cynghorydd Pat Larsen bryder am y defnydd o'r Gymraeg yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe ac felly yn y datblygiad yn Abertawe. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai pob agwedd ar Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn hollol ddwyieithog, ac y byddai hyn yn wir hefyd am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Gofynnodd Linda Quinn a oedd yr Amgueddfa yn manteisio ar y Gronfa Cyfleoedd Newydd. Dywedodd y Dirprwy Gyfarwyddwr bod AOCC ar hyn o bryd yn rhan o bartneriaeth Cymru-gyfan dan arweiniad y Llyfrgell Genedlaethol a oedd yn gwneud cais am ddigideiddio archifau i'w gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Roedd y cais hwn eisoes wedi mynd heibio Cam I. Hefyd, roedd gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Chyngor Sir Caerdydd, a fyddai hefyd yn gwneud defnydd o'r Gronfa.

Roedd y Llywydd am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Cyfarwyddwr a'i staff am eu gwaith drwy gydol y flwyddyn. Ychwanegodd fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â chyllideb yr Amgueddfa. Roedd y Cyngor yn ei gyfarfod fore heddiw wedi synnu bod y cynigion cyllidebol wedi ymddangos yn y Western Mail cyn i aelodau'r Cyngor gael eu hysbysu am hyn yn y cyfarfod chwarterol. Roedd y cyllidebau yn dangos cynnydd o £850,000 mewn cyllid refeniw ar gyfer AOCC. Fodd bynnag, roedd y cyllid presennol ar gyfer mynediad am ddim i'r di-waith a rhai dros 60 oed yn cyfrif am £200,000 o hyn, ac roedd y gweddill yn cynnwys chwyddiant ôl-groniadol a chyllid ar gyfer I Mewn am Bunt (tâl mynediad o £1 i ymwelwyr sy'n talu). Roedd cyllid refeniw o £300,000 ar gyfer Pwll Mawr hefyd yn gynwysedig yn y ffigur hwn, ond roedd hyn ar draul gostyngiad cyfatebol yn y Grant Prynu Gwrthrychau. Tra'n croesawu'r ffaith y gallai AOCC yn awr gymryd y cam pwysig tuag at ymgorffori Pwll Mawr, roedd y Cyngor yn bryderus iawn am y gostyngiad yn y Grant Prynu Gwrthrychau ac roedd yn anhapus nad oedd wedi cael cyfle i drafod gyda'r Cynulliad sut y gellid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o ddyraniadau ychwanegol.

Gofynnodd Win Griffiths AS a oeddid yn ystyried unrhyw ddewisiadau eraill fel rhan o'r ymgyrch i gynyddu mynediad i gasgliadau'r Amgueddfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr bod gan yr Amgueddfa enw da am roi benthyg ei chasgliadau, yn fwy nag unrhyw amgueddfa genedlaethol arall, ac roedd yn gobeithio bod yn fwy rhagweithiol fyth yn y maes hwn. Ychwanegodd y Dirprwy Gyfarwyddwr fod pob amgueddfa leol, a phob ty o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu safle treftadaeth cyffelyb yng Nghymru naill ai wedi cael benthyg gwrthrychau o gasgliad yr Amgueddfa neu'n cael eu benthyg ar hyn o bryd. Yn sicr, byddai'r Amgueddfa'n hoffi rhoi benthyg rhagor o wrthrychau os oedd hyn yn bosibl, os oedd y lleoliad yn addas. Rhaid nodi hefyd na all yr Amgueddfa roi llawer mwy o wrthrychau ar fenthyg nag a wnaiff ar hyn o bryd oherwydd y baich gweinyddol.

Llongyfarchodd Susan Davies yr Amgueddfa ar ansawdd y gwaith ymchwil a wnaed ar ymwelwyr, a thynnodd sylw at y ffaith mai hyn fyddai'r sail ar gyfer trafod yn llawnach sut y gellid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau a neilltuwyd ar gyfer I Mewn am Bunt.

Dywedwyd wrth y Llys hefyd y byddai'r Amgueddfa yn cynnal Adolygiad Pum Mlynedd a bod hyn wedi cael ei ddwyn ymlaen i ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Byddai rhan gyntaf yr adolygiad yn cael ei gwneud gan grwp allanol, ond nodwyd bod y Cyfarwyddwr a'r Dirprwy Gyfarwyddwr wedi cael gwahoddiad i fod yn aelodau o'r grwp llywio, ac y bwriedid gwneud defnydd llawn o'r adolygiad er budd yr Amgueddfa.

Dywedodd Mair Waldo Thomas mai dyma'r cyfarfod cyntaf o Lys y Llywodraethwyr iddi ei fynychu, yn cynrychioli Prifysgol Cymru, a gobeithiai y byddai'r cofnodion yn cyfeirio at aelodau staff wrth eu henwau er mwyn ei gwneud yn haws i aelodau newydd fel hi eu hadnabod.

Roedd Mrs Joan Raum yn falch o weld bod adolygiadau chwarterol adrannau AOCC, a oedd yn ddefnyddiol a llawn gwybodaeth, wedi'u cynnwys ym mhapurau'r llys.

9 - YMDDEOLIADAU:

Adroddwyd: Bod y Llywydd yn dymuno tynnu sylw at y ffaith y byddai chwech o aelodau'r Llys yn gadael, a bod dau ohonynt yn bresennol yn y cyfarfod hwn. Hoffai ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr a dymuno'n dda iddynt yn y dyfodol. Yn arbennig, hoffai grybwyll enw Roderic Bowen, a fu'n aelod o'r Llys ers 1945 ac a oedd wedi gwasanaethu'r Amgueddfa mewn llawer swydd. I nodi ei ymddeoliad, cyflwynwyd rhodd iddo fel arwydd o'u gwerthfawrogiad a hoffter. Wrth ymateb, dywedodd Mr Bowen ei fod wedi cydweithio â llawer Llywydd a Chyfarwyddwr a hoffai ddiolch iddynt un ac oll - yn enwedig deiliaid presennol y swyddi hyn - a diolchodd iddynt am eu caredigrwydd ac amynedd. Hoffai ddiolch yn arbennig i Tony Lloyd am ei sylw a'i gymorth.

10 - DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF:

Penderfynwyd: Y byddai cyfarfod nesaf y Llys yn cael ei gynnal ar 27 Ebrill 2001 yng Ngogledd Cymru.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.