Amgueddfa Cymru

Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 28 Ebrill 2000

Cyfarfod o LYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2000 yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

PRESENNOL:

Mr M C T Prichard (Llywydd yn y Gadair); Mr A Thomas (Is-lywydd); Mr G Wyn Howells (Trysorydd); Mr K Mascetti; Y Cynghorydd J G Jenkins; Y Cynghorydd R W Hughes; Dr R Bowen; Mr C Delaney; Mr G Humphries; Y Cynghorydd P G Larsen; Capten G Pari Huws; Miss F Lynch; Y Cynghorydd A Earle; Mr J A Davies; Mr D C Jones Davies; Mrs E Pritchard Jones; Dr S J Davies; Dr P T Warren; Mr R G Thomas; Yr Anrhydeddus Jonathan Davies; Dr N Edwards; Mrs A Carey Evans; Syr R Hanbury-Tenison; Mr D Bowen Lewis; Mr D Ken Jones; Mr D Wigley AS AC; Mr J W Evans.

YN Y CYFARFOD:

Y Cyfarwyddwr AOCC; Y Dirprwy Gyfarwyddwr, AOCC; Y Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus; Y Cyfarwyddwr, AWC; Y Cyfarwyddwr, AOG; Yr Arweinydd Project, AGGA; Y Pennaeth Gweinyddiaeth.

YMDDIHEURIADAU:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am eu habsenoldeb o'r cyfarfod gan Mr J Jones; Mr H Jones; Mr C Grace; Mr P Loveluck; Syr D Mansel Lewis, Mr W Griffiths AS; Mrs S Crouch; Mrs J Raum; Mr T A Owen; Mr M McClaggan; Mr J Pembridge; Mr R Cass; Mr P M Thomas; Mr H. Looker; Mr T G Jones; Y Cynghorydd J Huish; Y Cynghorydd A Harries; Y Cynghorydd D Phillips; Ms L Quinn; Ms A Wellington; Mr B Jones AS.

CROESO:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod a dywedodd ei fod yn falch fod y cyfarfod yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru unwaith yn rhagor.

159 - COFNODION:

Penderfynwyd: Derbyn cofnodion y cyfarfod o Lys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 1999.

160 - MYNEDIAD DI-DÂL (Gw. Cof. 2(ii) y cyfarfod hwn 19 Tachwedd 1999):

Adroddwyd: Caniatawyd mynediad di-dâl i'r holl Amgueddfeydd i grwpiau ysgol sydd wedi trefnu ymlaen llaw o 1 Ebrill 2000. Yn ddiweddar, derbyniodd AOCC grant ychwanegol o £600,000 gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd hyn yn ei galluogi i ganiatáu mynediad di-dâl i bob plentyn 18 oed a iau, a hefyd i bobl dros 60 oed, o 1 Mai 2000. Gobeithid (ar ôl cael cadarnhad o'r sefyllfa ynglyn â TAW) y gellid caniatáu mynediad am ddim i'r di-waith (rhai sy'n derbyn budd-dâl) yn ogystal. Mae hyn yn ychwanegol at yr hyn a gynigir gan amgueddfeydd yn Lloegr sy'n codi tâl. Diolchodd y Llywydd i'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy Mr Dafydd Wigley AS AC, am wneud hyn yn bosibl.

161 - HANES MORWROL DIWYDIANNOL CAERDYDD (Gw. Cof. 2 y cyfarfod hwn 19 Tachwedd 1999):

Adroddwyd: Yng nghyfarfod diwethaf Llys y Llywodraethwyr, dywedasai Capten G Pari Huws ei fod yn dal i bryderu nad oedd unrhyw gofnod o'r bron o hanes morwrol diwydiannol Caerdydd a'r rhan a chwaraewyd ganddi (fel prifddinas) yn natblygiad Cymru. Roedd y Cyfarwyddwr wedi siarad â Julie Morgan AS am y tebygolrwydd o sefydlu amgueddfa Caerdydd. Roedd ganddi ddiddordeb o hyd yn y cysyniad hwn a byddai'n cysylltu â'r Cyfarwyddwr eto pan yn briodol. Gan ateb cwestiwn Capten Pari Huws ynghylch bwriad Cyngor AOCC, dywedodd y Llywydd y byddai'n anodd newid yr arddangosfeydd yn yr AOG er mwyn ymgorffori hyn, ond y câi ystyriaeth ochr yn ochr â'r cynlluniau eraill ar ei chyfer. Gofynnodd Y Cynghorydd J G Jenkins i'r Amgueddfa ystyried cynnal arddangosfa dros dro ar y pwnc yn AOG.

Cytunodd y Cynghorydd A Earle (sy'n cynrychioli Cyngor Caerdydd) y dylai Caerdydd wneud rhywbeth i gofnodi ei hanes morwrol diwydiannol, ond nad oedd ganddo unrhyw obaith y byddai arian ar gael ar hyn o bryd. Teimlai, fodd bynnag, y gellid ystyried gwneud arddangosfa yn Neuadd y Ddinas, ond roedd hyn yn dibynnu ar a fyddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud unrhyw ddefnydd o Neuadd y Ddinas. Dymunai Mr Dafydd Wigley AS gofnodi'r ffaith y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn Neuadd y Ddinas erbyn hyn pe byddid wedi cael cydweithrediad Cyngor Dinas Caerdydd. Dywedodd Dr Bowen ei fod yn croesawu brwdfrydedd cynrychiolydd Cyngor Dinas Caerdydd, gan na chafwyd ymateb o'r fath gan y Cyngor yn ystod y cyfnod hir y bu ef yn gysylltiedig â'r Amgueddfa Diwydiant a Môr yng Nghaerdydd.

162 - CYFRIFON BLYNYDDOL 1998/89 (Gw. Cof. 3 y cyfarfod hwn 19 Tachwedd 1999):

Adroddwyd: Bod y Cyfarwyddwr a Mr Colin Ford fel cyn-Gyfarwyddwr wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol ar 17 Chwefror 2000 gyda Mr Jon Shortridge a Mr Laurie Pavelin o'r Swyddfa Gymreig. Disgwylid adroddiad llawn y gwrandawiad ganol mis Mai. Teimlai'r Cyfarwyddwr fod y Pwyllgor wedi gofyn cwestiynau teg a phell-gyrhaeddol, a bod yr Amgueddfa a swyddogion y Cynulliad fel ei gilydd wedi dysgu gwersi pwysig. Dywedodd yr Is-lywydd, a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad, yr hoffai longyfarch y Cyfarwyddwr, a fuasai yn ei farn ef yn gaffaeliad i AOCC.

163 - ADRODDIAD CHWE MISOL Y CYFARWYDDWR I'R LLYS TACHWEDD 1999 - EBRILL 2000:

Derbyniwyd: Adroddiad llafar gan y Cyfarwyddwr ar yr hyn a gyflawnwyd gan AOCC o fis Tachwedd 1999 hyd fis Ebrill 2000.

Adroddwyd: Bod AOCC wedi canolbwyntio ar dri mater strategol yn ystod y 6 mis diwethaf. Y mater cyntaf oedd sut i wneud AOCC yn berthnasol a hygyrch i gymdeithas gyfoes, a chael y cyhoedd i ddeall a chydnabod hyn ar raddfa eang. Ymhlith yr enghreifftiau o ddatblygiadau diweddar i gyflawni'r amcan hwn yr oedd ailgodi eglwys ganoloesol a oedd yn cynnwys cyfres gyfan o baentiadau mur o'r 16eg Ganrif; ailgodi ty parod o Gabalfa ac adeiladu 'Ty i'r Dyfodol', y cyfan yn Amgueddfa Werin Cymru (AWC). O fewn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol (AOG), agorwyd llecyn darganfod yn Oriel Glan Elái a oedd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd drin a thrafod gwrthrychau a sbesimenau.

Yn rhifyn Ebrill 2000 y cylchgrawn "Which? Guide to Tourist Attractions", cafwyd canlyniadau archwiliad o dri o saith safle AOCC. Cafodd dau o'r safleoedd hyn ganmoliaeth uchel, a nodwyd bod y trydydd, sef AOG, yn amgueddfa nodedig ac ymhlith y deg Amgueddfa orau yn y DU. Nododd y Cyfarwyddwr fod pump o saith amgueddfa AOCC yn rhai hollol Gymreig, gan atgyfnerthu amcan AOCC o ddweud wrth y byd am Gymru tra'n cadw'r gallu i ddod â chelfyddyd, diwylliant a gwybodaeth o bob rhan o'r byd i Gymru, gan hyrwyddo dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau a pharch tuag atynt.

Roedd hwyluso mynediad, corfforol a 'rhith', yn bwysig. Roedd AOCC wedi buddsoddi mewn rhwydwaith TGC i hybu cyfathrebu mewnol effeithiol a hefyd er mwyn gallu rhoi catalogau a chronfeydd data casgliadau eraill ar y rhyngrwyd. Mae safle gwe presennol AOCC eisoes yn derbyn hyd at 70,000 o 'ymweliadau' bob mis. Llwyddwyd i wella mynediad hefyd drwy gyfrwng strategaeth ddiwydiannol AOCC. Cam un y strategaeth hon oedd datblygu Amgueddfa Lechi Cymru; cam dau yw ymgorffori Pwll Mawr, Blaenafon; a cham tri yw'r amgueddfa forwrol ddiwydiannol newydd yn Abertawe. Y pedwerydd cam fydd cais cymharol fychan i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am arian i ddatblygu Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru.

Tra'n gwella mynediad, mae'n rhaid i AOCC wneud yn siwr ei bod yn gallu edrych ar ôl y casgliadau a'r eiddo yn ei gofal. Dyma'r ail fater strategol, ac i'r diben hwn, gellid datblygu'r Ganolfan Gasgliadau yn Nantgarw i ddarparu cartref tymor hir i'r casgliadau wrth gefn, yr archifau a rhai cyfleusterau cadwraeth, er enghraifft. Roedd AOCC ar hyn o bryd yn datblygu'r Ganolfan Adnoddau Archifol yn yr adeilad presennol, ac mae'n debyg y bydd cam nesaf y gwaith yn costio £4 neu £5m. Mae'n rhaid cael cyfleusterau storio da i sicrhau'r gofal gorau, a disgwylid y byddai adroddiad i gyfarfod blynyddol Llys y Llywodraethwyr ym mis Hydref 2000 yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed o safbwynt gofalu am y casgliadau.

Yn olaf, mae'n rhaid i AOCC wella ei sylfaen gyllid er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn dal i gyflawni a gwella yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau sy'n ymwneud â mynediad a gofalu am gasgliadau ac eiddo. Roedd AOCC wedi llwyddo, y llynedd ac eleni, i sicrhau cynnydd yn y cymorth grant ac, er bod hyn yn ffordd bwysig o wella ei sylfaen gyllid, roedd AOCC yn dyblu ei hymdrechion i godi arian o ffynonellau eraill. Roedd yn edrych ar nifer o wahanol strategaethau, megis penodi Swyddog Codi Arian Ewropeaidd, lansio cynllun aelodaeth newydd sy'n cynnig mynediad gyda breintiau i AOCC i'r noddwyr hynny sy'n tanysgrifio'n flynyddol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr her i'r Llys i ddod yn noddwyr eu hunain yn ystod y flwyddyn nesaf ac i helpu i ddod o hyd i 500 o noddwyr newydd erbyn y Nadolig. Mae AOCC hefyd yn edrych ar ei blaenoriaethau mewn materion cyhoeddus a gweithgareddau masnachol i wneud yn siwr bod yr holl ymdrechion i gynhyrchu incwm ychwanegol yn broffidiol. Roedd amgueddfeydd yn aml yn llwyddo i godi arian heb gyfrif y gost o wneud hynny.

Mewn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Earle, cadarnhawyd y disgwylid y byddai Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe (AGGA) yn cael ei hagor ym mis Mehefin 2004, ac roedd yn falch iawn o glywed hynny. Gofynnodd Dafydd Wigley AS a oedd y dyddiad hwn yn hwyrach na'r bwriad gwreiddiol, ac a oedd yr amgueddfa o fewn y gyllideb. Dywedodd y Cyfarwyddwr na phennwyd dyddiad cyn hyn, ac nad oedd y costau terfynol wedi cael eu gweithio allan eto, gan mai adeiladu i safon arbennig ac nid yn ôl y gost oedd nod AOCC. Mynegodd Mr Wigley ei syndod fod AOCC wedi cychwyn ar broject o'r fath heb bennu dyddiad agor na chostau terfynol. Cytunwyd y byddai amlinell o gynllun busnes AOCC yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Llys y Llywodraethwyr.

Mewn ymateb i gwestiwn ar ychwanegolrwydd gan Dr Susan Davies cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod rheolau Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn golygu na fyddai'r Gronfa'n rhoi grantiau i brojectau oni bai eu bod yn wirioneddol ychwanegol at waith y sefydliad. Byddai'r Gronfa'n bryderus pe byddai'r projectau hyn yn peryglu gwaith presennol y sefydliad. Felly, roedd AOCC a Chronfa Dreftadaeth y Loteri wedi edrych bob amser ar Bwll Mawr fel amgueddfa ychwanegol. I gloi, atgoffodd y Llywydd y Llys fod Cyngor AOCC yn benderfynol na fyddai'n colli golwg ar ei briod waith o ddiogelu'r casgliad yn ei ofal.

164 - ADRODDIAD CHWARTEROL AOCC IONAWR - MAWRTH 2000:

Derbyniwyd: Mae Adroddiad Chwarterol AOCC o fis Ionawr i fis Mawrth 2000.

Penderfynwyd: Croesawodd y Llys yr adroddiadau hyn a gofynnodd am eu gweld bob chwarter. Mewn ateb i gwestiwn am yr anhawster o gadw a recriwtio staff dywedodd y Cyfarwyddwr bod AOCC yn ei gweld yn anodd i gystadlu, yn enwedig o safbwynt cyflogau. Roedd hyn yn wir nid yn unig mewn perthynas â staff arbenigol ond mewn meysydd eraill yn ogystal.

165 - CROES GELTAIDD YNYS ECHNI:

Roedd croes garreg o Ynys Echni ym Môr Hafren wedi bod ym meddiant yr Amgueddfa ers 1942 pan oedd y Swyddfa Ryfel yn gweithio ar yr Ynys. Prynwyd Ynys Echni gan Gyngor Caerdydd ym 1995, ac roedd yn cael ei rhedeg fel canolfan gweithgareddau agored, gyda tua 2,000 o bobl ifanc yn ymweld â'r ynys bob blwyddyn. Roedd Y Cynghorydd Earle (Cadeirydd Pwyllgor Gwarchod Ynys Echni) yn awyddus i'r Groes gael ei dychwelyd i'r Ynys i'r ymwelwyr ei gweld.

Eglurodd y Dirprwy Gyfarwyddwr, AOCC i'r Groes gael ei rhoi i'r Amgueddfa ym 1942, a theimlai y dylai aros yn AOG gan fod perygl y câi ei fandaleiddio ar Ynys Echni. Oherwydd ei maint, roedd posibilrwydd hefyd y gallai gael ei dwyn neu ei dinistrio.

Penderfynwyd: Y byddai Cyngor AOCC yn rhoi ystyriaeth lawn i'r mater hwn yn ei gyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf 2000.

166 - OWAIN GLYN DŴR 1400-2000:

Adroddwyd: Roedd Dafydd Wigley wedi gofyn pa gynlluniau a oedd gan AOCC i ddathlu Chwe Chanmlwyddiant gwrthryfel Glyn Dwr ym 1400. Cadarnhawyd bod AOCC wedi rhoi pob cymorth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i'w galluogi i gynnal ei harddangosfa amlgyfrwng a fyddai ar agor o fis Ebrill hyd fis Medi 2000. Teimlid ei bod yn well rhoi cefnogaeth yn hytrach na chystadlu.

167 - DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF:

Penderfynwyd: Cynnal cyfarfod nesaf Llys y Llywodraethwyr ar 20 Hydref 2000 yn Ystafell y Llys, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.