Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English

Cyfarfodydd o Lys y Llywodraethwyr - 19 Tachwedd 1999

Cyfarfod LLYS Y LLYWODRAETHWYR a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 1999 yn Ystafell y Llys, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd.

PRESENNOL:

M C T Prichard (Llywydd); Alun Thomas (Is-Lywydd); G Wyn Howells (Trysorydd), W Cleaver; Y Capten G Pari Huws; Dr R Bowen; J A Davies; G Humphries; C J Delaney; Y Cynghorydd A Earle; Y Cynghorydd G Jenkins; P Loveluck; H Looker; M J M Clarke; R H Poole; Mrs J Raum; R G Thomas; Y Cynghorydd R Cass; Y Cynghorydd J Phillips; H Jones; Y Cynghorydd R W Hughes; Mrs A Carey Evans; Mrs A Wellington; Dr S Davies; Yr Anrhydeddus Jonathan Davies; Win Griffiths AS; P Thomas.

YN GWEINYDDU:

Y Cyfarwyddwr; y Dirprwy Gyfarwyddwr; y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Materion Cyhoeddus); y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Hanes Cymdeithasol a Diwydiannol)/Ceidwad Amgueddfa Werin Cymru; y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Arddangosfeydd a Dehongli); Pennaeth Cyllid ac Archwilio; Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Swyddog Gweinyddol.

YMDDIHEURIADAU:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mrs E Pritchard Jones, Dafydd Wigley AC AS; Barry Jones AS; K Mascetti; D Mansel Lewis; J Jones; J Pembridge; Syr R Hanbury-Tenison; D C Jones Davies; Mr F Lynch Llewelyn; C Grace; T G Jones; Y Cynghorydd H Morgan; Dr N Edwards; Y Cynghorydd J A Harries; M McClaggen; Y Cynghorydd D Eastwood; D Ken Jones; Y Cynghorydd R F Davies; D Bowen Lewis; Ms S Crouch; Y Cynghorydd P Larsen.

CROESO:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod ac ymddiheurodd am y gohirio a fu. Roedd hynny yn sgil trafodaethau â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ynglþn â chwblhau'r Cyfrifon am y Flwyddyn 1998/99 ac er mwyn gallu cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon llawn a phriodol i'r aelodau.

Datganiad o Ddiddordeb

Datganodd y Cynghorydd Phillips o Ddinas a Sir Abertawe ddiddordeb yn yr holl faterion cysylltiedig â datblygiad yr Amgueddfa Lan y Dðr Genedlaethol; datganodd M J M Clarke ddiddordeb yn yr holl faterion cysylltiedig â'r Pwll Mawr.

335 - COFNODION:

Penderfynwyd: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod Llys y Llywodraethwyr a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 1999

336 - DATBLYGIADAU:

Adroddwyd: Bod y Llywydd yn dymuno pwysleisio, cyn i'r Cyfarwyddwr gyflwyno ei hadroddiad, er bod datblygiadau mawr fel Amgueddfa Lan y Dðr Genedlaethol Abertawe, y Pwll Mawr a mynediad am ddim i blant yn naturiol yn denu sylw mawr, eu bod yn digwydd weithiau ar draul blaenoriaethau eraill. Roedd rhaid ailbwysleisio'r angen parhaus i warchod a datblygu gweithgareddau craidd yr Amgueddfa sef casglu, ymchwilio, arddangos, dehongli a gofalu am y casgliadau sydd ganddi a sicrhau bod y sawl sy'n darparu'r cyllid yn ymwybodol o bwysigrwydd creiddiol gwaith o'r fath sy'n aml yn mynd heb ei gydnabod. Roedd yn hanfodol cadw hyder y cyhoedd yn yr AOCC fel ceidwad dibynadwy treftadaeth y genedl.

Yna adroddodd y Cyfarwyddwr wrth aelodau'r Llys am ddatblygiadau ers ei gyfarfod diwethaf ym mis Ebrill. Gobeithiai fod y cam a gymerwyd gan ei rhagflaenydd i ailddechrau cynnal cyfarfodydd chwemisol y Llys wedi gwella ymwybyddiaeth yr aelodau o waith AOCC ac y byddai'n parhau i wneud hynny.

(i) Strategaeth Ddiwydiannol

Roedd datblygiadau yn Amgueddfa Lechi Cymru a ariennid i raddau helaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar fin eu cwblhau. Roedd y tai a ail-leolwyd wedi eu hailagor ym mis Gorffennaf ac yn boblogaidd iawn mor belled. Am y tro cyntaf roedd swyddog addysg llawn-amser wedi'i benodi a bu'n un o'r prif resymau am lwyddiant yr Amgueddfa a welodd gynnydd o 11% yn nifer ei hymwelwyr er mis Ebrill eleni, a chynnydd o 14% mewn incwm mynediad; at hynny roedd yr incwm o'r siop a'r caffi wedi treblu bron mor belled. Dylid cymharu hyn â chwymp cyffredinol o oddeutu 6% yn nifer yr ymwelwyr ag atyniadau cyffelyb yng ngogledd Cymru.

Yn dilyn llofnodi'r Memorandwm Dealltwriaeth, roedd gwaith rhwng AOCC a Dinas a Sir Abertawe (DSA) ar Amgueddfa Lan y Dðr Genedlaethol Abertawe wedi mynd rhagddo'n dda. Dewisodd y Cyfarwyddwr bwysleisio pedwar prif faes:

Cyflwynwyd y cynigion terfynol am grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer arian datblygu yn y Pwll Mawr ar y cyd gan y Pwll Mawr ac AOCC a disgwylid canlyniadau ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Roedd y gwaith brys sydd eisoes yn cael ei wneud wedi denu grantiau gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw yn barod ac roedd Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop wedi rhoi nawdd ar gyfer rhaglen ddwy flynedd i farchnata'r safle. Er bod cyfarfodydd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol mynegodd y Cyfarwyddwr beth pryder ynglþn â'r cyllid refeniw ar gyfer y Pwll Mawr. Byddai angen darbwyllo'r Cynulliad Cenedlaethol i gydnabod y Pwll Mawr fel safle cenedlaethol ac i dderbyn cyfrifoldeb am yr oddeutu £200,000 y flwyddyn a ddarperir ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ychwanegol at ei gyfraniadau ei hun gan wneud cyfanswm y cyfraniad yn oddeutu £400,000 y flwyddyn. Dylid nodi bod Amgueddfa Genedlaethol Lofaol Lloegr yn denu nawdd o oddeutu £1m y flwyddyn gan DCMS.

(ii) Mynediad am ddim

Bu'r polisi o fynediad am ddim i grwpiau ysgol yn llwyddiant yn syth gyda chynnydd o 12% hyd yma mewn ymweliadau o'r fath ar draws AOCC. Roedd Cyllideb Ddrafft y Cynulliad yn dangos eu bod yn bwriadu cyflawni addewid maniffesto'r Blaid Lafur i ariannu mynediad am ddim i bob plentyn o 1 Ebrill 2000, ond byddai Cymru gam y tu ôl i Loegr o hyd oherwydd yno roedd cyllid ar gyfer mynediad am ddim i bobl dros 60 mlwydd oed yn cael ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

(iii) Caffaeliadau

Golygai'r Grant Prynu Sbesimenau o ychydig dros £1m y flwyddyn na phrynwyd llawer yn ystod y flwyddyn o gronfeydd yr Amgueddfa yn unig ond yn hytrach eu bod yn cael eu defnyddio fel mecanwaith ar gyfer denu arian ychwanegol i Gymru gan yr Amgueddfa drwy sefydliadau fel NACF. Rhai o'r prif gaffaeliadau yn ystod y flwyddyn oedd tair claddfa o oes y Llychlynwyr o Ynys Môn gan yr Adran Archaeoleg a Nwmismateg; portread gan Zoffany ac "Yr Actor" gan David Hockney gan yr Adran Gelf; prynu Gwely Derwydd neu Wely Mawr Rhys ap Thomas ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru a rhodd gan Brifysgol Bangor o gasgliad pwysig o bryfed Cymreig a fyddai'n gwneud casgliad yr Amgueddfa yn un cyflawn. Bu'r arddangosfeydd a gynhaliwyd yn y cyfnod hefyd yn llwyddiannus - roedd yr Arddangosfa Mannau Dirgel wedi rhagori ar ei dargedau o oddeutu 25%, y Grðp Cymreig o 16% ac roedd pob arddangosfa arall wedi cyrraedd neu ragori ar ei tharged. Roedd dros 10,000 o ymwelwyr eisoes wedi mwynhau arddangosfa ffotograffig gyfredol David Hockney.

Roedd amrywiaeth eang o adolygiadau o bolisïau un ai'n cael eu paratoi neu'n cael eu cynnal mewn meysydd fel benthyciadau, cadwraeth a rheoli casgliadau.

Roedd cynyddu adnoddau ariannol yr Amgueddfa yn flaenoriaeth o hyd ac felly roedd yn dda cael nodi bod yr Adran Ddatblygu yn debygol o allu cyfrannu dros £1m eleni o'i gymharu â chyfanswm o £300,000 y llynedd.

Gwelwyd hefyd yn ystod y flwyddyn ailwampio'r uwch dîm rheoli o fewn AOCC, proses a oedd yn parhau. Roedd yr Uned Gyfarwyddo bellach yn cynnwys y Cyfarwyddwr a phedwar aelod arall. Roedd Eurwyn Wiliam yn awr yn Ddirprwy Gyfarwyddwr, Ceri Thomas yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol (Materion Cyhoeddus) a John Williams-Davies oedd Ceidwad Amgueddfa Werin Cymru a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Amgueddfeydd Hanes Diwydiannol a Chymdeithasol. Penodwyd Michael Tooby yn Geidwad AOC Caerdydd a Chyfarwyddwr Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Amgueddfa'r Celfyddydau a'r Gwyddorau a bydd yn ymuno â'r Amgueddfa ym mis Ionawr o'i swydd bresennol fel Curadur Oriel y Tate, St Ives. Penodwyd Swyddog Adeiladau ac Arolygwr Prosiectau newydd yn ystod y flwyddyn i reoli a monitro ein prosiectau cyfalaf yn fewnol, a gwnaed defnydd priodol hefyd o ymgynghorwyr allanol.

At hynny, cefnogir yr Uned Gyfarwyddo gan Grðp Cefnogi Busnes sy'n cynnwys Pennaeth Cyllid ac Archwilio; Pennaeth Gweinyddiaeth; Pennaeth Adnoddau Dynol a'r Cydlynydd Cynllunio newydd, a oedd yn benodiad mewnol. Sefydlwyd Uwch Fforwm Rheoli yn cynnwys uwch reolwyr a phenaethiaid adrannau o bob safle a disgyblaeth yn yr Amgueddfa.

Yn olaf, cytunwyd ar strwythur diwygiedig ar gyfer pwyllgorau ymgynghorol y Cyngor yn cynnwys tri phrif bwyllgor - Casgliadau ac Addysg, Materion Amgueddfa a Chyhoeddus a Chyllid a Dibenion Cyffredinol. Cefnogir y pwyllgorau hyn gan baneli arbenigol. Bydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn cyfarfod bob chwarter.

Dymunai'r Cyfarwyddwr ddefnyddio'r cyfle i ddiolch i'r staff, i aelodau o'r Cyngor ac i'r Swyddogion am y cymorth a'r arweiniad a roddwyd iddi yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y swydd ac roedd yn edrych ymlaen at barhad eu cefnogaeth yn y flwyddyn ddilynol.

Llongyfarchodd Mr J A Davies y Cyfarwyddwr ar y datblygiadau yn Amgueddfa Lan y Dðr Abertawe yn arbennig, ac yr oedd cynnal cyfarfod diwethaf Llys y Llywodraethwyr yng ngogledd Cymru wedi adfer bri AOCC fel sefydliad gwirioneddol genedlaethol.

Gofynnodd Dr Bowen am eglurhad ynglþn â sefydlu canolfan ymwelwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Lan y Dðr Abertawe a oedd wedi'i addo ar gyfer mis Mai 2000 a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr mai dyna oedd y nod o hyd.

Roedd y Cynghorydd Earle yn dymuno cael cadarnhad o ddyddiad cwblhau Amgueddfa Genedlaethol Lan y Dðr Abertawe, fod cytundeb ynglþn â'i chynnwys a bod cyllid terfynol ar gael. Ailadroddodd y Cyfarwyddwr mai caniatâd cynllunio amlinellol yn unig oedd yn cael ei geisio gan DSA ar hyn o bryd, ac y disgwylid cael penderfyniad yn ei gylch cyn mis Mehefin. O ran cyllid cadarnhaodd y Llywydd fod gwerthu Amgueddfa Ddiwydiant a Môr Cymru wedi dod â £4.5m i'r Amgueddfa ac y byddai nawdd pellach ar gyfer y datblygiad yn cael ei geisio gan ffynonellau yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chronfeydd Ewropeaidd. Cytunwyd ar amserlen â hwy ar gyfer cyflwyno ac ystyried cynigion. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig gwneud yr holl waith paratoi yn iawn i sicrhau y byddai'r prosiect yn dechrau ar dir cadarn. Mewn ymateb i gwestiwn gan Win Griffiths AS cadarnhawyd y gobeithid penodi ymgynghorwyr ar gyfer cam nesaf y gwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Dr Bowen cadarnhawyd fod Prydles 99 mlynedd ar safle Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi'i gytuno â Chyngor Gwynedd.

Nododd y Capten G Pari Huws ei fod yn dal yn bryderus nad oedd dim neu nemor ddim cofnod, ers cau'r Amgueddfa Ddiwydiant a Môr yng Nghaerdydd, o hanes diwydiannol a morol Caerdydd ei hun nac o'r rhan a chwaraeodd yn natblygiad Cymru, yn arbennig fel prifddinas. Teimlai y dylai naill ai AOCC neu Gyngor Caerdydd neu'r ddau ohonynt roi sylw i hyn ar frys. Cytunodd y Llywydd y byddai'r mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Cyngor yr Amgueddfa a chytunodd y Cynghorydd Earle o Gyngor Caerdydd ei fod yn haeddu cael ei ystyried gan Gyngor y Ddinas.

Penderfynwyd: Gweithredu felly.

337 - ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYFRIFON

Adroddwyd: Bod y Llywydd yn dymuno tynnu sylw arbennig at nifer o ddigwyddiadau a fu o fewn cyfnod yr adroddiad, yn arbennig:

Cyflwynodd y Trysorydd ei adroddiad ar Gyfrifon Blynyddol 1998/99. Roedd yr Archwiliwr Cyffredinol wedi tystio bod y Cyfrifon yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion yn AOCC ac wedi llofnodi'r Cyfrifon yn ddiamod. Dangosai'r Cyfrifon ddiffyg o £1.068m, yn bennaf yn sgil trosglwyddo £584,000 o Gronfeydd Preifat ar gyfer dathliadau Hanner Canmlwyddiant Amgueddfa Werin Cymru, datblygiadau Oriel Pyke Thompson a gwarantu arddangosfa'r Tywysogion fel Noddwyr. Roedd costau diswyddo'r cynllun ymddeoliad cynnar hefyd yn £647,000. Bu cynnydd o £6m mewn asedion diriaethol yn bennaf yn sgil prynu Nantgarw a'r gwelliannau yn Amgueddfa Lechi Cymru ac yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd (AOGC). Cadarnhawyd bod gweithdrefnau cydymffurfio â'r Flwyddyn 2000 wedi eu hadrodd yn rheolaidd i'r Pwyllgor Archwilio a'u bod mewn trefn. Fodd bynnag, adroddodd y Trysorydd fod y SAG wedi tynnu sylw at dorri gweithdrefnau wrth dalu swm o arian i gyn aelod o staff heb gymeradwyaeth ysgrifenedig y Swyddfa Gymreig. Roedd hyn yn gwneud y taliad yn afreolaidd er nad ystyriwyd ef yn arwyddocaol gan yr Archwiliwr Cyffredinol. Ceisiodd y Cynghorydd Earle sicrwydd gan y Trysorydd na fyddai toriad o'r fath yn digwydd eto. Cytunodd y Llywydd ar ran y Swyddogion â theimladau'r Cynghorydd Earle fod y digwyddiad anffodus hwn wedi amharu ar Adroddiad a ddylai fod yn ddathliad o weithgareddau'r Amgueddfa, ac ymddiheurodd am hynny. Pwysleisiodd fod y Cyfarwyddwr blaenorol yn credu bod ganddo awdurdod ar gyfer y taliad a'i fod wedi sicrhau'r Swyddogion a'r staff o hynny. Ni ddarganfuwyd y camgymeriad nes yr archwiliodd y SAG y Cyfrifon, lle roedd y taliad wedi'i gofnodi'n briodol, a hysbyswyd y Cyfarwyddwr presennol am y sefyllfa ddiwedd mis Gorffennaf. Nododd yr Archwiliwr Cyffredinol iddi weithredu ar unwaith ac yn briodol bryd hynny gan geisio ôl-gymeradwyaeth ar gyfer y taliad hwn (nas rhoddwyd). Sicrhaodd y Llywydd yr aelodau fod gweithdrefnau wedi eu hadolygu a bod gweithdrefnau newydd ar waith i gynghori'r Cyfarwyddwr yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a'r SAG yn fodlon â hwy. Nododd Mr Paul Loveluck, a oedd ei hun yn Swyddog Cyfrifon, fod yr amgylchiadau yn anarferol ond mai cymharol fychan oedd y gost gyffredinol a bod taliadau o'r fath yn faes anodd iawn i Swyddogion Cyfrifo. Gobeithiai'r Cynghorydd Phillips y gellid anghofio'r mater anffodus hwn. Cynigiodd y Cynghorydd Earle y dylai'r Cyfrifon gael eu derbyn, gyda'r sicrwydd a roddwyd eisoes.

Penderfynwyd: Cytunodd y Llys.

338 - DYDDIAD AC AMSER Y CYFARFOD NESAF:

Penderfynwyd: Cynnal cyfarfod nesaf Llys y Llywodraethwyr ar 28 Ebrill 2000 yng ngogledd Cymru.