Rydych chi yn:  >   >   > 

Cyfleusterau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau


WiFi

Mwynhewch gwpaned o goffi a crêpe tra'n syrffio'r we!

  • Ewch i'r brif dderbynfa a chwblhau Ffurflen Cyfrif Ymwelydd (bydd angen dogfennau adnabod dilys arnoch chi)
  • Byddwch chi'n derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair
  • Bydd pob cyfri'n ddilys am 30 diwrnod
  • Yn unol â'r amodau a’r telerau

Siop

Ewch ag atgof o hanes Cymru adref gyda chi wrth adael drwy ymweld â siop yr Amgueddfa. Mae rhywbeth at ddant pawb yno, o gardiau cyfarch a llyfrau i emwaith Aur Clogau a chatwadau Cymreig, a’r cyfan am brisiau rhesymol. Link to online shop.

Hefyd gwelwch Siop ar-lein Amgueddfa Cymru.

Partïon Plant

Nawr gallwch chi ddathlu pen-blwydd eich plentyn yn yr Amgueddfa. Pecynnau parti yn cynnwys:

  • Defnydd o ystafell barti breifat
  • Teithiau amgueddfa llawn hwyl
  • Taflenni gweithgaredd
  • Dewis o weithdai ymarferol

Dewisiadau ychwanegol yn cynnwys bwyd parti blasus a bagiau anrheg gyda phrisiau o £5-10pp. Mae'r partïon yn berffaith ar gyfer oedrannau 5+, mae pob cyfnod yn 2.5 awr o hyd ac mae digon o le i 30 gwestai. Ar gael yn ystod y penwythnos heblaw am wyliau ysgol.

Pobl Anabl

Gweld y Canllaw Mynediad

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.