Cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2007 yn Oriel 20, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

PRESENNOL

Paul E Loveluck, Llywydd (Cadeirydd); Susan Davies, Is-lywydd; G Wyn Howells, Trysorydd; Peter Morgan, Trysorydd Cysgodol; Iolo ap Gwynn; Brian Willott ; Colin Jones; Gareth Williams; Rhiannon Wyn Hughes; John Last; Huw Williams; Wynford Evans; Dafydd Bowen Lewis; Mike Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol; Eurwyn Wiliam, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol; Mark Richards, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol; John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Amgueddfa; Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni; Jon Sheppard, Cyfarwyddwr Cyllid a TG; Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu; Judith Ingram, Pennaeth Polisi a Chynllunio a Tony Lloyd, Pennaeth Gweinyddiaeth.

YMDDIHEURIADAU:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Elisabeth Elias.

412 – PRYNIADAU’R CANMLWYDDIANT:

Adroddwyd: O ganlyniad i broblemau prisio, dim ond dau ddarn o waith Picasso a welwyd gan yr Ymddiriedolwyr oedd yn bosibl i’w prynu gydag arian Cronfa’r Canmlwyddiant, a sefydlwyd gydag Ymddiriedolaeth Derek Williams. Gan nad oedd Picasso yn gwerthu darnau ceramig unigryw yn ystod ei oes, ychydig o ddarnau oedd ar gael i’w prynu, ond serch hynny, mae’r nod o sicrhau grŵp o’r nwyddau hyn yn parhau. Roedd y Llywydd wedi derbyn gohebiaeth gan Mathew Prichard a oedd yn mynegi siom mai dim ond dau ddarn a brynwyd. Roedd ef dan yr argraff mai’r penderfyniad oedd naill ai prynu’r holl ddarnau neu beidio â phrynu’r un ohonynt. Roedd Ymddiriedolwyr eraill yn teimlo bod angen ystyried gwaith ceramig gan artistiaid cyfoes o Gymru. Yn ogystal, roedd angen hysbysu’r Llywodraeth nad oedd yn bosibl prynu digon o eitemau o’r fath oherwydd cyfyngiadau cyllido, a chytunwyd y dylid cynnwys hyn ar agenda'r cyfarfod nesaf rhwng y Llywydd a’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg. Yn amodol ar safbwyntiau Ymddiriedolaeth Derek Williams a chyngor y Panel Celfyddydau, cytunwyd y dylid defnyddio’r cyllid sy’n weddill i ychwanegu at y casgliad o waith ceramig fel y nodir uchod. Yn y cyfamser, byddai’r posibilrwydd o brynu rhagor o waith ceramig Picasso yn cael ei ystyried.

413 – LLYWODRAETHU:

i) Trefniadau Nawdd y Cynulliad

Derbyniwyd: Adroddiad y Cyfarwyddwr Datblygu Strategol

Adroddwyd: Roedd yr Amgueddfa wedi’i hysbysu y byddai trefniadau newydd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu mai CyMAL, Adran y Cynulliad yn Aberystwyth, fyddai’n gyfrifol am noddi’r Amgueddfa, gyda’r Is-adran Noddi bresennol yn cael ei dirwyn i ben. Gwnaed y cyhoeddiad hwn cyn cadarnhau portffolios y gweinidogion a heb unrhyw ymgynghori. Gallai hyn arwain at wrthdaro buddiannau posibl gan fod yr Is-lywydd a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn aelodau o Fwrdd Cynghori CyMAL. Roedd yna wrthdaro o safbwynt y llythyr cylch gwaith hefyd gan ei fod yn nodi bod angen i’r Amgueddfa weithio mewn partneriaeth â CyMAL. Nodwyd bod CyMAL wedi’i sefydlu i gynghori’r Gweinidog, sianelu cymorth grant a darparu cymorth arbenigol i amgueddfeydd lleol. Nid oedd gan CyMAL unrhyw arbenigedd ym maes cyllido craidd (ni ragwelwyd y byddai hyn yn rhan o’i gylch gwaith) ac nid oedd ei swyddogaeth o gynghori amgueddfeydd lleol yn cyd-fynd â’i swyddogaeth o gynghori amgueddfa genedlaethol. Gallai penderfyniadau polisi CyMAL amharu ar annibyniaeth yr Amgueddfa ac roedd angen i’r Amgueddfa sicrhau ei sefyllfa hyd braich. Mynegwyd pryder ynghylch gallu CyMAL, yn enwedig o safbwynt ymdrin â chronfeydd pensiwn a chyllidebau mawr yr Amgueddfa. Teimlwyd bod yna gyfle i newid pwyslais y berthynas gyda’r Is-adran Noddi ac y dylai hynny fod ar lefel uwch o lawer yn y dyfodol.

Penderfynwyd: Byddai’r Llywydd yn siarad ar y ffôn gyda’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg a byddwn yn defnyddio’r broses i gael diffiniad ffurfiol o’r egwyddor hyd braich os yn bosibl.

ii) Penodiadau – Roedd y Gweinidog bellach wedi cymeradwyo’r broses benodi ar gyfer llefydd gwag ar y Bwrdd a byddai hysbysebion yn ymddangos yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Mehefin, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Medi.

Roedd Mr Wynford Evans wedi hysbysu’r Llywydd ei fod am ddod â’i gyfnod fel Ymddiriedolwr i ben ar ddiwedd y cyfarfod Bwrdd hwn, ac roedd y Llywydd wedi diolch iddo am ei gyfraniad at waith y Bwrdd. Ar ran y Bwrdd, dymunodd y Llywydd yn dda i Wynford a Mrs Evans ar gyfer y dyfodol.

Cymeradwyodd y Bwrdd y byddai Mr Gareth Williams yn disodli Mr Dafydd Bowen Lewis fel Cadeirydd y Cwmni Mentrau o 1 Tachwedd.

Cymeradwyodd y Bwrdd benodiad Peter Morgan a Gareth Williams i Fwrdd Cwmni Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe Cyfyngedig yn lle Mathew Prichard a Wyn Howells.

414 – DYDDIADAU CYFARFODYDD:

Adroddwyd: Roedd y Bwrdd wedi’i hysbysu o’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd 2008 a 2009, a nodwyd bod diwrnod hyfforddi 2008 yn cael ei symud i ddyddiad cynharach, sef 6 Mawrth.

Agorwyd y cyfarfod i’r cyhoedd ar yr adeg hon ond nid oedd neb o’r cyhoedd yn bresennol.

Ymunodd Ann John â’r cyfarfod.

415 – AMGUEDDFA RITHWIR:

Adroddwyd: Roedd yr Ymddiriedolwyr wedi derbyn cyflwyniad gan Graham Davies, Curadur yr Amgueddfa Rithwir a Chris Owen, Rheolwr y We a Datblygwr Creadigol yr Amgueddfa Rithwir. Yn sgil y cyflwyniad, cafodd yr Ymddiriedolwyr wybod am yr hyn oedd wedi’i gyflawni wrth baratoi gwefan yr Amgueddfa Rithwir ynghyd â rhagflas o’r dyfodol. Dyma’r gwaith ailwampio mwyaf o safbwynt gwybodaeth yr Amgueddfa ar y we ers i’r gwasanaeth gychwyn. Roedd y gwaith wedi cynnwys defnyddwyr ac wedi dod yn rhan o fframwaith newydd a oedd yn canolbwyntio ar gasgliadau ac ymchwil. Byddai sawl ffordd o ddenu pobl at y wefan, gan gynnwys nodau tudalen ar wefannau eraill. Pwysleisiwyd mai cam cyntaf mewn proses dri cham oedd hwn a fyddai’n arwain at greu canolfan ddata yn ymwneud â chasgliadau a storfa wybodaeth integredig. Ar ôl hynny gwelodd yr Ymddiriedolwyr enghreifftiau o’r adnoddau sydd eisoes ar y wefan a sut bydden nhw’n apelio at gynulleidfaoedd. Teimlodd Iolo ap Gwynn fod hwn yn gam mawr ymlaen gan fod yr Amgueddfa wedi mynd at graidd y broblem ac wedi creu system sylweddol gyda’r strwythur i newid ac esblygu. Y nod oedd sicrhau bod yr Amgueddfa Rithwir yn mynd yn fyw tua diwedd mis Awst/dechrau mis Medi. Trafodwyd enw newydd ar gyfer y wefan yn sgil y ffaith fod llawer o enwau addas eraill eisoes yn cael eu defnyddio. Cytunwyd bod yr enw ‘Rhagor: e-amgueddfa cymru/e-museum wales’ yn gryno a chlir ac y byddai’n addas ar gyfer cyfleoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Gadawodd Susan Davies y cyfarfod ar yr adeg hon.

416 – COFNODION:

Penderfynwyd: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2007.

417 – MATERION YN CODI:

  1. Nodwyd bod y llun gan Rembrandt yn ôl yn y DU ac nad yw ar werth bellach. Byddai’r Amgueddfa yn cyflwyno cais newydd i fenthyg y llun ac unwaith yn rhagor pwysleisiodd yr Ymddiriedolwyr yr angen i’r Gweinidog gael gwybod am y cyfyngiadau cyllido sydd ar yr Amgueddfa a’i hanallu i brynu gweithiau celf pwysig o’r fath.

    Arddangos Celf - Roedd y Grŵp Llywio (Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru) wedi gofyn i’r Amgueddfa arwain ar y broses gaffael ar gyfer ymgynghori, i’w chomisiynu gan yr Amgueddfa ar ran y Grŵp. Roedd y Grŵp wedi cymeradwyo’r dogfennau tendro a oedd yn nodi dyddiad cau yng nghanol mis Gorffennaf. Roedd grant ychwanegol o £150,000 wedi’i ddyfarnu i oruchwylio’r broses. Teimlodd y Llywydd fod angen diogelu sefyllfa gyhoeddus yr Amgueddfa.

  2. Cynllun Pensiwn

    Datganiadau o Ddiddordeb – Colin Jones, Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn, Paul Loveluck ac Eurwyn Wiliam fel Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn a phob aelod arall o staff oedd yn bresennol

    Ar sail cyfradd bresennol y cyfraniadau, byddai’r diffyg yn cael ei glirio ymhen ugain mlynedd, ac roedd hyn wedi’i danategu gan Warant y Goron. Roedd yr Actiwari wedi ysgrifennu at y Rheoleiddiwr ac roedd eu rheolwr achos wedi nodi ei bod yn debygol y byddai’r Rheoleiddiwr yn ymateb yn ffafriol i achos yr Amgueddfa. Yng nghyfarfod Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn ar 18 Mehefin, cytunwyd ar gyfraniad yr Amgueddfa a’r cyfnod ugain mlynedd i glirio’r diffyg, a byddai’r Rheoleiddiwr yn cael ei hysbysu o hyn. Nododd Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn fod yr Ymddiriedolwyr yn hapus gyda hynny. Yn ogystal, nododd fod Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn wedi penodi BBS fel eu hymgynghorwyr newydd yn lle Mercers, hynny yn dilyn tendr cystadleuol.

  3. Taith Casgliad y Chwiorydd Davies

    Adroddwyd: Byddai 58 darn o waith ar daith gyda’r cyfle i weld 50-53 ym mhob lleoliad. Byddai hon yn arddangosfa fawreddog a nodedig, ond byddai digon o ddarnau o waith ar ôl i’w harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Byddai’r darnau o gelf ar daith am tua 18 mis ac roedd Oriel Corcoran yn Washington DC wedi cytuno i dderbyn yr arddangosfa ac Amgueddfa Albuquerque wedi cytuno i arddangos y gwaith er mwyn cwblhau’r amserlen. Dyma daith yr arddangosfa:

      Amgueddfa Gelf Columbia – 5 Mawrth – 5 Mehefin
    • Amgueddfa Gelf Oklahoma City – 25 Mehefin – 17 Medi
    • Amgueddfa Gelf Everson – 1 Hydref – 27 Rhagfyr
    • Oriel Gelf Corcoran – 23 Ionawr – 25 Ebrill
    • Amgueddfa Albuquerque – 9 Mai – 1 Awst

    Roedd cyfarfod eisoes wedi’i drefnu gyda changen ryngwladol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd yn ystyried y daith hon yn un gyffrous, a chytunodd y Llywydd y byddai’n hysbysu’r Gweinidog.

    Penderfynwyd: Cyflwyno adroddiad pellach i’r Bwrdd ddechrau’r hydref.

  4. Ysbyty Chwarel Dinorwig – Yn y cyfarfod diwethaf cymeradwyodd y Bwrdd y broses o gynnwys Ysbyty Chwarel Dinorwig o dan faner Amgueddfa Cymru ar yr amod mai Gwynedd fyddai’n gyfrifol am y costau gweithredu ac y byddai ffi rheoli yn cael ei dalu i’r Amgueddfa. Mewn cyfarfod gweithgor diweddar roedd Gwynedd wedi dangos parodrwydd i ddod i ddealltwriaeth ariannol, a byddai’r Gyfarwyddiaeth yn awr yn trafod hyn. Yn y cyfamser, nodwyd nad oedd cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri Gwynedd yn mynd rhagddo mor gyflym â’r disgwyl, ond roedd y ddau dîm curadurol yn cynnal trafodaethau. Roedd yr Ymddiriedolwyr yn credu bod angen i’r gost flynyddol gynnwys codiadau i sicrhau cyllid yn y dyfodol.

  5. Ymweliad Brenhinol - Derbyniodd yr Ymddiriedolwyr adroddiad ar yr Ymweliad Brenhinol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin yn nodi holl westeion pwysig Llywodraeth y Cynulliad a fu ar ymweliad â’r Amgueddfa. Roedd y seremoni arddodiad dwylo ffurfiol ar gyfer Prif Weinidog Cymru wedi’i chynnal yn yr Amgueddfa, a chredir mai dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd y tu allan i Balas Buckingham. Yn ogystal, cyfeiriodd yr adroddiad at ymweliad Tywysog Cymru â Sain Ffagan ac roedd y Llywydd wedi cael ymateb gan y Tywysog yn nodi iddo fwynhau’r ymweliad a’r defnydd o sgiliau traddodiadol roedd wedi’i weld. Byddai’r digwyddiad bellach yn cael ei ddefnyddio fel sail i ddatblygu perthynas gyda’r rhai a fynychodd a chyda’r Teulu Brenhinol, yn enwedig Tywysog William fel darpar Dywysog Cymru. Mynegodd yr Ymddiriedolwyr eu diolch i bawb a fu’n ymwneud â’r ymweliad, gan nodi y dylid llunio papur briffio yn dangos datblygiadau’r tair blynedd diwethaf er mwyn helpu i ddatblygu perthynas ag Aelodau’r Cynulliad.

    vii) Oriel Sutherland - Bu’r prosiect yn datblygu’n gyflym yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd cynlluniau terfynol wedi’u cymeradwyo, cwmni lleol wedi’i benodi fel y contractwr a gwaith wedi cychwyn ar y safle ym mis Ebrill. Bu’r Curadur Comisiynu yn datblygu syniadau ar gyfer cynnwys a dehongli ac roedd y ddau sefydliad bellach yn cyfarfod yn ffurfiol bob pythefnos i fonitro’r cynnydd. Cadarnhawyd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd adeg agor y safle.

  6. Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Zimbabwe – Yn sgil y gefnogaeth mewn egwyddor i’r Ymddiriedolwyr lofnodi’r Memorandwm Dealltwriaeth, mae Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Zimbabwe wedi trefnu gweithdy ar gyfer tîm prosiect yr Amgueddfa yng nghanol mis Gorffennaf. Byddai Peter Walker, Ceidwad y Pwll Mawr, yn mynychu. Fel gweithiwr cyflogedig yr Amgueddfa, byddai modd iddo gymryd rhan yn yr holl weithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith, ac roedd yr Is-adran Noddi wedi’i hysbysu o’r ymweliad. Yn ogystal, roedd yswiriant teithio masnachol yn cael ei brynu ar gyfer eitemau ychwanegol fel cael ambiwlans awyr i’ch cludo am reswm meddygol yn unol ag argymhelliad yr FCO. Cyn belled â bod y sefyllfa ddiogelwch yn dderbyniol ar adeg gadael, byddai’r ymweliad yn mynd rhagddo.

418 – CRYNODEB GWEITHREDOL:

Derbyniwyd a Nodwyd: Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Adroddwyd: Tynnodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol sylw’r Bwrdd at rai o bwyntiau ei adroddiad cynhwysfawr.

Roedd y gwaith o baratoi’r cyfrifon diwedd blwyddyn statudol yn parhau a byddai fersiwn terfynol Cyfrifon yr Amgueddfa yn cael ei ddosbarthu i’r Ymddiriedolwyr cyn y llofnodi arfaethedig ar 26 Gorffennaf.

Nid oedd unrhyw faterion yn codi yn sgil yr archwiliad interim o Gyfrifon yr Amgueddfa, a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yr archwiliad terfynol bellach yn cael ei gynnal. Eleni, roedd gwaith yswiriant ychwanegol Swyddfa Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar gynnydd o fewn fframwaith yr agenda “Creu’r Cysylltiadau” ac roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal gweithdy gyda Chyfarwyddiaeth yr Amgueddfa ar 15 Mai. Yn ei gyfarfod diwethaf, roedd y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn nifer o adroddiadau archwilio mewnol, gyda phob un yn nodi lefelau sicrwydd cadarnhaol. Nid oedd yr un o’r adroddiadau wedi nodi unrhyw argymhellion sylfaenol.

Roedd y Grŵp Rheoli Risgiau wedi trafod nifer o eitemau yn ei gyfarfod diwethaf, gan gynnwys enghreifftiau difrifol posibl o amharu ar ddiogelwch a bygythiadau gan derfysgwyr.

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd roedd y prif gontract yn dangos oedi o hyd at saith wythnos ar hyn o bryd ac roedd yr Amgueddfa yn lliniaru ei sefyllfa hawlio. Bu oedi i’r gwaith ar yr Ardd Rufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru oherwydd anawsterau cynllunio yn ymwneud â thorri tair coeden ar y safle. Fodd bynnag, yn fwy cadarnhaol, roedd gwaith wedi cychwyn ar yr ardal ddysgu newydd yn y Pwll Mawr, a byddai’n cael ei chwblhau erbyn diwedd mis Awst. O ran dysgu a mynediad, roedd cyfres o lansiadau cymunedol wedi’u trefnu yn Oriel 1, a oedd yn prysur ddod yn lwyfan i ymgysylltu â nifer o gynulleidfaoedd newydd.

Roedd y Panel Cynghori Allanol ar gyfer Archeoleg a Hanes Cymdeithasol wedi cyfarfod ag aelodau o’r adrannau archeoleg, hanes cymdeithasol a dysgu, gan drafod nifer o themâu oedd yn dod i’r amlwg, gan gynnwys mwy o ryngweithio ar gyfer yr adeiladau yn Sain Ffagan. Roedd gwaith wedi cychwyn ar y Ganolfan Casgliadau Domestig a siop Atcost yn Sain Ffagan, gyda chontractwr yn barod i ddodrefnu’r lle ar ôl i’r adeilad gael ei godi. Roedd Antony D’Offay yn dosbarthu ei gasgliad ac roedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi cyfarfod ag ef i drafod y posibilrwydd y gallai rhan o’r casgliad ddod i Gymru.

Roedd cyfanswm yr ymweliadau yn ystod 2006/07 dros 1.5m. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol y newyddion diweddaraf am bartneriaethau a chydweithio allanol, gan nodi cyfraniad Cymru at y prosiect gefeillio gydag Amgueddfa State Valley Granville. I nodi hyn, roedd digwyddiad cysylltiadau cyhoeddus gyda chynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau wedi’i gynnal yn Amgueddfa Lechi Cymru. Roedd rhestr derfynol o bobl enwog i hyrwyddo bob un o’r un ar bymtheg o eitemau ar gyfer y gyfres deledu National Treasures hefyd wedi’i chadarnhau.

Roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Gwerthuso wedi’i sefydlu ac roedd yr Ymddiriedolwyr am dderbyn adroddiadau rheolaidd gan y Grŵp hwn. Amlinellwyd cynlluniau i sefydlu cyfarfodydd grŵp gweithredol i ddisodli cyfarfodydd Cyfarwyddiaeth. Byddai’r rhain yn cynnwys mwy o aelodau, gan gynnwys amrywiaeth o uwch-reolwyr a rheolwyr canol a fyddai’n cyfrannu llawer mwy at wneud penderfyniadau. Gofynnodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr am adroddiad ar hyn ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Ar ôl i Siop Gwalia orfod cau oherwydd methdaliad y gweithredwr, llwyddwyd i ddod o hyd i weithredwyr newydd, ac roedd disgwyl iddyn nhw gychwyn erbyn 1 Gorffennaf. Penderfynwyd: Yn unol â hynny, a diolchodd yr Ymddiriedolwyr i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol am ei adroddiad cynhwysfawr. Byddai aelodau’r Gyfarwyddiaeth bellach yn defnyddio’r Crynodeb Gweithredol bob tro i friffio’r holl staff.

419 – CYNLLUN YMGYNGHORI A CHYNLLUN GWEITHREDU PERCHNOGAETH:

Derbyniwyd: Cynllun Ymgynghori a Chynllun Gweithredu Perchnogaeth drafft gan y Pennaeth Polisi a Chynllunio.

Adroddwyd: Yn dilyn ygwaith o adolygu’r Siarter Frenhinol a dileu’r Llys y llynedd, cam rhesymegol oedd creu Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol a datblygu mecanweithiau a phrosesau ymgynghori’r Amgueddfa ymhellach. Roedd angen dyfeisio a gweithredu cynllun ymgynghori cost-effeithiol a fyddai’n adlewyrchu’r ffaith fod casgliadau’n cael eu cadw ar ran y cyhoedd, sef y perchnogion go iawn, ac er mwyn annog rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn amrywiaeth o fecanweithiau ymgynghori. Mae’r cynllun ymgynghori a’r cynllun perchnogaeth yn pennu’r gwerthoedd, yr egwyddorion a’r technegau cyfranogi allweddol a fyddai’n galluogi’r Amgueddfa i “roi’r flaenoriaeth i ddinasyddion”. Byddai’r cynllun yn cael ei gyfeirio at yr Undebau fel rhan o’r broses ymgynghori. Croesawodd yr Ymddiriedolwyr y cynllun hwn, gan nodi bod angen iddo gyfeirio at ofynion y Siarter. Dylai’r cynllun nodi sut oedd yr Amgueddfa yn ymgynghori ag awdurdodau lleol a pha fecanweithiau oedd yn bodoli i ystyried safbwyntiau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ogystal, roedd angen iddo nodi sut oedd yn ymdrin â phroblemau a chyfleoedd daearyddol. Penderfynwyd: Bod angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Ymddiriedolwyr.

420 – CASGLIADAU A GWEITHGAREDDAU YMCHWIL:

Derbyniwyd a Nodwyd: Adroddiad Casgliadau a Gweithgareddau Ymchwil ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2007 gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Adroddwyd: Ers cyhoeddi’r adroddiad hwn roedd dau gyhoeddiad newydd pwysig wedi ymddangos yn ymdrin â chasgliadau’r Amgueddfa yn unig neu’n bennaf, sef “Llyn Cerrig Bach, A Study of the Copper Alloy Artefacts” a “Welsh Furniture 1250 – 1950”.

421 – POLISI CAFFAEL A GWAREDU:

Derbyniwyd: Adroddiad gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Adroddwyd: Roedd yr Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau (MLA) yn achredu pob amgueddfa yn y DU ar hyn o bryd. Roedd yr MLA yn mynnu bod angen dilyn ffurf arbennig ar gyfer y polisi caffael a gwaredu. Roedd newid i’r polisi cyfredol wedi’i gytuno, yn unol â gofynion yr MLA.

Penderfynwyd: Yn amodol ar y newidiadau golygyddol terfynol, dylid cymeradwyo’r Polisi.

422 – RHAGLEN FEISTR Y CANMLWYDDIANT:

Derbyniwyd a Nodwyd: Rhaglen Feistr y Canmlwyddiant 2007 wedi’i diweddaru ar 12 Mehefin 2007.

423 – DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006:

Derbyniwyd: Copi o lythyr gan Is-adran Noddi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymwneud â goblygiadau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, ynghyd ag adroddiad y Cyfarwyddwr Datblygu Strategol. Adroddwyd: O safbwynt yr effaith ar gyrff y Siarter Frenhinol, roedd hi’n bosibl y byddai angen diwygio’r Siarter oedd newydd ei chymeradwyo ymhellach. Roedd yr Uned Materion Cyfansoddiadol a Rheoli Deddfwriaeth wrthi’n ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn.

Penderfynwyd: Yn unol â hynny.

424 – LLYWODRAETHU:

i) Trefniadau Nawdd y Cynulliad

Adroddwyd: Roedd yr Amgueddfa wedi’i hysbysu y byddai trefniadau newydd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu mai CyMAL fyddai’n gyfrifol am faes noddi’r Amgueddfa yn y dyfodol. Roedd y Gweinidog bellach wedi cymeradwyo’r broses benodi ar gyfer y llefydd gwag ar y Bwrdd a byddai hysbysebion yn ymddangos yn ystod yr wythnos yn dechrau 25 Mehefin, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 10 Medi.

Roedd Mr Wynford Evans wedi hysbysu’r Llywydd ei fod am ddod â’i gyfnod fel Ymddiriedolwr i ben ar ddiwedd y cyfarfod hwn o’r Bwrdd, ac roedd y Llywydd wedi diolch iddo am ei gyfraniad at waith y Bwrdd. Ar ran y Bwrdd, dymunodd y Llywydd yn dda i Wynford a Mrs Evans ar gyfer y dyfodol.

Cymeradwyodd y Bwrdd enw Mr Gareth Williams i ddisodli Mr Dafydd Bowen Lewis fel Cadeirydd y Cwmni Mentrau o 1 Tachwedd.

Cymeradwyodd y Bwrdd benodiad Peter Morgan a Gareth Williams i Fwrdd Cwmni Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe Cyfyngedig yn lle Mathew Prichard a Wyn Howells.

425 – RHEOLI YNNI:

Derbyniwyd: Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Datblygu Strategol

Adroddwyd: Roedd yr Ymddiriedolwyr wedi’u hysbysu am y camau roedd yr Amgueddfa wedi’u cymryd i reoli’r mater uniongyrchol a hirdymor o’r cynnydd mewn costau ynni tra hefyd yn paratoi ar gyfer newidiadau i’r gyfraith ac yn rhoi sylw i gyfrifoldebau’r Amgueddfa o fewn yr agenda gynaliadwyedd. Roedd rheoli costau’n parhau i fod yn elfen allweddol o’r broses gyllidebu, ond oherwydd cynnydd mewn costau gwasanaethau, byddai’r Amgueddfa yn datblygu dull gweithredu mwy rhagweithiol i leihau ei defnydd o ynni. Byddai’r Fforwm a’r Gyfarwyddiaeth Datblygu Cynaliadwy yn parhau i fonitro perfformiad yr Amgueddfa yn hyn o beth. Byddai’r Amgueddfa’n cymryd rhan mewn trafodaeth genedlaethol, gan adrodd yn ôl i’r Ymddiriedolwyr ar brif themâu’r drafodaeth a’r materion oedd yn berthnasol i’r Amgueddfa. Penderfynwyd: Yn unol â hynny.

426 – TYNNU O GASGLIADAU:

Penderfynwyd: Bod yr eitemau canlynol yn cael eu tynnu o’r casgliadau:

  1. Bws Deulawr AEC Regent Mark 5 (Rhif Derbyn 84.331)
  2. Peiriant Tonnau (Rhif Derbyn 1994.190)

427 – MATERION PWYLLGOR:

Derbyniwyd a Nodwyd

  1. Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Mai 2007 a

  2. Chofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Mai 2007 ynghyd ag Adroddiad y Cadeirydd. Nodwyd (Cofnod 406) y gymeradwyaeth i ddileu gwerth dros £23,000 o stoc, yn cynnwys hen gardiau post, cyhoeddiadau, posteri ac ati. Roedd y Cynulliad bellach wedi cymeradwyo dileu’r eitemau hyn. Roedd gwerth £20,000 o’r stoc hwn wedi’i drosglwyddo i’r cwmni masnachu drwy fenthyciad a chytunodd yr Ymddiriedolwyr y dylid lleihau’r benthyciad yn unol â hynny. Nododd y Cadeirydd hefyd fod Adroddiad Blynyddol yr archwilwyr mewnol wedi cadarnhau bod gan yr Amgueddfa weithdrefnau digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli risgiau a gweithdrefnau llywodraethu ar bob safle. Gall y Swyddfa Gyfrifyddu nodi’r farn hon yn ei datganiad rheolaeth fewnol blynyddol.

428 – EITEMAU AR GYFER CYFARFODYDD Y DYFODOL:

Derbyniwyd a Chytunwyd: Yr Eitemau ar gyfer Cyfarfodydd y Dyfodol. Byddai’r rhain yn cael eu diweddaru i gynnwys adroddiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod heddiw.

429 – UNRHYW FATER ARALL:

i) Indemniad ar gyfer y Cwmni Mentrau – Roedd y Llywodraeth wedi nodi na fyddai aelod unigol o’r Bwrdd a oedd yn gweithredu mewn ffordd onest a didwyll yn gyfrifol am ddefnyddio’i adnoddau personol ei hun i wneud iawn unrhyw atebolrwydd personol a oedd yn deillio o’i weithrediadau neu ei weithrediadau honedig yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o’r bwrdd, oni bai bod yr unigolyn wedi ymddwyn yn anghyfrifol. Roedd yr Is-adran Noddi wedi cytuno y gallai’r Amgueddfa gyhoeddi indemniad o’r fath ar gyfer Cyfarwyddwyr anweithredol (gan gynnwys staff) y Cwmni Mentrau.

Cytunwyd: Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyhoeddi’r indemniad hwn.

430 – DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF:

Penderfynwyd: Cynhelir cyfarfod nesaf Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar 20 Medi 2007 yn y Ganolfan Casgliadau, Nantgarw. Cynhelir cinio ar 19 Medi 2007 yn Ystafell y Llys, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i nodi ymddeoliadau’r rhai y mae eu cyfnod fel Ymddiriedolwyr yn dod i ben.

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.