Eglwys Sant Teilo

Pwy oedd Teilo?

Ganed Teilo yn Sir Benfro tua 480OC. Roedd yn un o ‘Seintiau Cymru’ oedd yn byw yr un adeg â Phadarn a Dewi.

Teilo Sant, gan Emyr Hughes
Dyma gerflun newydd o Teilo, a gerfiwyd i ni gan Mr Emyr Hughes. Fe'i seiliwyd ar gerflun Llydewig o'r sant

Mae anturiaethau Teilo wedi'u cerfio ar ddarn o dderw Gymreig pum metr o hyd yn yr amgueddfa. Bu'r Prif Saer wrthi am dri mis yn ei gynllunio a'i gerfio. Cafodd ei euro'n ofalus wedyn gyda dalenni aur ac arian.

Cliciwch yma i weld y cerfiad a darllen stori Teilo.

Roedd Teilo'n sant poblogaidd iawn - ac erbyn yr oesoedd canol, roedd dros ddeg ar hugain o eglwysi a phentrefi ledled Cymru a Llydaw wedi cymryd ei enw.

Symudwyd Eglwys Sant Teilo i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o Landeilo Tal-y-bont; ar gyrion Pontarddulais, ger Abertawe. Mae addolwyr o Bontarddulais yn dal i ddod i'r Eglwys bob mis Chwefror i ddathlu dydd Sant Teilo.

Ni allwn fod yn sicr a fu Teilo ei hun yn yr eglwys erioed. Mae tystiolaeth bod Cristnogion wedi bod yn addoli ar y safle ymhell cyn adeiladu'r eglwys bresennol.

Darganfuwyd carreg gerfiedig pan aethom ati i symud yr eglwys – roedd wedi'i chuddio y tu mewn i un o'r muriau. Mae arbenigwyr yn dweud bod y cerfiad – croes ar darian – yn perthyn i'r 7fed-9fed ganrif O.C. Fe'i gelwir yn ‘Carreg Gavin’, ar ôl y saer maen a’i ffeindiodd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.