Amgueddfa Cymru

Polisïau Rheolaeth Casgliadau - Polisi ar Weddillion Dynol

ADOLGWYD MIS HYDREF 2006
ADOLGWYD MIS HYDREF 2010

1. CYFLWYNIAD

Mae casgliadau Amgueddfa Cymru (yr ‘Amgueddfa’) yn cynnwys rhai gweddillion dynol. Rydym yn cydnabod y bu gweddillion dynol ar un adeg yn rhan o bobl fyw. Yn unol â hynny, byddwn yn gofalu amdanynt mewn ffordd sy’n eu parchu o ran eu diwylliant gan eu rhyddhau ar yr un pryd at ddibenion ymchwil ac addysg lle bo hynny’n briodol. Wrth gadw gweddillion dynol sy’n llai na chan mlwydd oed, byddwn yn gweithredu yn unol â gofynion Deddf Meinweoedd Dynol 2004 a chyfarwyddyd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Byddwn yn cadw at yr amodau a bennir mewn nodiadau cyfarwyddyd a gaiff eu cyhoeddi gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol a allai fod yn berthnasol i unrhyw gasgliad sydd ym meddiant yr Amgueddfa. Rydym yn cefnogi’r ddogfen Guidance for the Care of Human Remains in Museums a gyhoeddwyd gan yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn 2005.

2. GWEITHREDU’R POLISI

Ar ôl i’n Hymddiriedolwyr gymeradwyo’r Polisi, bydd Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yr Amgueddfa’n rheoli’r broses o’i weithredu ac yn ei fonitro. Bydd Ceidwaid y Gwasanaeth Casgliadau, Archeoleg a Niwmismateg, Bywyd Gwerin, Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol a Chelf oll yn gyfrifol am weithredu’r polisi mewn perthynas â’r casgliadau sydd yn eu gofal. Byddwn yn gofyn am gyngor annibynnol Pwyllgor Gweddillion Dynol yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon lle bo angen wrth ymateb i unrhyw geisiadau am ddychwelyd gweddillion dynol.

3. DIFFINIAD O WEDDILLION DYNOL

Rydym yn cydnabod y diffiniad o weddillion dynol a geir yng nghanllawiau’r DCMS ac wedi seilio ein diffiniad ein hunain ar y diffiniad hwnnw. Rydyn ni’n defnyddio’r term ‘gweddillion dynol’ i gyfeirio at gyrff, neu rannau o gyrff pobl fu unwaith yn fyw o’r rhywogaeth Homo sapien (a ddiffinnir fel unigolion sydd wedi’u cynnwys yn yr ystod o ffurfiau anatomegol sy’n hysbys heddiw ac yn y gorffennol diweddar) ac unrhyw ddynolion esblygol cynharach a allai fod yn rhannu hynafiad â bodau dynol heddiw (e.e. Homo neanderthalensis). Mae hyn yn cynnwys deunydd esgyrn (sgerbydau llawn neu ddarnau o sgerbydau, darnau o esgyrn neu ddannedd), meinweoedd meddal gan gynnwys organau a chroen, embryonau a pharatoadau sleid o feinweoedd dynol. Yn unol â Deddf Meinweoedd Dynol 2004, nid yw’r diffiniad yn cynnwys gwallt nac ewinedd. Gall gweddillion dynol gynnwys unrhyw un o’r uchod sydd wedi cael eu haddasu mewn rhyw ffordd â sgil trwy law dyn a/neu sydd wedi eu rhwymo â deunydd nad yw’n ddeunydd dynol i greu arteffact sy’n cynnwys sawl math o ddefnydd. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys gweithiau celf a wnaed gan ddefnyddio hylifau corff dynol a meinweoedd meddal.

4. DISGRIFIAD/RHESTR O’R PETHAU A GEDWIR

Yn ôl y gyfraith, ni allwn ni fod yn berchen ar weddillion dynol heblaw lle bo’r rhain wedi cael eu trin neu eu haddasu gan ddefnyddio sgiliau arbennig. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod y cyfrifoldebau moesegol a roddwyd i ni yn sgil perchnogaeth o weddillion o’r fath. Mae ymrwymiad arnom ni i drin unrhyw weddillion dynol mewn ffordd foesegol a chymdeithasol gyfrifol.

Rydyn ni’n cadw gweddillion dynol yn rhinwedd natur hanesyddol y casgliad sydd yn ein gofal. Rydyn ni’n credu mewn bod yn agored am gynnwys y casgliad ac am ryddhau gwybodaeth i unrhyw un sy’n holi. Rydyn ni wedi nodi bod olion dynol yn cael eu storio yn y meysydd casglu canlynol: Archeoleg, Celf, Swoleg, a Bywyd Gwerin.

Byddwn ni’n cyhoeddi manylion llawn y pethau a gedwir, cymaint â phosibl, mewn fformat y gellir ei argraffu, ar ein gwefan. Bydd hyn yn cynnwys y data canlynol:

  • Nifer y gweddillion: ar sail casgliad fel rheol, ond lle bo modd, fesul sgerbwd a/neu ddarn unigol o gorff.
  • Natur ffisegol: er enghraifft, os yw’n sgerbwd, paratoadau sleid ac ati, eu cyfanrwydd a’u cyflwr ffisegol.
  • Dyddiad: amcan o’r dyddiad neu’r cyfnod pan fu farw’r person.
  • Tarddiad: o ble ddaeth y gweddillion, gan gynnwys eu gwreiddiau diwylliannol os yw’n hysbys, ac unrhyw gyd-destun adfer neu hanes yn sgil hynny sy’n hysbys.
  • Statws o fewn y casgliad: a yw’r peth wedi ei dderbynodi’n llawn, os felly y rhif(au) derbynodi, neu a yw’r peth ar fenthyg gan sefydliad neu unigolyn arall, os felly, dyddiad, cyfnod a phwrpas y benthyciad.

Yn ogystal, byddwn ni’n cadw cofrestr ymchwil sydd ar gael i’r cyhoedd sy’n rhoi manylion unrhyw geisiadau sy’n gofyn am wneud gwaith ymchwil. Bydd y gofrestr yn rhestru:

  • Enw’r project
  • Amcanion y gwaith ymchwil
  • Methodoleg y gwaith ymchwil
  • Dyddiadau’r gwaith ymchwil
  • Canlyniadau’r ymchwil – cyhoeddiadau a data.

5. CAFFAEL GWEDDILLION DYNOL

Gallwn ni gaffael gweddillion dynol trwy ein gwaith ymchwil a’n projectau gwaith maes ein hunain. Mewn achosion o’r fath, ni fyddwn ni’n datgladdu gweddillion dynol heb gael trwydded gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol. Gwneir penderfyniad o ran a ddylid cadw’r rhain yn y casgliad yn barhaol ai peidio ar ôl ymgynghori’n llawn â’r cymunedau lleol a’r arbenigwyr priodol. Caiff unrhyw weddillion dynol eu caffael gan gyfeirio at Bolisi Caffael a Gwaredu’r Amgueddfa o ran y broses i’w dilyn.

6. ARDDANGOS

Lle bo gweddillion dynol yn rhan o arddangosfa, yn y tymor hir neu’r tymor byr, byddwn ni’n eu harddangos mewn ffordd sy’n briodol i’w diwylliant, yn sensitif ac yn addysgiadol, ac yn cynnwys dehongliad esboniadol ac o ran eu cyd-destun. Ni chaiff gweddillion dadleuol neu weddillion pobl y gellid eu hadnabod eu harddangos heb gyflawni proses briodol o ymgynghori â grwpiau diwylliannol perthnasol.

Yn achos unrhyw arddangosfeydd a gynigir sy’n cynnwys olion dynol, gan gynnwys y rhai sy’n benthyg darnau i mewn o’r tu allan, caiff cynnwys, dehongliad a marchnata’r arddangosfa eu trafod gan guradur yr arddangosfa ar y cyd â Cheidwad y Casgliad o dan sylw. Yn achos arddangos gweddillion dynol lle bo angen trwydded arddangos o dan delerau’r Ddeddf Meinweoedd Dynol, byddwn ni’n sicrhau trwydded cyn i’r gweddillion ddod i adeilad yr Amgueddfa. Bydd Curadur yr Arddangosfa’n gweithredu ar sail cyngor Ceidwad y casgliad o dan sylw, yr ‘Unigolyn Dynodedig’ (Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil) a Deiliaid y Drwydded a benodir wrth wneud cais am y drwydded.

7. BENTHYG EITEMAU I MEWN

Caiff eitemau sy’n cael eu benthyg i mewn i’w harddangos eu gweinyddu yn unol ag adran 6 uchod. Bydd angen gofyn am gymeradwyaeth Ceidwad y Casgliad o dan sylw yn achos benthyciadau i mewn at ddibenion ymchwil. Yn achos arddangos gweddillion dynol lle bo angen trwydded arddangos o dan delerau’r Ddeddf Meinweoedd Dynol, byddwn ni’n sicrhau trwydded cyn i’r gweddillion ddod i adeilad yr Amgueddfa. Wedyn bydd yr ymchwiliwr yn gweithredu ar sail cyngor Ceidwad y casgliad o dan sylw, yr ‘Unigolyn Dynodedig’ (Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil) a Deiliaid y Drwydded a benodir wrth wneud cais am y drwydded. Caiff amodau Polisi’r Amgueddfa ar Fenthyciadau eu gweithredu hefyd.

8. BENTHYG EITEMAU ALLAN

Bydd unrhyw geisiadau am fenthyg gweddillion dynol yn amodol ar y telerau a nodir ym Mholisi Benthyg yr Amgueddfa.

9. STORIO

Ein nod yw creu storfa arbennig ar gyfer gweddillion dynol lle caiff yr holl weddillion dynol eu gosod ar ôl eu tynnu o’u lleoliadau cymysg presennol. Lle bo modd, caiff esgyrn eu gosod mewn bagiau ar wahân a’u labelu. Caiff gweddillion archeolegol eu trefnu yn ôl safle a chyd-destun os yw’n hysbys. Mewn rhai achosion, gellir marcio esgyrn dynol â rhif cyd-destun neu dderbynodi, ond y nod yw peidio â marcio’r gweddillion oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol i osgoi dryswch wrth eu hastudio neu eu harddangos. Lle bynnag y bo modd, caiff sgerbydau unigol eu storio fesul un mewn bocs. Lle bo esgyrn unigolion yn gymysg e.e. o feddrod siambr Neolithig, cant eu storio yn ôl eu cyd-destun archeolegol. Caiff pob bocs ei labelu ag enw’r safle archeolegol ac a gwybodaeth am y sgerbydau neu’r cyd-destun os yw’n hysbys.

10. GWAITH YMCHWIL

Rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau am fynediad at weddillion dynol am resymau ymchwil yn ysgrifenedig i’r Ceidwad perthnasol. Rhaid i unrhyw geisiadau esbonio natur y gwaith ymchwil a’r canlyniadau a ddisgwylir.

Rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau am samplo neu ddadansoddi gweddillion dynol yn ysgrifenedig gan ddefnyddio Ffurflen Gais am Samplo'r Amgueddfa. Caiff y rhain eu hasesu yn ol yr angen, gan guradur y maes gwaith o dan sylw, y cadwraethydd, y Ceidwad, a gellir gofyn am gymeradwyaeth ymgynghorydd annibynnol hefyd.

Bydd disgwyl i bob ymchwiliwr sy’n cael caniatâd am fynediad ddilyn cyngor y person a ddynodir i oruchwylio’r ymweliad.

11. DYCHWELYD ADREF, AIL-GLADDU A DAD-DDERBYNODI

Byddwn ni’n parhau i fod yn weithgar wrth ddychwelyd ein gweddillion dynol o wledydd tramor i’w gwledydd brodorol lle bo hynny’n briodol. Byddwn ni’n agored i geisiadau am ddychwelyd unrhyw weddillion dynol eraill ac yn ymgynghori’n llawn â’r bobl sy’n eu hawlio. Caiff ceisiadau am ddychwelyd ac ail-gladdu gweddillion dynol eu pwyso a’u mesur yn ol y drefn a amlinellir yn nogfen yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Guidance for the Care of Human Remains in Museums. Lle bo’n briodol, byddwn ni’n gofyn am gyngor annibynnol gan Bwyllgor Gweddillion Dynol yr Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon hefyd.

Rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau am ddychwelyd, ail-gladdu a dad-dderbynodi yn ysgrifenedig i Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. Bydd caniatâd terfynol am drosglwyddo eitemau o eiddo’r Amgueddfa yn dibynnu ar Bolisi Caffael a Gwaredu’r Amgueddfa ac yn amodol ar gadarnhad Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.