Cynhanes Cynnar

Mae'r rhan hon o'r casgliadau yn cwmpasu bron yr holl amser y bu pobl yn byw yng Nghymru - sef bron i 250,000 o flynyddoedd i gyd. Dim ond y deunyddiau cryfaf sydd wedi goroesi: cerrig, esgyrn, crochenwaith ac ambell ddarn o bren.

Yn Ogof Pontnewydd y mae'r dystiolaeth gyntaf o bobl yn byw yng Nghymru , sef 250,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r Neanderthaliaid cynnar hyn wedi gadael enghreifftiau o'u hoffer carreg amrwd, yr anifeiliaid roeddynt yn eu hela a'u bwyta a hyd yn oed eu hesgyrn nhw eu hunain.

Penglog arth

Wrth i fodau dynol modern esblygu, gwelwn fwy o amrywiaeth yn yr offer a ddefnyddir yng Nghymru a cheir y dystiolaeth gyntaf o gladdu defodol, yn Ogof Paviland, Gŵyr. Yno claddwyd dyn ifanc wedi'i orchuddio ag ocr coch, ynghyd â nwyddau claddu.

Roedd tirwedd garw yn wynebu'r bobl gynnar hyn, yn enwedig â'r wlad yng nghrafangau Oes yr Iâ. Tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl fe newidiodd hyn i gyd: cynhesodd yr hinsawdd, ciliodd y rhewlifau a daeth coedwigoedd yn eu lle.

Yn hytrach na hela heidiau o ceirw Llychlyn a mamothiaid, bellach roedd pobl yn hela ceirw, yn pysgota a chasglu planhigion i'w bwyta. Mae'r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr offer - addaswyd yr erfynnau ar gyfer yr anghenion newydd.

Parhaodd pobl i hela-gasglu fel hyn tan c.4,500 CC pan ddaeth y syniad o ffermio i Brydain o'r cyfandir. Gyda'r cnydau a'r anifeiliaid newydd daeth crochenwaith hefyd, a datblygodd llwybrau masnach ledled Ynysoedd Prydain yn cysylltu cymunedau dros bellter mawr. O'r pwys mwyaf i archaeolegwyr efallai, dyma'r cyfnod hefyd pryd y dechreuwyd adeiladu beddrodau , gan selio'r dystiolaeth am ffordd o fyw pobl ers talwm i bobl heddiw ei dehongli.

Dr Steve Burrow, Cynhanesydd Cynnar

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.