Amgueddfa Cymru

Gweithiau ar Bapur

Mae 28,000 o weithiau ar bapur yn y casgliad Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys dyfrluniau, darluniau, printiadau, llyfrau brasluniau ac albymau. Casgliad cynhwysfawr yw hwn sy'n ymestyn o brintiadau gan Rembrandt a Picasso i ddyfrluniau gan Cézanne a Turner a darluniau gan Burne-Jones a David Nash. Ceir daliadau arbennig o helaeth o weithiau gan Augustus a Gwen John (dros 2,000 o weithiau), Graham Sutherland, David Jones a Ray Howard-Jones. Rhydd y rhain gyfle unigryw i weld dulliau gweithio yr arlunwyr hyn. Hefyd y mae gennym gasgliad mawr o olygfeydd topograffaidd o Gymru.

Mae gweithiau ar bapur yn hynod sensitif i'w hamgylchedd - mae gormod o oleuni yn achosi i liwiau bylu ac i bapur freuo. Hefyd, mae'r gweithiau yma yn rhy niferus ac yn rhy fregus i gael eu dangos yn barhaol. Cedwir hwy yn yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau, lle rheolir yr hinsawdd. Cynhelir arddangosfeydd dros dro rheolaidd o weithiau ar bapur o'r casgliad: ymhlith yr arddangosfeydd diweddar bu Gwen John nas gwelwyd, Gweledigaethau Oes Fictoria, Taith Ddarluniadol Drwy Gymru a Chwaeth y Chwiorydd: Gweithiau ar bapur o gasgliad Davies. At hyn, bob mis bydd gwaith gwahanol o'r casgliad yn cael ei arddangos fel Darlun y Mis. Bydd pob un o'r rhain yn dilyn cais gan ymwelydd, ymchwilydd neu aelod o'r staff, neu bydd yn berthnasol i arddangosfeydd neu weithgareddau eraill rydyn ni'n cynnal.

Mae croeso i chi ddod i weld y gweithiau nad yn yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau. Gellir trefnu apwyntiadau ar gyfer Dydd Mawrth - Dydd Gwener rhwng 10.00 am a 4.00 pm. Fel rheol y mae angen wythnos o rybudd ymlaen llaw.


Ffôn: (029) 20573232
Ffacs: (029( 20572351
E-bost: art_dept@nmgw.ac.uk

Cyfeiriad: Yr Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.