Paentiadau hanesyddol

[delwedd: Adriaen van Cronenburgh (c. 1520/5-c.1604); Catrin o Ferain, 1568; Olew ar banel derw]

Adriaen van Cronenburgh
Catrin o Ferain

[delwedd: Ysgol Brydeinig, 17eg ganrif; Portread o Philip Proger; Olew ar gynfas]

Ysgol Brydeinig, 17eg ganrif
Portread o Philip Proger

[delwedd: Claude Lorrain (1600 - 1682); Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio yr Eunuch, 1678; Olew ar gynfas]

Claude Lorrain
Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio yr Eunuch

Dathlodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gaffaeliad Portread o William Herbert, Iarll Cyntaf Penfro gan Arlunydd Anhysbys o'r Ysgol Iseldirol (tua 1560-5), drwy ail-arddangos ein portreadau cynnar Cymreig eraill. Portreadau wedi eu paentio ar banelau pren yw y rhan fwyaf o'r paentiadau sydd wedi goroesi o'r 16eg ganrif yng Nghymru. Yn bennaf, maent yn portreadu pobl gyfoethog, yn bendefigion ac yn uchelwyr. Roedd y modd gan y rhain i deithio i Lundain i gael tynnu eu portreadau gan artistiaid o'r Iseldiroedd a fewnfudodd yno ac a sefydlodd weithdai portreadau mawr yn y ddinas. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys y portreadau Catrin o Ferain (a adwaenid fel 'Mam Cymru' oherwydd ei phriodasau lluosog â'i chysylltodd â nifer o deuluoedd Cymreig pwysig) gan Adrian van Cronenburgh, a baentiwyd tramor tua 1568. Gwelir yma hefyd y portread dwbl Syr Thomas Mansel a'i wraig Jane, yn dangos nhw'n dal dwylo'n dyner, wedi ei ddyddio tua 1625, a'r darlun hudolus Portread o Philip Proger, gŵr llys yn cael ei bortreadu yn cario cenhinen, fel y byddai Cymry yn aml yn gwneud wrth ddathlu Gŵyl Ddewi yn y Llys yn Llundain.

Mae'r casgliadau hefyd yn cynnwys arddangosiad pwysig o fanddarluniau cynnar gan artistiaid fel Hilliard, Isaac Oliver a John Hoskins. Gellir cymharu'r paentiadau hyn i'r paentiadau a gynhyrchwyd ar draws Ewrop yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, yn cynnwys enghreifftiau ardderchog o waith Cima da Conegliano, Bellini, Amico Aspertini a weithiai yn yr Eidal yn yr 16eg ganrif, paentiadau tirlun Ewropeaidd pwysig yr 17eg ganrif yn cynnwys gweithiau gan Poussin, Claude, Van de Cappelle, Aelbert Cuyp a Jan Asselyn, a phaentiadau Gogledd Ewrop gan Reubens, Van Dyck, Frans Hals a Mathieu Le Nain.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.