Amgueddfa Cymru

Casgliad Morton Nance o Grochenwaith Cymreig

[delwedd: Morton Nance]

Morton Nance 1868-1952

[delwedd: Cawgiau porslen Abertawe 1816-1826]

Cawgiau porslen Abertawe 1816-1826

[delwedd: Jwg Perlwaith wedi ei haddurno ag Arglwydd Wellington 1812-13]

Jwg Perlwaith wedi ei haddurno ag Arglwydd Wellington 1812-13

[delwedd: Jwg Perlwaith wedi ei llunbrintio â phatrwm 'Gwartheg yn croesi nant']

Jwg Perlwaith wedi ei llunbrintio â phatrwm 'Gwartheg yn croesi nant'

[delwedd: Penddelw grochenwaith o John Wesley, Crochendy De Cymru tua 1840-55]

Penddelw grochenwaith o John Wesley, Crochendy De Cymru tua 1840-55

[delwedd: Set de Porslen Nantgarw tua 1818, cymynrodd a roddwyd ym 1994]

Set de Porslen Nantgarw tua 1818, cymynrodd a roddwyd ym 1994

Ganwyd Ernest Morton Nance yng Nghaerdydd ym 1868. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac ym 1895 ymgymrodd â swydd dysgu'r Clasuron yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yno y dechreuodd ymddiddori mewn crochenwaith a phorslen Cymreig. Decheuodd gasglu cynnyrch diwydiant cerameg brodorol Cymru, gan ganolbwyntio yn bennaf ar y nwyddau a gynhyrchwyd gan Grochendy Cambrian, oedd wedi ei leoli yn Abertawe ac a fu'n gweithredu o'r 1760au tan ei gau ym 1870.

'Yn Abertawe dangoswyd i mi, gyda balchder, sbesimenau o gynnyrch lleol a mynegais fy awydd i fod yn berchen ar rai ohonynt. Dywedwyd wrthyf y byddai'n amhosibl cael hyd i ddim mwy nag ychydig ddarnau gwasgaredig, gan ei fod mor brin ac yn cael ei berchnogi yn dynn iawn. Dyma i chi her. Rheswm gwael mi wn dros ffurfio casgliad, serch hynny roedd yn rheswm a ymddangosai yn ddigonol i mi ar y pryd' *

Yn dilyn ei flynyddoedd cynnar yn Abertawe, treuliodd Morton Nance lawer o'i yrfa yn gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain, ac ar ei ymddeoliad aeth i fyw yn St Ives yng Nghernyw. Fodd bynnag daliodd ei gysylltiad â Chymru yn gryf a pharhaodd ei frwdfrydedd dros gerameg Gymreig heb ball.

Dros y blynyddoedd byddai Morton Nance yn creu casgliad helaeth o ddarnau o grochenwaith a phorslen Cymreig ac wrth wneud hynny ymgymrodd ag ymchwil manwl ar hanes a dulliau cynhyrchu y ffatrioedd Cymreig.

Ym 1942, yn dilyn ei ymddeoliad, crynhodd Morton Nance ei astudiaeth oes o'r diwydiant cerameg Cymreig i gyhoeddiad sympus The Pottery and Porcelain of Swansea and Nantgarw. Roedd hwn, ar ei gwblhau, bron yn chwe chan tudalen ac ynddo o leiaf fil o ddarluniau. Yn y rhagair i'r llyfr ysgrifenodd R.L.Hobson, cyn-Geidwad Adran Gerameg yr Amgueddfa Brydeinig, ei fod yn amau,

'...a oedd unrhyw thema yn ymwneud â Cherameg wedi cael ei thrin mor drwyadl erioed'. *

Hyd heddiw, y llyfr hwn yw'r gwaith awdurdodol ar y diwydiant cerameg yng Nghymru, ac mae'r casgliadau cerameg y cafodd ei seilio arnynt, yn awr yn ffurfio rhan amhrisiadwy o'n casgliad ni o grochenwaith a phorslen Cymreig yma yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cyrhaeddodd y casgliad yma fel rhodd ar ôl marwolaeth Morton Nance ym 1952. Mae'r casgliad yn cynnwys pymtheg cant o ddarnau a ddyblodd, ym 1952, gasgliad yr amgueddfa o borslen Cymreig, a threblu yr eitemau o grochenwaith Cymreig.

Mae'r casgliad yn cynnwys llawer o eitemau ardderchog o borslen gafodd eu gwneud yn Abertawe a nifer o ddarnau o gyfnod byrhoedlog cynhyrchu porslen yn Nantgarw. Mae hefyd yn cynnwys rhai eitemau arbennig o nodedig o nwyddau crochenwaith o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar o ffatri Cambrian ynghyd ag enghreifftiau niferus o nwyddau llunbrintiad diweddarach.

Gwelir hefyd yn y casgliad nifer o nwyddau o ffatri Morgannwg, a fu'n gweithio ar y cyd am dipyn gyda ffatri fwy y Cambrian fwy yn Abertawe, yn ogystal â detholiad o eitemau a gynhyrchwyd gan Grochendy De Cymru, a ddechreuodd gynhyrchu yn Llanelli ym 1840 gan gau ym 1922, sy'n dynodi diwedd cynhyrchu cerameg ar raddfa fawr yng Nghymru.

Trawsffurfiodd y casgliad ardderchog yma y daliadau sylweddol o waith cerameg Gymreig oedd gennym eisoes, ac yn y blynyddoedd ers hynny rydym wedi parhau i ychwanegu at ein casgliad. Cawsom nifer o gaffaeliadau pwysig yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Mae gan y casgliad o gerameg Gymreig gartref parhaol erbyn hyn yn yr Oriel Joseph, sy'n adrodd y stori gyfan am ffatrioedd crochenwaith a phorslen Cymru o'u dechreuadau ym 1764 hyd at gau Crochendy De Cymru ym 1922.


* The Pottery and Porcelain of Swansea and Nantgarw, Ernest Morton Nance, London, 1942.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.